Asoka: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ilo:Ashoka |
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: or:ଅଶୋକ (ସମ୍ରାଟ) |
||
Llinell 74: | Llinell 74: | ||
[[no:Ashoka den store]] |
[[no:Ashoka den store]] |
||
[[oc:Ashoka]] |
[[oc:Ashoka]] |
||
[[or:ଅଶୋକ (ସମ୍ରାଟ)]] |
|||
[[pl:Aśoka]] |
[[pl:Aśoka]] |
||
[[pnb:اشوک اعظم]] |
[[pnb:اشوک اعظم]] |
Fersiwn yn ôl 06:12, 25 Mai 2012
Ymerawdwr Ymerodraeth y Maurya yn India o 268 CC hyd 231 CC oedd Asoka, hefyd Ashoka, a elwir yn Asoka Fawr. Roedd ei ymerodraeth yn ymestyn o’r hyn sy’n awr yn Afghanistan hyd Bengal ac i’r de cyn belled a Mysore.
Ystyr ei enw yn yr iaith Pali yw “rhydd o ofalon”. Roedd yn fab i’r ymerawdwr Bindusara a’i wraig Dhamma, ac yn wyr i .Chandragupta Maurya.Wedi dod i’r orsedd, bu’n ryfelwr llywyddiannus dros ben, ond daeth dan ddylanwad Bwdhaeth ac ymwrthododd a rhyfel.
Yn 250 CC, cynhaliwyd Trydydd Cyngor Bwdhaeth dan nawdd Asoka. Yn dilyn y cyngor, gyrrodd Asoka fynachod i wahanol deyrnasoedd, yn cynnwys Bactria, Nepal, Myanmar, Gwlad Thai a Sri Lanka, ac efallai cyn belled ag Alexandria yn yr Aifft, Antioch ac Athen.
Daeth colofn o waith Asoka, a ddarganfuwyd yn Sarnath, yn arwyddlun cenedlaethol India, a cheir llun o ran ohoni ar faner India.
Chwedlau
Tyfodd cylch o chwedlau am Asoka a gafodd ddylanwad mawr yn y gwledydd Bwdhaidd. Ceir testunau cynnar o'r chwedlau hyn yn yr ieithoedd Pali a Sansgrit. Mae'n debyg fod rhai ohonynt wedi cael eu trosglwyddo ar lafar cyn hynny hefyd. Y testun mwyaf dylanwadol ac adnabyddus yw'r Asokavadana (Sansgrit, yn golygu 'Buchedd Asoka') a ysgrifenwyd yn y 3edd ganrif OC yn India.
Llyfryddiaeth
- John S. Strong (gol.), The Legend of King Asoka[:] A Study and Translation of the Asokavadana (Gwasg Prifysgol Princeton, 1983; argraffiad newydd gan Motilal Bansidarss, Delhi, 1989). ISBN 81-208-0616-6