Tour de France: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dyddiad 2012 - 30 Mehefin-22 Gorffennaf
→‎Ystadegau: Luxembourg (5)
Llinell 192: Llinell 192:
Mae [[Gino Bartali]] yn dal y record am yr amser hiraf rhwng buddugoliaethau yn y Tour, gan ennill ei fuddugoliaeth cyntaf ac olaf yn y ''Tour'' 10 mlynedd arwahan (yn 1938 a 1948).
Mae [[Gino Bartali]] yn dal y record am yr amser hiraf rhwng buddugoliaethau yn y Tour, gan ennill ei fuddugoliaeth cyntaf ac olaf yn y ''Tour'' 10 mlynedd arwahan (yn 1938 a 1948).


Reidwyr o Ffrainc sydd wedi ennill y nifer fwyaf o'r ''Tour'' (36), gyda Gwlad Belg yn dilyn (18), Sbaen (11), yr Unol Dalieithau (10), yr Eidal (9), Luxembourg (4), ac yna'r Swisdir a'r Iseldiroedd (2 yr un) ac Iwerddon, Denmarc, Almaen a'r Awstralia (1 yr un).
Reidwyr o Ffrainc sydd wedi ennill y nifer fwyaf o'r ''Tour'' (36), gyda Gwlad Belg yn dilyn (18), Sbaen (11), yr Unol Dalieithau (10), yr Eidal (9), Luxembourg (5), ac yna'r Swisdir a'r Iseldiroedd (2 yr un) ac Iwerddon, Denmarc, Almaen a'r Awstralia (1 yr un).


Mae un reidiwr wedi ennill y gystadleuaeth bwyntiau, nifer record, 6 o weithiau:
Mae un reidiwr wedi ennill y gystadleuaeth bwyntiau, nifer record, 6 o weithiau:

Fersiwn yn ôl 02:43, 28 Mai 2012

Tour de France
Enw Lleol Le Tour de France
Ardal Ffrainc a gwledydd cyfagos
Dyddiad 30 Mehefin i 22 Gorffennaf (2012)
Math Ras Gamau (Taith Mawr)
Cyfarwyddwr Cyffredinol Christian Prudhomme
Hanes
Y ras gyntaf 1903
Nifer o rasus 96 (2009)
Enillydd cyntaf Maurice Garin
Enillydd y nifer fwyaf o weithiau Lance Armstrong (7) 1999-2005
Enillydd diweddaraf Cadel Evans 2011
Enillydd y nifer fwyaf o Grysau Melyn Eddy Merckx (96) (111 overall incl. half stages)
Enillydd y nifer fwyaf o Gamau Eddy Merckx (34)

Ras seiclo mwyaf adnabyddedig y byd yw Le Tour de France ("Taith Ffrainc"). Mae'n ras ffordd 22 diwrnod, 20 cymal sydd fel arfer yn cael ei rhedeg dros lwybr o 3000km. Mae'n mynd o amgylch y rhan fwyaf o Ffrainc a, weithiau, drwy wledydd cyfagos. Torrir y daith yn sawl cymal rhwng un dref a'r llall; mae pob cymal yn ras wahanol. Mae'r amser mae pob beiciwr yn ei gymryd i gyflawni pob cymal yn cael ei ategu at gyfanswm cronnus i benderfynu enillydd terfynol y Tour.

Ynghyd â'r Giro d'Italia (Taith yr Eidal) a Vuelta a España (Taith Sbaen), y Tour de France ydy un o dri phrif ras cam, a'r hwyaf yng nghalendr yr Union Cycliste Internationale (UCI). Tra bod y ddwy ras arall yn weddol gyfarwydd yn Ewrop, maent yn gymharol ddi-adnabyddedig y tu allan i'r cyfandir, adnabyddir Pencampwriaethau Byd yr UCI i ddilynwyr seiclo. Mewn cyferbyniad, mae'r Tour de France wedi bod yn enw mawr chwaraeol yn yr aelwyd ar draws y byd, hyd yn oed i'r rhai sydd ddim fel arfer â diddordeb mewn seiclo.

Fel yn y rhan fwyaf o rasys seiclo, mae cystadleuwyr yn y Tour de France yn cymryd rhan fel aelod o dîm. Mae rhwng 20 a 22 o dimau a 9 reidiwr ym mhob un. Yn draddodiadol, ar wahoddiad yn unig y caiff y timau gystadlu, a gwahoddir timau proffesiynol gorau'r byd. Adnabyddir pob tîm gan enw ei gefnogwr ariannol, ac mae gan y beicwyr git nodedig. Mae pob beiciwr o fewn tîm yn helpu'r aelodau eraill ac mae gan bob un 'gar tîm', sy'n dilyn y ras (fersiwn symudol o griwiau pit mewn rasio ceir).

