Comiwnyddiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dolen
BDim crynodeb golygu
Llinell 2: Llinell 2:
{{iaith}}
{{iaith}}


Mae '''Comiwnyddiaeth''' (o'r [[Lladin]] ''communis'' - cyffredin) yn ddull chwyldroadol a sosialaidd o [[llywodraeth|lywodraethu]]. Mae hefyd yn fudiad ac yn drefny gymdeithasol yn ogystal a bod yn eidioleg o gymdeithas ddiddosbarth a chydberchnogaeth, mewn trefn diarian. Fel dull llywodraethu, byddai byd comiwnyddol yn un heb [[gwladwriaeth|wladwriaeth]], heb berchnogaeth breifat a heb [[dosbarth cymdeithasol|ddosbarthau cymdeithasol]]. Mewn comiwnyddiaeth ddelfrydol, byddai perchnogaeth yn gymunedol ac eiddo'n gyffredin i bawb.
Mae '''Comiwnyddiaeth''' (o'r [[Lladin]] ''communis'' - cyffredin) yn ddull chwyldroadol a sosialaidd o [[llywodraeth|lywodraethu]]. Mae hefyd yn fudiad ac yn drefn gymdeithasol yn ogystal a bod yn eidioleg o gymdeithas ddiddosbarth a chydberchnogaeth, mewn trefn diarian. Fel dull lywodraethu, byddai byd comiwnyddol yn un heb [[gwladwriaeth|wladwriaeth]], heb berchnogaeth breifat a heb [[dosbarth cymdeithasol|ddosbarthau cymdeithasol]]. Mewn comiwnyddiaeth ddelfrydol, byddai perchnogaeth yn gymunedol ac eiddo'n gyffredin i bawb.


Dylanwadodd yr adain [[Marxist-Leninist]] o gomiwnyddiaeth yn fawr ar hanes yn yr 20fed ganrif, gyda gwrthdaro rhwng "y byd sosialaidd" gwladwriaethau sosialaidd, wedi'u rheoli gan bleidiau Comiwnyddol, a'r "byd gorllewinol" gya'u marchnad rydd. Canlyniad hyn oedd y [[rhyfel oer]] rhwng y [[Y Bloc Dwyreiniol]] a'r "Byd Rhydd".
Dylanwadodd yr adain [[Marxist-Leninist]] o gomiwnyddiaeth yn fawr ar hanes yn yr 20fed ganrif, gyda gwrthdaro rhwng "y byd sosialaidd" gwladwriaethau sosialaidd, wedi'u rheoli gan bleidiau Comiwnyddol, a'r "byd gorllewinol" gya'u marchnad rydd. Canlyniad hyn oedd y [[rhyfel oer]] rhwng y [[Y Bloc Dwyreiniol]] a'r "Byd Rhydd".

Fersiwn yn ôl 09:10, 20 Mai 2012

Ideolegau Gwleidyddol
Anarchiaeth
Ceidwadaeth
Cenedlaetholdeb
Comiwnyddiaeth
Cymunedoliaeth
Democratiaeth Gristnogol
Democratiaeth gymdeithasol
Ffasgiaeth
Ffeministiaeth
Gwleidyddiaeth werdd
Islamiaeth
Natsïaeth
Rhyddewyllysiaeth
Rhyddfrydiaeth
Sosialaeth
 Rhybudd! Mae angen cywiro iaith yr erthygl hon.
Beth am fynd ati i'w chywiro?

Dyma restr o erthyglau i'w cywiro: Tudalennau â phroblemau ieithyddol.


Mae Comiwnyddiaeth (o'r Lladin communis - cyffredin) yn ddull chwyldroadol a sosialaidd o lywodraethu. Mae hefyd yn fudiad ac yn drefn gymdeithasol yn ogystal a bod yn eidioleg o gymdeithas ddiddosbarth a chydberchnogaeth, mewn trefn diarian. Fel dull lywodraethu, byddai byd comiwnyddol yn un heb wladwriaeth, heb berchnogaeth breifat a heb ddosbarthau cymdeithasol. Mewn comiwnyddiaeth ddelfrydol, byddai perchnogaeth yn gymunedol ac eiddo'n gyffredin i bawb.

