Cwtiad llwyd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.6.4) (robot yn ychwanegu: kk:Маусымқұс |
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: fa:سلیم خاکستری |
||
Llinell 39: | Llinell 39: | ||
[[es:Pluvialis squatarola]] |
[[es:Pluvialis squatarola]] |
||
[[eu:Txirri gris]] |
[[eu:Txirri gris]] |
||
[[fa:سلیم خاکستری]] |
|||
[[fi:Tundrakurmitsa]] |
[[fi:Tundrakurmitsa]] |
||
[[fo:Fjørulógv]] |
[[fo:Fjørulógv]] |
Fersiwn yn ôl 08:42, 19 Mai 2012
Cwtiad Llwyd | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Charadriiformes |
Teulu: | Charadriidae |
Genws: | Pluvialis |
Rhywogaeth: | P. squatarola |
Enw deuenwol | |
Pluvialis squatarola (Linnaeus, 1758) |
Mae'r Cwtiad Llwyd (Pluvialis squatarola) yn aelod o deulu'r rhydyddion.
Yn y tymor nythu mae'n aderyn tarawiadol dros ben, gyda smotiau du a gwyn ar y cefn a rhan uchaf yr adenydd a'r wyneb, y fron a'r bol yn ddu. Yn y gaeaf mae'r fron a'r bol yn troi'n wyn ac mae'n haws ei gymysgu gyda'r Cwtiad Aur, ond mae pig y Cwtiad Aur yn llai ac hyd yn oed yn y gaeaf mae rhywfaint o liw aur ar y cefn, sy'n absennol yn y Cwtiad Llwyd. Os oes amheuaeth y peth gorau i'w wneud yw disgwyl i'r aderyn hedfan. Mae gan y Cwtiad Llwyd ddarn du amlwg ar ei gesail tra mae'r Cwtiad Aur yn wyn yma.
Mae'n nythu ar rostir agored ar ynysoedd yn yr Arctig o ogledd Canada i ogledd-ddwyrain Rwsia. Adeiledir y nyth ar lawr. Mae'n aderyn mudol, yn symud tua'r de yn y gaeaf cyn belled a de Ewrop a gogledd Affrica, De America cyn belled i'r de a'r Ariannin ac Awstralia.
Yn wahanol i lawer o rydyddion, nid ydynt yn gwthio'r pig i'r mwd i chwilio am fwyd, yn hytrach maent yn cerdded o gwmpas i chwilio am unrhyw pryfed neu anifeiliaid bach sydd i'w gweld ar yr wyneb. Maent yn bwydo ar fwd ger glan y môr fel rheol.
Nid yw'r Cwtiad Llwyd yn nythu yng Nghymru, ond mae cryn nifer yn treulio'r gaeaf yma.