Hanes

Sefydlwyd y Tour fel digwyddiad cyhoeddusrwydd ar gyfer papur newydd L'Auto (rhagflaenydd papur newydd L'Équipe heddiw) gan ei olygydd, Henri Desgrange, i fynd gam ymhellach na ras Paris-Brest et retour (a noddwyd gan L'Auto hefyd).[1] Daeth y syniad o ras daith o amgylch Ffrainc gan brif ohebydd newyddion seiclo Desgrange, y dyn 26 oed, Géo Lefèvre[2]. Cafodd Desgrange ginio â Lefèvre mewn bwyty (heddiw 'TGI Friday') ym Montmartre, Paris, ar 20 Tachwedd 1902[2]. Datganodd L'Auto y ras ar 19 Ionawr 1903. Y cynllun oedd i drefnu taith pum wythnos o 31 Mai hyd 5 Gorffennaf; ond profodd hyn i fod yn rhy beichus. Gan na chafwyd ond 15 o ymgeiswyr, cwtogodd Desgrange ar hyd y ras felly i 19 diwrnod, gan newid y dyddiadau fel y byddai'r ras yn rhedeg o 1 hyd 19 Gorffenaf a chynnig dogn dyddiol. Denodd y cynllun newydd 60 o ymgeiswyr, gan gynnwys amaturiaid, rhai yn ddi-swydd, ac eraill ond yn fentrus. Y cymeriadau hyn a ddaliodd ddychymyg y cyhoedd[2]. Roedd natur galed y ras (gyda hyd cymhedrol pob 6 cam yn 400km, disgwylwyd y reidwyr i seiclo drwy ddechrau'r nos weithiau[3], a phrofodd i fod yn boblogaidd. Roedd llwyddiant y ras gymaint fel y cynyddodd cylchrediad y papur, oedd tua 25,000 cyn Tour 1903, i 65,000 ar ôl y ras[2]. Erbyn 1908, roedd y ras wedi hybu'r papur at gylchrediad o dros chwarter miliwn, ac yn ystod Tour 1923, roedd yn gwerthu 500,000 copi y diwrnod. Honodd Desgrange mai 854,000 oedd record uchaf y cylchrediad, lefel a gyrhaeddwyd yn ystod Tour 1933[4] Erbyn heddiw, trefnir y ras gan y Société du Tour de France, rhan atodol o Amaury Sport Organisation (ASO), sydd yn ei dro yn ran o gwmni cyfryngau L'Équipe.

Disgrifiad

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Cyfarwyddwyr y Ras

Camau enwog

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Gwobr Arianol

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Crysau Dosbarthol

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Yr Arweiniwr

Enillydd saith gwaith, Lance Armstrong yn y maillot jaune.

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Dosbarthiad pwyntiau yn y gystadleuaeth

Gweler hefyd: Points classification.

Gwobrwyir y maillot vert (crys gwyrdd) ar gyfer pwytiau sbrint. Ac ar ddiwedd pob cam, bydd pob beiciwr sy'n gorffen yn gyntaf, yn ail, ayyb yn ennill pwyntiau. Gwobrwyir pwyntiau uwch ar gyfer camau gwastad, gan fod sbrintiau'n fwy debygol, a llai ar gyfer camau'r mynyddoedd lle mae dringwyr yn debygol o ennill.

Camau gwastad: Rhoddir 35, 30, 26, 24, 22, 20, 19, 18, 17, 16, 15, 14, 13, 12, 11, 10, 9, 8, 7, 6, 5, 4, 3, 2 ac 1 o bwyntiau i'r 25 reidiwr cyntaf i orffen.

Camau mynyddoedd canolig: Rhoddir25, 22, 20, 18, 16, 15, 14, 13, 12, 11, 10, 9, 8, 7, 6, 5, 4, 3, 2 ac 1 o bwyntiau i'r 20 reidiwr cyntaf i orffen.

Camau mynyddoedd uchel: Rhoddir 20, 17, 15, 13, 12, 10, 9, 8, 7, 6, 5, 4, 3, 2 ac 1 o bwyntiau i'r 15 reidiwr cyntaf i orffen.

Time-trial: Rhoddir 15, 12, 10, 8, 6, 5, 4, 3, 2 ac 1 o bwyntiau i'r 10 reidiwr cyflymaf yn y cam.

Sprintiau canolraddol: Rhoddir 6, 4, a 2 o bwyntiau i'r 3 reidiwr cyntaf i orffen.

