Melun: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: sh:Melun
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: ms:Melun
Llinell 26: Llinell 26:
[[ja:ムラン]]
[[ja:ムラン]]
[[la:Melodunum]]
[[la:Melodunum]]
[[ms:Melun]]
[[nl:Melun]]
[[nl:Melun]]
[[nn:Melun]]
[[nn:Melun]]

Fersiwn yn ôl 12:14, 25 Mai 2012

Cerflun o Jacques Amyot o flaen yr hôtel de ville.

Melun yw prifddinas département Seine-et-Marne yn région Île-de-France. Gyda pgoblogaeth o 37,835 yn 2007, hi yw trydydd dinas Seine-et-Marne o ran poblogaeth, ar ôl Chelles a Meaux.

Saif Melun 41 km i'r de-ddwyrain o ddinas Paris, ger afon Seine. Mae rhan o'r ddinas ar ynys yn y Seoune, yr île Saint-Étienne.

Ceir cogfnod o'r ddinas yn y cyfnod Galaidd fel Melodunum. Dyddia'r enw modern o'r 6ed ganrif. Anrheithiwyd y ddinas gan y Llychlynwyr yn 845. Byddai'r brenhinoedd Capetaidd cynnar yn aros yn Melun yn aml, ac adeiladwyd castell yma. Daeth Abélard yma yn 1102, wedi iddo gael ei yrru o Baris. Yn 1420, cipiwyd y ddinas gan y Saeson a'r Bwrgwyniaid wedi gwarchae hir. O'r gwarchae yma y cafodd y ddinas ei harwyddair, Fida muris usque ad mures ("Ffyddlon i'r muriau hyd at lygod mawr", hynny yw, hyd at fwyta llygod mawr.)