Dylanwadodd yr adain Marxist-Leninist o gomiwnyddiaeth yn fawr ar hanes yn yr 20fed ganrif, gyda gwrthdaro rhwng "y byd sosialaidd" gwladwriaethau sosialaidd, wedi'u rheoli gan bleidiau Comiwnyddol, a'r "byd gorllewinol" gya'u marchnad rydd. Canlyniad hyn oedd y rhyfel oer rhwng y Y Bloc Dwyreiniol a'r "Byd Rhydd".


Marcsiaeth

Y math o gomiwnyddiaeth sy'n fwyaf adnabyddus yw Marcsiaeth a'r mudiadau a chysyniadau sy'n deillio ohoni - yn arbennig Leniniaeth (neu Marcsiaeth-Leniniaeth fel y'i gelwir yn amlaf) a elwir felly ar ôl y chwyldroadwr Bolsiefic o Rwsiad, Vladimir Lenin). Fel rheol gelwir plaid wleidyddol sy'n arddel comiwnyddiaeth yn Blaid Gomiwnyddol. Mae'r mwyafrif o'r pleidiau hynny yn Farcsaidd-Leninaidd, ond ceir yn ogystal gomiwnyddion sy'n gwrthod Lenin i ddilyn athroniaeth chwyldroadwyr eraill, er enghraifft y Rwsiad Leon Trotsky (Trotscïad), a chomiwnyddion sy'n cydnabod Lenin ond sy'n arddel athroniaeth wedi'i haddasu i gwrdd ag amgylchiadau neilltuol, fel y Maoïaidd (ar ôl y Tsieinead Mao Zedong) a'r Staliniaid (ar ôl y Georgiad Joseph Stalin).

Mae Marcswyr yn credu bod rhaid mynd drwy gyfnod o lywodraeth sosialaidd cyn y bydd comiwnyddiaeth ei hun yn bosib. Heddiw, dim ond Gweriniaeth Pobl Tsieina, Ciwba, Fietnam, Moldofa a Gogledd Corea sydd dan reolaeth gomiwnyddol. Cyn 1991, roedd 'na lawer mwy o wledydd sosialaidd, fel yr Undeb Sofietaidd a gwledydd Cytundeb Warsaw, er enghraifft.

Anarchiaeth Gymdeithasol

Er y bu anarchwyr yng nghytûn â Marcswyr[angen ffynhonnell] yn ôl yr amcan o gyrraedd cymdeithas heb ddosbarthiadau cymdeithasol, wladwriaeth nac eiddo preifat, maent yn anghytuno ar y dulliau o'i gyrraedd. Credant ei fod yn amhosib ymgorffori'r gweithwyr yng ngwladwriaeth, sef cyfnod Sosialaeth yn y derminoleg Marcsiaeth. Maent yn gweld y wladwriaeth fel amddiffynnwr eiddo preifat ac yn wrthrych hierarchaidd. I anarchydd, rhaid chwalu'r wladwriaeth er mwyn chwalu cyfalafiaeth lle i'r Marcsydd rhaid cymryd rheolaeth o'r wladwriaeth er mwyn chwalu cyfalafiaeth. Bu anarchwyr hefyd o ganlyniad yn wrthwynebol i bleidiau gwleidyddol, yn enwedig pleidiau canolig, hierarchaidd. Credant yn gadarn fod rhaid i'r gweithwyr, a'r gweithwyr 'oll, gweithredu'r chwyldro dros gomiwnyddiaeth, ac nid plaid yn honni ei fod yn eu cynrychioli.

Y Blaid Gomiwnyddol yng Nghymru

Sefydlwyd y Blaid Gominyddol yng ngwledydd Prydain yn 1920.Davies, John (2008), Gwyddoniadur Cymru, Caerdydd, Cymru: Gwasg y Brifysgol Roedd syniadaeth Marcsaidd wedi bod yn cael eu trafod ledled y wlad ers y 1890au, gan chwarae rhan amlwg ym mrwydrau gwleidyddol a diwydiannol y 1920au a 30au. Etholwyd Arthur Horner yn Llywydd Ffederasiwn Glöwyr De Cymru yn 1936 a chynyddodd nifer yr aelodaeth yn enwedig yn ne Cymru.

Dolenni allanol

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Link FA