Os yw nifer o feicwyr yn gyfartal o ran nifer o bwyntiau yn y safle cyntaf, mae'r nifer o fuddugoliaethau cam yn penderfynu enillyd y Grys Gwyrdd, ac yna nifer o fuddugoliaethau yn y sbrintiau canolraddol os yw'r beicwyr yn dal yn gyfartal, wedyn safle'r reidiwr yn y dosbarth cyffredinol.

Brenin y Mynyddoedd

Michael Rasmussen yn gwisgo'r crys dot polca yn 2005.

Mae "Brenin y Mynyddoedd" yn gwisgo crys gwyn gyda smotiau coch (maillot à pois rouges), a gyfeirir ati fel y "crys dot polka" a ysbrydolwyd gan grys a welodd y cyn-drefnwr, Félix Lévitan, tra yn nhrac Vélodrome d'Hiver, Paris yn ei ieuenctid. Penderfynnir y gystadleuaeth gan bwyntiau a wobrwyir i'r reidwyr cyntaf i gyrraedd copa elltydd a mynyddoedd penodedig, gyda'r nifer mwyaf o bwyntiau ar gael ar y dringiadau caletaf.

Dringiadau yn y "Hors Catégorie" (HC): 20, 18, 16, 14, 12, 10, 8, 7, 6 and 5 points for the first 10 riders to the summit.

Dringiadau Categori 1: Rhoddir 15, 13, 11, 9, 8, 7, 6 ac 5 o bwyntiau ar gyfer y 8 reidiwr cyntaf i'r copa.

Dringiadau Categori 2: Rhoddir 10, 9, 8, 7, 6, ac 5 o bwyntiau ar gyfer y 6 reidiwr cyntaf i'r copa.

Dringiadau Categori 3: Rhoddir 4, 3, 2 ac 1 o bwyntiau ar gyfer y 4 reidiwr cyntaf i'r copa.

Dringiadau Categori 4: Rhoddir 3, 2 ac 1 o bwyntiau ar gyfer y 3 reidiwr cyntaf i'r copa.

NODYN: Ar gyfer dringiad olaf cam, bydd y pwyntiau'n cael eu dwblu (ar gyfer dringiadau HC, Cat 1 a Cat 2 yn unig).

Os bydd cwlwm rhwng nifer o bwyntiau'r safle gyntaf, bydd y nifer o fuddugoliaethau ar ddringiadau HC yn perderfynnu enillyd y Grys Dot Polca, ac yna nifer buddugoliaethau drigidau Categori 1 os oes dal cwlwm ac yna Categori 2, ayb. ...

Er i'r gystadleuaeth gael ei chyflwyno yn 1933, ni chyflwynwyd y grys tan 1975.

Dosbarthiadau Eraill

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Crysau Hanesyddol

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Camau

Gweler hefyd: Stage (bicycle race).

Mass-start stages

A collected peloton in the 2005 Tour.

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Time trial unigol

Lance Armstrong yn reidio prologue Tour 2004.

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Time trial Tîm

Gweler hefyd: Team time trial.
Team CSC yn TTT 2004.

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Diwylliant

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Arferiadau

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Terminoleg

Gweler hefyd: [[Bicycling terminology]].

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Ffilmiau

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Cerddoriaeth

Yn 1983, rhyddhaodd y grŵp Almaeneg, Kraftwerk, sengl o'r enw Tour de France, a ddisgrifiwyd fel "melding of man and machine" minimalaidd.[5] Yn ddiweddarach rhyddhawyd y sengl ar record Kraftwerk yn ymroddedig i'r ras, sef albwm Tour de France Soundtracks, 2003.

Defnydd Cyffuriau

Marwolaethau

Heblaw marwolaethau reidwyr, mae pedwar damwain marwol arall wedi digwydd.

  • 1957: 14 Gorffennaf, Llithrodd reidiwr motobeic Rene Wagter a'i ymdeithiwr, Alex Virot, gohebydd ar gyfer Radio-Luxembourg, ar rô ac aethont i ffwrdd o'r ffordd lle nad oedd atalfa yn y mynyddoedd ger road without Aix-les-Thermes.
  • 1958: Bu farw swyddog, Constant Wouters, ar ôl damwain gyda sbrintiwr André Darrigade yn ystod cam terfynnol y daith yn Parc des Princes.[7]
  • 2000: Bu farw bachgen 12 oed o Ginasservis, Phillippe, pan darwyd ef gan gar yng ngharafan cyhoeddusrwydd y Tour de France.[8]
  • 2002: Bu farw bachgen 7 oed, Melvin Pompele, ger Retjons ar ôl rhedeg o flaen y carafan.[8]

Ystadegau

Y record o weithiau mae un reidiwr wedi ennill y Tour yw 7:

  • Lance Armstrong (Yr Unol Daliaithau) yn 1999, 2000, 2001, 2002, 2003, 2004, a 2005 (7 gwaith yn ganlynol).

