Ymerodraeth Newydd Assyria: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn newid: ku:Împeratoriya Asûr
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 16: Llinell 16:
[[ar:إمبراطورية آشورية حديثة]]
[[ar:إمبراطورية آشورية حديثة]]
[[cs:Novoasyrská říše]]
[[cs:Novoasyrská říše]]
[[de:Assyrisches Reich#Das Neuassyrische Großreich (911 v. Chr. bis 610 v. Chr.)]]
[[en:Neo-Assyrian Empire]]
[[en:Neo-Assyrian Empire]]
[[fi:Uus-Assyria]]
[[fi:Uus-Assyria]]

Fersiwn yn ôl 00:36, 31 Mai 2012

Ymerodraeth Newydd Assyria (gwyrdd).

Defnyddir y term Ymerodraeth Newydd Assyria am y cyfnod yn hanes Assyria rhwng 934 CC a 609 CC. Hyd y cyfnod yma, roedd grym Assyria wedi bod yn gyfyngedig i ardal Mesopotamia, ond o gyfnod y brenin Adad-nirari II, datblygodd yn ymerodraeth fawr, gyda'i meddiannau yn ymestyn cyn belled a'r Aifft am gyfnod. Cred rhai haneswyr mai hi oedd y wir ymerodraeth gyntaf mewn hanes.

Ychwanegwyd at yr ymerodraeth gan Ashurnasirpal II (883 CC - 859 CC), fu'n ymgyrchu cyn belled a Ffenicia. Parhaodd yr ymgyrchoedd milwrol dan ei fab, Shalmaneser III (858 CC - 823 CC), pan gipiwyd dinas Babilon ac ymladd yn erbyn cynghrair o wladwriaethau Syraidd dan arweiniad Hadadezer, brenin Damascus yn 853 CC, cynghrair oedd yn cynnwys Ahab, brenin Israel. Yn ddiweddarach gorfododd Shalmaneser Jehu, brenin Israel, a dinasoedd Tyrus a Sidon i dalu teyrnged iddo.

Am gyfnod, rhwng 823 a 745 CC, edwinodd grym Assyria dan reolwyr oedd yn cynnwys y frenhines Semiramis. Yn 746 CC daeth Tiglath-pileser III i'r orsedd, a dechreuodd Assyria ymestyn ei thiriogaethau unwaith eto, gan ymgyrchu yn Syria a Ffenicia a chipio Babilon unwaith eto. Yn 727 CC, olynwyd ef gan Shalmaneser V. Bu ef farw'n annisgwyl yn 722 CC wrth ymgyrchu yn Samaria, a chipiwyd yr orsedd gan Sargon II. Concrodd ef Samaria, a rhoi diwedd ar Deyrnas Israel trwy gaethgludo 27,000 o'i thrigolion.

Pan laddwyd Sargon wrth ymladd yn erbyn y Cimmeriaid yn 705 CC, daeth ei fab Sennacherib yn frenin. Symudodd ef y brifddinas i Nineveh. Cofnodir ei ymgyrch yn erbyn teyrnas Judah yn 701 CC yn Llyfr Esiea. Llofruddiwyd Sennacherib yn 681 CC, ac olynwyd ef gan ei fab, Esarhaddon. Ymosododd ef ar yr Aifft, yn aflwyddiannus yn 673 CC ond yn llwyddiannus ddwy flynedd yn ddiweddarach. Olynwyd ef gan ei fab Aššur-bani-pal yn 669 CC, a than ei deyrnasiad ef cyrhaeddodd Assyria uchafbwynt ei grym.

Wedi marwolaeth Ashurbanipal yn 627 CC, dechreuodd yr ymerodraeth ddadfeilio. Daeth yr ymerodraeth i ben wedi i'r Babiloniaid gipio dinas Nineveh yn 612 CC.