BBC: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thijs!bot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: su:BBC
Llinell 130: Llinell 130:
[[sq:BBC]]
[[sq:BBC]]
[[sr:BBC]]
[[sr:BBC]]
[[su:BBC]]
[[sv:BBC]]
[[sv:BBC]]
[[sw:BBC]]
[[sw:BBC]]

Fersiwn yn ôl 15:17, 20 Mai 2012

Britsh Broadcasting Corporation
Diwydiant Darlledu
Sylfaenwyd 1 Ionawr 1927
Sylfaenydd John Reith
Gwlad Deyrnas Unedig
Pencadlys Llundain, Deyrnas Unedig
Gwefan http://www.bbc.co.uk

Corfforaeth ddarlledu gyhoeddus y Deyrnas Unedig yw'r British Broadcasting Corporation neu'r BBC (dyweder "bi bi ec", neu "bi bi si"). Mae'n darparu gwasanaethau teledu, radio ac arlein trwy'r D.U., ac yn cyrraedd cynulleidfa fyd-eang trwy gyfrwng ei gwefannau, y gwasanaeth radio BBC World Service, ynghyd a nifer o fentrau masnachol yn y maes teledu, fel BBC America.

Hanes y BBC

1920-1950

BBC Broadcasting House, Llundain.

Mae’r 1920’ai yn gweld creadigaeth y BBC fel sefydliad a darlledydd. Gwnaeth John Reith creu’r ethos sef i hysbysu, addysgu ac i adlonni- model sy’n addas ar gyfer unrhyw ddarlledwr cyhoeddus. Profwyd radio i fod yn boblogaidd iawn trwy’r wlad efo cynnydd mawr yn werthiant y radio. Yn ystod y Streic gyffredinol yn 1926 wynebodd y BBC gwrthdaro mawr efo’r llywodraeth ynglŷn ag annibyniaeth olygyddol y darlledwr. Erbyn y 1930’ai ehangodd y sefydliad efo hyder, ac roedd yr Broadcasting House sef y canolfan darlledu cyntaf o’r fath ym Mhrydain yn symbolaidd o hyn. Yn ogystal roedd y gwasanaeth yn arloesi efo’r dewis cynyddol o raglenni radio ac mae yna hefyd arbrofion darlledu teledu dan arweiniad John Logie Baird sef dyfeisiwr y teledu. Chwaraeodd y BBC rhan allweddol bwysig trwy ddarlledu yn ystod yr Ail Ryfel Byd er bod darllediadau teledu wedi darfod dros y cyfnod. Gwnaeth Winston Churchill nifer o areithiau ysbrydol dros y tonnau awyr ac roedd y gwasanaeth newyddion yn fudd i nifer o bobl yn rhyngwladol. Tua diwedd y 1940’ai mae radio yn darlledu ychydig o adloniant ysgafnach hefyd efo rhaglenni hir dymor megis Womans Hour a Book at Bedtime.

1950-1970

Y 1950’ai oedd degawd y teledu, efo cynnydd mawr mewn gwylwyr oherwydd coroniad Elizabeth II yn 1953. Yn dilyn hyn, dechreuodd rhaglenni fel Blue Peter, Panorama, y sebon cyntaf erioed ac ar y radio dechreuodd Under Milk Wood a hefyd The Archers. Mae’r 1960’ai yn gweld ehangiad mawr i'r sefydliad wrth iddynt symud mewn i’w cartref newydd sef Televison Centre yn Llundain. Tyfodd y sin pop ym Mhrydain efo lansiad Radio 1yn 1967. Roedd 1969 yn flwyddyn a thrawsnewidiodd y diwydiant efo darllediad Apollo 11 yn glanio ar y Lleuad mewn lliw.

1970-1990

Yn ystod y 1970’ai gwelodd y BBC mwy o esblygiad efo cyflwyniad rhaglenni comedi megis Morecambe and Wise, rhaglenni dogfennol David Attenborough ac efo dramâu fel y BBC Shakespeare Project. Roedd partneriaethau efo’r Brifysgol Agored wedi troi tir newydd yn y ffordd a darlledwyd addysg. Roedd yna ffocws pwysig ar y BBC yn ystod yr 1980’ai wrth adrodd ar Ryfel y Falklands, a hefyd arddangos cyngerdd Live Aid. Gwyliodd dros 750 miliwn priodas Charles a Diana- y nifer fwyaf o wylwyr erioed ym Mhrydain a lansiwyd y sebon EastEnders yn 1985. Roedd yna wrthdaro eto am annibyniaeth olygol y sefydliad o gwmpas yr amser roedd yna gyffro yng Ngogledd Iwerddon, am y tro cyntaf ers i streic gyffredinol.

1990- presennol

Daeth y BBC mewn i’r oes ddigidol yn y 90’ai, trwy ddatblygu nifer o ddulliau darlledu digidol, boed yn darlledu daearol neu dros y rhyngrwyd. Lansiwyd sianel newyddion pedair awr ar hugain, ac roedd y teletubies wedi trawsnewid rhaglenni plant ar raddfa fydol. Galwyd y 2000’ai yn ddegawd digidol efo cynulleidfaoedd eisiau mwy o gynnwys unrhyw bryd ac unrhyw le, felly lansiwyd BBC iplayer yn Nadolig 2007. Mae’r wefan yn cael dros 3.6 biliwn edrychiad pob mis.

Lleoliadau

Lleolir prif swyddfeydd canolog y gorfforaeth yng nghanol a gorllewin Llundain, gyda swyddfeydd a stiwdios ar gyfer y gwasanaethau i genedloedd a rhanbarthau Gwledydd Prydain mewn trefi a dinasoedd eraill. Mae cynllun ar droed hefyd i adleoli nifer o adrannau cynhyrchu'r BBC yn MediaCity yn ninas Salford ym Manceinion.

Yng Nghymru mae gan BBC Cymru bresenoldeb yng Nghaerdydd, Bangor, Aberystwyth, Caerfyrddin a Wrecsam a nifer o stiwdios eraill di-griw gan cynnwys Abertawe.

BBC Cymru

Prif: BBC Cymru
Logo BBC Cymru Wales

Adran neu ranbarth cenedlaethol y BBC ar gyfer Cymru yw BBC Cymru (BBC Wales).

Mae BBC Cymru yn darparu gwasanaethau yn Gymraeg, gan gynnwys rhai o raglenni mwyaf poblogaidd S4C, rhaglenni radio yn Gymraeg ar BBC Radio Cymru ac arlein ar wefan BBC Cymru.

Mae'r wefan BBC yn cynnwys newyddion, chwaraeon, tywydd, a gwybodaeth traffig a theithio, gwybodaeth am raglenni BBC Cymru a Radio Cymru, ac erthyglau ac adolygiadau ar nifer o bynciau yn cynnwys crefydd, y celfyddydau, hanes ac iaith. Mae'n hefyd yn cynnwys rhaglenni cymraeg ar BBC iplayer. Mae'r is-wefan yn darparu cyfleustra o'r enw "BBC Vocab/Geirfa" ar gyfer dysgwyr y Gymraeg, sy'n uwcholeuo rhai geiriau ac yn rhoi cyfieithiad Saesneg os lleolir y pwyntydd llygoden dros y gair.

Dolenni allanol

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato