Carnedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dinamik-bot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.6.5) (robot yn ychwanegu: pt:Moledros
JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 20: Llinell 20:


[[bar:Stoamandl]]
[[bar:Stoamandl]]
[[cs:Mužik (turistické značení)]]
[[da:Varde (gravsted)]]
[[da:Varde (gravsted)]]
[[de:Steinmännchen]]
[[de:