Reidwyr eraill a enillod y Tour 5 gwaith:

  • Jacques Anquetil (Ffrainc) yn 1957, 1961, 1962, 1963 a 1964;
  • Eddy Merckx (Gwlad Belg) yn 1969, 1970, 1971, 1972 a 1974;
  • Bernard Hinault (Ffrainc) yn 1978, 1979, 1981, 1982 a 1985;
  • Miguel Indurain (Sbaen) yn 1991, 1992, 1993, 1994 a 1995 (y cyntaf i wneud hyn mewn pum mlynedd canlynol).

Reidwyr eraill a enillod y Tour 3 gwaith:

Yr enilydd ieuengaf oedd Henri Cornet, yn 19 oed yn 1904. Y nesaf oedd Romain Maes yn 21 oed yn 1935.

Yr enillydd hynaf oedd Firmin Lambot, yn 36 oed yn 1922. Y hynaf nesaf oedd Henri Pelissier (1923), Gino Bartali (1948) a Cadel Evans (2011), roedd y ddau yn 34 oed.

Mae Gino Bartali yn dal y record am yr amser hiraf rhwng buddugoliaethau yn y Tour, gan ennill ei fuddugoliaeth cyntaf ac olaf yn y Tour 10 mlynedd arwahan (yn 1938 a 1948).

Reidwyr o Ffrainc sydd wedi ennill y nifer fwyaf o'r Tour (36), gyda Gwlad Belg yn dilyn (18), Sbaen (11), yr Unol Dalieithau (10), yr Eidal (9), Luxembourg (5), ac yna'r Swisdir a'r Iseldiroedd (2 yr un) ac Iwerddon, Denmarc, Almaen a'r Awstralia (1 yr un).

Mae un reidiwr wedi ennill y gystadleuaeth bwyntiau, nifer record, 6 o weithiau:

  • Erik Zabel (Yr Almaen) 1996, 1997, 1998, 1999, 2000 a 2001 (6 mlynedd canlynol)

Mae un reidiwr wedi ennill cystadleuaeth "Brenin y Mynyddoedd", nifer record, 7 o weithiau:

Mae un reidiwr wedi ennill cystadleuaeth "Brenin y Mynyddoedd" 6 gwaith:

Mae un reidiwr wedi ennill cystadleuaeth "Brenin y Mynyddoedd", y gystadleuaeth bwyntiau a'r Tour ei hun i gyd yn yr un flwyddyn:

  • Eddy Merckx (Gwlad Belg) yn 1969. Mi fuasai Merckx wedi ennil gwobr maillot blanc y reidiwr gorau ifanc os fuasai'r gystadleuaeth wedi gael ei rhedeg y flwyddyn honno; ni ddechreuwyd y gystadleuaeth honno tan 1975.

Deilydd record y nifer fwyaf o weithiau i reidio'r Tour ydy Joop Zoetemelk, gyda 16 ymddangosiad a heb rhoi i fyny unwaith. Mae tri reidiwr, (Lucien Van Impe, Guy Nulens a Viatcheslav Ekimov) wedi gwneud 15 ymddangosiad; gorffennodd Van Impe a Ekimov y Tour yn ystod pob un o'r 15 ymddangosiad, gorffennodd Nulens 13 gwaith a rhoddodd i fynnu ddwywaith.

Gweler Hefyd

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:





Ffynonellau

  1. Geoffrey Wheatcroft Le Tour: a history of the Tour de France, 1903-2003 Pocket Books, 2003, Lludain, tudalen 13, ISBN 0-7434-4992-4
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Les Woodland The Yellow Jersey Companion to the Tour de France Yellow Jersey Press, 2003, llundain
  3. BBC History of the Tour de France: 1903-1914: Pioneers and 'assassins' BBC
  4. Torelli's History of the Tour de France: the 1930s neu, All They Wanted To Do Was to Sell a Few More Newspapers BikeRaceInfo.com
  5. Kraftwerk, Tour De France Soundtracks Chris Jones, BBC 4 Awst 2003
  6. Tour tragedy 10 years on Matt Majendie BBC
  7. Les Woodland The Yellow Jersey Companion to the Tour de France Yellow Jersey Press, 2003, Llundain, tudalen 105
  8. 8.0 8.1 Les Woodland The Yellow Jersey Companion to the Tour de France Yellow Jersey Press, 2003, Llundain, tudalen 80

Dolenni Allanol

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol