Francisco Goya: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: yi:פראנסיסקא גאיא
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: kbd:Франсиско Гойя
Llinell 73: Llinell 73:
[[ka:ფრანსისკო გოია]]
[[ka:ფრანსისკო გოია]]
[[kaa:Francisco Goya]]
[[kaa:Francisco Goya]]
[[kbd:Франсиско Гойя]]
[[kk:Франсиско Гойя]]
[[kk:Франсиско Гойя]]
[[kl:Francisco Goya]]
[[kl:Francisco Goya]]

Fersiwn yn ôl 10:34, 27 Mai 2012

Hunanbortread gan Goya

Arlunydd o Sbaen oedd Francisco José de Goya y Lucientes (30 Mawrth, 1746 - 16 Ebrill, 1828). Ystyrir ef fel yr olaf o'r Hen Feistri, ond hefyd yn ffigwr allweddol yn natblygiad arlunwaith fodern, gan ddylanwadu ar arlunwyr fel Manet a Picasso.

Ganed Goya yn Fuendetodos, Sbaen, yn Nheyrnas Aragón yn 1746. Symudodd y teulu i Zaragoza yn ddiweddarach, ac addysgwyd ef yno. Daeth yn brentis i'r arlunydd José Luján pan oedd yn 14 oed. Yn ddiweddarach, symudodd i ddinas Madrid lle astudiodd dan Anton Raphael Mengs, ond ffraeodd ag ef a methodd gael mynediad i'r Academi Frenhinol.

Teithiodd i Rufain ac yna dychwelodd i Zaragoza. Astudiodd dan Francisco Bayeu y Subías, a phriododd Josefa, chwaer Bayeu, yn 1774. Dechreuodd ennill sylw fel arlunydd ac ennill comisiynau. Erbyn y 1790au roedd yn ffefryn y teulu brenhinol, ond wedi iddo ddioddef twymyn yn 1792, aeth yn fyddar. Treuliodd bum mlynedd yn adfer ei iechyd, gan ddarllen llawer am y Chwyldro Ffrengig. Cyhoeddodd gasgliad o luniau dan y teitl Caprichos yn 1799.

Pan feddiannwyd Sbaen gan Ffrainc gan ddechrau rhyfel 1808–1814, dechreuodd Goya weithio ar gyfres o brintiau Trychinebau rhyfel (Los desastres de la guerra). Bu farw Josefa yn 1812. Symudodd i Bordeaux a Paris yn 1824, gan ddychwelyd i Sbaen yn 1826 ac yna mynd i Bordeaux eto, lle bu farw yn 1828 yn 82 oed.

La Maja Desnuda, ca. 1800.
La Maja Vestida, ca. 1803.


Y Colossus, 1810.

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol