Gwennol y Gofod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ynyrhesolaf (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 5: Llinell 5:
| style = float:right
| style = float:right
}}
}}
Math o long ofod ydy '''gwennol y gofod''' neu '''wennol ofod''' sy'n medru dianc o [[disgyrchiant|ddisgyrchiant]] y Ddaear a dychwelyd yn ôl (bathwyd y term Cymraeg, am y gair Saesneg ''space shuttle'', gan [[Owain Owain]]<ref>[[http://www.owainowain.net/bathutermau.htm Geiriau a fathwyd yn y Gymraeg]]</ref>). Mae nifer o wledydd a sefydliadau, gan gynnwys yr [[Asiantaeth Ofod Ewropeaidd]] (''European Space Agency''), [[Gweriniaeth Pobl Tsieina]] a [[Siapan]] wedi cynllunio gwenolau gofod, ond yr unig wledydd i lwyddo mewn adeiladu a lansio cerbyd o'r math yw'r [[Unol Daleithiau]] a [[Rwsia]].
Math o long ofod ydy '''gwennol y gofod''' neu '''wennol ofod''' sy'n medru dianc o [[disgyrchiant|ddisgyrchiant]] y Ddaear a dychwelyd yn ôl (bathwyd y term Cymraeg, am y gair Saesneg ''space shuttle'', gan [[Owain Owain]]<ref>[[http://www.owainowain.net/bathutermau.htm Geiriau a fathwyd yn y Gymraeg]]</ref>).
Mantais y Wennol Ofod ar rocedi lansio cynharach a fyddai yn disgyn i'r ddaear ac felly yn cael eu dinistro, gellid adennill prif rannau'r Wennol a'u hailddefnyddio. Gellid er engraifft arbed y cylchynydd neu'r awyren ofod a'r atgyfnerthion roced.
Mae nifer o wledydd a sefydliadau, gan gynnwys yr [[Asiantaeth Ofod Ewropeaidd]] (''European Space Agency''), [[Gweriniaeth Pobl Tsieina]] a [[Siapan]] wedi cynllunio gwenoliaid gofod, ond yr unig wledydd i lansio cerbyd o'r fath yw'r [[Unol Daleithiau]] a [[Rwsia]].


==Gwenoliaid gofod America==
==Gwenoliaid gofod America==

Fersiwn yn ôl 18:18, 25 Mai 2012

Math o long ofod ydy gwennol y gofod neu wennol ofod sy'n medru dianc o ddisgyrchiant y Ddaear a dychwelyd yn ôl (bathwyd y term Cymraeg, am y gair Saesneg space shuttle, gan Owain Owain[1]).

Mantais y Wennol Ofod ar rocedi lansio cynharach a fyddai yn disgyn i'r ddaear ac felly yn cael eu dinistro, gellid adennill prif rannau'r Wennol a'u hailddefnyddio. Gellid er engraifft arbed y cylchynydd neu'r awyren ofod a'r atgyfnerthion roced. Mae nifer o wledydd a sefydliadau, gan gynnwys yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd (European Space Agency), Gweriniaeth Pobl Tsieina a Siapan wedi cynllunio gwenoliaid gofod, ond yr unig wledydd i lansio cerbyd o'r fath yw'r Unol Daleithiau a Rwsia.

Gwenoliaid gofod America

Y wennol ofod Enterprise.

Penderfynodd y sefydliad Americanaidd NASA ddylunio'r wennol ofod wedi i "raglen lleuad" Apollo ddod i ben yn 1972. Lansiwyd y wennol ofod gyntaf, Columbia, ar 12 Ebrill 1981, 20 mlynedd i'r diwrnod ar ôl i'r gofodwr cyntaf, Yuri Gagarin, gael ei lansio. Adeiladodd NASA bump o gerbydau: Columbia, Challenger, Discovery, Atlantis, ac Endeavour. Yn ogystal â bod yn gam ymlaen yn nhermau technolegol, bwriad y wennol ofod oedd bod yn fwy economaidd nac unrhyw raglen arall.

Lansiwyd Columbia yn 1981. Dilynwyd hi gan Challenger yn 1983, Discovery yn 1984 ac Atlantis yn 1985. Yn 1986 dinistrwyd Challenger mewn damain ac felly fe adeiladwyd Endeavour yn ei lle a lansiwyd hi yn 1992. Yn 2003 dinistrwyd Columbia wrth iddi ddychwelyd yn ôl i'r ddaear. Defnyddiwyd Atlantis am y tro olaf yn Mai 2010. Gwnaeth Discovery ei thaith olaf gan lanio yn ôl ar y ddaear ar y 9fed o Fawrth 2011. a'r Endeavour ar y 1af o Fehefin 2011. Ystyriwyd bod yr hen sustem o rocedi a chapsiwlau gofod (space capsules) yn rhy wastraffus, achos roedd yn angenrheidiol i adeiladu roced a chapsiwl newydd sbon ar gyfer pob taith. Yn y dechreuad, y syniad oedd i greu sustem trafnidiaeth hollol wahanol; buasai pob elfen yn cael eu hail-ddefnyddio. Cyn bo hir, fodd bynnag, roedd toriadau cyllidol wedi gorfodi NASA i newid eu cynllun gwreiddiol. Erbyn heddiw, fodd bynnag, mae llawer yn gweld y cynllun fel cam yn ôl achos namau yn y cysyniad. Cafodd Challenger a Columbia eu dinistrio mewn damweiniau marwol yn 1986 a 2003, digwyddiadau a wnaeth orfodi NASA i ystyried dychwelyd i'r hen sustem o gapsiwlau. Bydd y rhaglen Orion yn cyflawni hyn yn y degawd nesaf.

Lansiwyd y daith ofod ddiwethaf (sef taith ofod STS-135) gan yr American Space Shuttle ar yr 8ed o Orffennaf 2011.

Gwenoliaid gofod Rwsia

Dechreuodd Rwsia gynllunio gwennol ofod yn yr 70au cynnar. Y canlyniad oedd y cerbyd Buran, a lansiwyd (heb griw) yn 1988. Cafodd y cerbyd ei reoli o'r ddaear - y tro cyntaf yr oedd sefydliad wedi llwyddo gwneud hyn gyda gwennol ofod. Achos rhwystrau cyllidol, canslwyd y rhaglen Buran yn 1993 gan Boris Yeltsin a storiwyd y cerbyd, ond wnaeth y cerbyd ddioddef niwed difrifol yn 2002 pan syrthiodd to y storfa. Does yna ddim cynlluniau i adfywio'r rhaglen.

Cyfeiriadau

Gweler hefyd

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am gludiant. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am wyddoniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.