Cerddoriaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: sn:Mimhanzi |
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: diq:Muzik, nap:Múseca |
||
Llinell 64: | Llinell 64: | ||
[[da:Musik]] |
[[da:Musik]] |
||
[[de:Musik]] |
[[de:Musik]] |
||
[[diq:Muzik]] |
|||
[[dv:ސަންގީތު]] |
[[dv:ސަންގީތު]] |
||
[[el:Μουσική]] |
[[el:Μουσική]] |
||
Llinell 140: | Llinell 141: | ||
[[mzn:ساز]] |
[[mzn:ساز]] |
||
[[nah:Cuīcayōtl]] |
[[nah:Cuīcayōtl]] |
||
[[nap:Múseca]] |
|||
[[nds:Musik]] |
[[nds:Musik]] |
||
[[nds-nl:Meziek]] |
[[nds-nl:Meziek]] |
Fersiwn yn ôl 15:53, 8 Mehefin 2012
Cerddoriaeth yw celfyddyd a fynegir drwy gyfrwng sŵn wedi'i drefnu mewn amser. Elfennau cyffredinol cerddoriaeth yw traw sy'n rheoli alaw a harmoni, rhythm (a'i gysyniadau perthynol tempo a medr), deinameg, soniaredd a gwead.
Mae'r cread, perfformiad, arwyddocâd a hyd yn oed diffiniad cerddoriaeth yn amrywio yn ôl diwylliant a chyd-destun cymdeithasol. Mae cerddoriaeth yn amrywio o gyfansoddiadau trefniedig llym (a'u hail-gread yn ystod perfformiad) i ffurfiau cerddorol byrfyfyriol. Fe ellir rhannu cerddoriaeth i mewn i genres gwahanol.
I bobl yn nifer o ddiwylliannau, mae cerddoriaeth yn rhan hanfodol o'u ffordd o fyw. Diffiniodd athronwyr Groeg ac India hynafol gerddoriaeth fel tonau wedi'u trefnu'n llorweddol fel melodïau ac yn fertigol fel harmonïau. Yn gyffredinol nid oes un cysyniad rhyng-ddiwylliannol sy'n diffinio beth yw cerddoriaeth heblaw ei bod yn 'sŵn drwy amser'.[1]
Hanes
Cyfnodau cyn-hanes
Mae'n rhaid bod datblygiad cerddoriaeth ymhlith bodau dynol cynnar wedi digwydd wrth iddynt sylwi ar synnau naturiol fel y synnau y mae adar ac anifeiliaid eraill yn gwneud wrth gyfathrebu. Cerddoriaeth gyn-hanesyddol yw'r enw a roddir ar gerddoriaeth a gynhyrchwyd gan ddiwylliannau cyn-ysgrifen. Gall ysgolheigion ddychmygu cerddoriaeth gyn-hanesyddol wrth astudio olion a ddargynfyddwyd ar safleoedd paleolithig, fel esgyrn gyda thyllau a ddefnyddiwyd fel ffliwt o ryw fath.[2]
Fe welir y cofnodion cynharach o fynegiant cerddorol yn y Samaveda yn India ac mewn sgript cuneiform yn Ur sy'n dyddio o 2,000 C.C. Hefyd fe ddarganfyddwyd offerynnau llinynnol o'r Gwareiddiad Dyffryn Indus.[3]
Mae gan India un o'r traddodiadau cerddorol hynaf yn y byd; fe welir cyfeiriadau at gerddoriaeth glasurol Indiaidd (marga) yn llenyddiaeth hynafol y traddodiad Hindwaidd, y Veda. Mae gan draddodiad cerddorol Tseina hanes o dair mil o flynyddoedd ac roedd cerddoriaeth yn agwedd pwysig o fywyd diwylliannol yng Ngroeg hynafol
Diwylliannau gorllewinol
Cyfeiriadau
- ↑ Nattiez 1990: 47-8, 55
- ↑ Son et musique au paléolithique", Pour La Science,. 253, 52-58 (1998)
- ↑ The Music of India Gan Reginald MASSEY, Jamila MASSEY. Google Books