Ludwig Guttmann: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B Yn dileu "LudwigGuttmann.jpg". Cafodd ei dileu oddi ar Gomin gan Oxam Hartog achos: Copyright violation: according to the age of the displayed person, this painting was created around 1960, wrong license |
B robot yn tynnu: es:Ludwig Guttmann (deleted) |
||
Llinell 21: | Llinell 21: | ||
[[de:Ludwig Guttmann]] |
[[de:Ludwig Guttmann]] |
||
[[en:Ludwig Guttmann]] |
[[en:Ludwig Guttmann]] |
||
[[es:Ludwig Guttmann]] |
|||
[[fr:Ludwig Guttmann]] |
[[fr:Ludwig Guttmann]] |
||
[[it:Ludwig Guttmann]] |
[[it:Ludwig Guttmann]] |
Fersiwn yn ôl 10:28, 22 Mai 2012
Niwrolegydd Almaenig oedd Syr Ludwig "Poppa" Guttmann CBE, FRS (3 Gorffennaf 1899 yn Tost, Silesia, yr Almaen – 18 Mawrth 1980), a sefydlodd y Gemau Paralympaidd a cysidrir i fod yn un brif arloeswyr gweithgareddau corfforol ar gyfer pobl gydag anabledd.[1]
Ef oedd un o'r niwrolegwyr mwyaf blaengar yn yn Almaen cyn yr Ail Ryfel Byd. Gweithiodd Guttmann yn yr Ysbyty Iddeweg yn Breslau tan 1939, pad orfodwyd i ddianc i Loegr. Ym 1944, gofynodd y llywodraeth Prydeinig iddo sefydlu Canolfan Anafiadau Sbinol Cnedlaethol yn Stoke Mandeville y tu allan i Lundain, yn Ysbyty Stoke Mandeville. Apwyntwyd yn gyfarwyddwr y ganolfan, a deliodd y swydd hyd 1966. Credodd fod chwaraeon yn ffurf o therapi, gan ei ddefnyddio i adeiladu cryfder corfforol a hunan barch mewn cleifion. Erbyn 1952, roedd Gemau Stoke Mandeville Guttmann ar gyfer yr anabl wedi tyfy i gynnwys 130 o gyfranogwyr rhyngwladol, a parhaodd i dyfu. Gwnaeth argraff ar swyddogion y Gemau Olympaidd a'r gymuned rhyngwladol. Ym 1956, gwobrwywyd Guttmann gyda Chwpan Fearnley, am ei gyfraniad rhagorol i'r ddelfryd Olympaidd. Dechreuodd y Gemau Paralympaidd yn Rhufain ym 1960, a cynhelir hwy yn fuan ar ôl y Gemau Olympaidd ac yn aml yn yr un ddinas. Sefydlodd Guttmann hefyd Gymdeithas Prydeinig Chwaraeon yr Anabl ym 1960.
Derbyniodd Guttmann OBE a CBE ym Mhrydain a cafodd ei anrhydeddu'n fyd-eang. Ym 1966 cafodd ei wneud yn farchog gan y Frenhines Elisabeth II ac felly daeth yn KBE (Marchog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig).
Cyfeiriadau
- ↑ Paralympics traces roots to Second World War. CBC (3 Medi 2008).