Symffoni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
TjBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.5.4) (robot yn ychwanegu: ba:Симфония |
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: br:Sinfonienn |
||
Llinell 24: | Llinell 24: | ||
[[bg:Симфония]] |
[[bg:Симфония]] |
||
[[bn:সিম্ফনি]] |
[[bn:সিম্ফনি]] |
||
[[br:Sinfonienn]] |
|||
[[bs:Simfonija]] |
[[bs:Simfonija]] |
||
[[ca:Simfonia]] |
[[ca:Simfonia]] |
Fersiwn yn ôl 20:11, 8 Mehefin 2012
Darn cerddoriaeth glasurol Gorllewinol, mewn pedwar symudiad neu ran fel rheol, yw symffoni. Datblygodd y symffoni glasurol o ganol y 18fed ganrif ymlaen yn nwylo cyfansoddwyr fel Joseph Haydn a Mozart. Roedd y symudiad cyntaf yn gyflym ac ar ffurf sonata, yr ail yn araf a mynegol, y trydydd yn minuet a trio, a'r pedwerydd yn gyflym.
Ymestynodd Beethoven ystod emosiynol a thechnegol y symffoni gan ychwanegu corws a chantorion unigol yn ei Nawfed Symffoni. Gyda'r Mudiad Rhamantaidd yn y 19eg ganrif a chyfansoddwyr fel Schubert, Schumann, Johannes Brahms, Mendelssohn, Dvorak a Tchaikovsky, tyfodd y symffoni i fod yn un o ffurfiau blaenaf a mwyaf poblogaidd y traddodiad Clasurol.
Ar ddiwedd y ganrif honno a dechrau'r ugeinfed, daeth cyfansoddwyr fel Anton Bruckner a Gustav Mahler â datblygiadau newydd ym maint a chynnwys y symffoni. Arbrofai Mahler yn arbennig gyda symffonïau marweddog, thematig, i'w perfformio gan gerddorfeydd mawr; mil o leisiau yn achos ei 8fed Symffoni, er enghraifft.
Ond gyda chyfansoddwyr fel Sibelius troes y symffoni'n fwy cryno, mwy pur yn ei helfennau a llai cyfyng ei strwythr: symffoni un symudiad yw 7fed Symffoni Sibelius er enghraifft.
Yn ail hanner yr 20fed ganrif cafwyd amrywiaeth mawr ym myd y symffoni, o gerddoriaeth dra-fodern Dmitri Shostakovich i arddulliau arbrofol, minimalaidd y to newydd.