Llyfrgell Brydeinig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
RedBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2) (robot yn newid: ro:Biblioteca Britanică |
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: tr:British Library |
||
Llinell 50: | Llinell 50: | ||
[[sv:British Library]] |
[[sv:British Library]] |
||
[[tg:Китобхонаи Британия]] |
[[tg:Китобхонаи Британия]] |
||
[[tr:British Library]] |
|||
[[uk:Британська бібліотека]] |
[[uk:Британська бібліотека]] |
||
[[vi:Thư viện Anh]] |
[[vi:Thư viện Anh]] |
Fersiwn yn ôl 14:10, 29 Mai 2012
Llyfrgell genedlaethol y Deyrnas Unedig ydy'r Llyfrgell Brydeinig. Lleolir y llyfrgell yn St. Pancras, Llundain, mae'n un o lyfrgellau ymchwil pwysica'r byd, mae'n dal drost 150 miliwn o eitemau ym mhob iaith a fformat; llyfrau, newyddiaduron, papurau newydd, cylchgronnau, recordiau sain a cherddoriaeth, breinleni, basau data, mapiau, stampiau, argraffiadau, darluniau a llawer mwy, gan ei wneud yn gasgliad mwya'r byd. Mae casgliadau'r llyfrgell yn cynnwys tua 25 miliwn o lyfrau,[1] ynghyd a casgliad ychwanegol o lawysgrifau sylweddol ac eitemau hanesyddol yn dyddio'n ôl i 300CC.
Llawysgrifau Cymraeg
Cedwir sawl llawysgrif Gymraeg yn y Llyfrgell Brydeinig. Gwaddolwyd y rhan fwyaf ohonynt i'r llyfrgell gan y Gwyneddigion yn hanner cyntaf y 19eg ganrif, yn y dyddiau cyn sefydlu Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Maent yn cynnwys casgliadau'r Morysiaid, yn cynnwys rhai yn llaw Lewis Morris ei hun, ac eraill a gasglwyd gan Owain Myfyr ac aelodau eraill o'r gymdeithas, sy'n cynnwys sawl llawysgrif ganoloesol hefyd.