Le Morte d'Arthur: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: gl:Le Morte d'Arthur |
TjBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: br:Le Morte d'Arthur |
||
Llinell 22: | Llinell 22: | ||
[[bg:Смъртта на Артур]] |
[[bg:Смъртта на Артур]] |
||
[[br:Le Morte d'Arthur]] |
|||
[[cs:Artušova smrt]] |
[[cs:Artušova smrt]] |
||
[[de:Le Morte Darthur]] |
[[de:Le Morte Darthur]] |
Fersiwn yn ôl 21:38, 5 Mehefin 2012
Le Morte d'Arthur, neu Le Morte Darthur yn yr argraffiad cyntaf ("Marwolaeth Arthur") yw'r pwysicaf o'r fersiynau o'r chwedlau am y brenin Arthur yn y traddodiad Seisnig. Mae'n gasgliad o ddeunydd Ffrengig a Seisnig am Arthur gan Syr Thomas Malory (c. 1405 - 1471), wedi eu hail-adrodd yn ôl syniadau Malory ei hun, ac yn cynnwys rhywfaint o waith gwreiddiol Malory ei hun yn stori Gareth. Un ffynhonnell bwysig oedd y Lawnslot-Greal, gwaith Ffrangeg o ddechrau'r 13eg ganrif. Er gwaethaf yr enw Ffrangeg, testun Saesneg ydyw.
Argraffwyd y llyfr am y tro cyntaf yn 1485 gan William Caxton, a daeth yn eithriadol o boblogaidd. Mae'n cynnwys wyth stori wahanol:
- "Fro the Maryage of Kynge Uther unto Kyng Arthure that Regned Aftir Hym and Ded Many Batayles"
- "The Noble Tale Betwyxt Kynge Arthure and Lucius the Emperor of Rome"
- "The Noble Tale of Sir Launcelot Du Lake"
- "The Tale of Sir Gareth of Orkney"
- "The Fyrst and the Secunde Boke of Syr Trystrams de Lyones" (hanes Trystan ac Esyllt)
- “The Noble Tale of the Sankgreal” (yr ymchwil am y Greal Santaidd)
- "Sir Launcelot and Queen Gwenyvere"
- "The Dethe of Arthur"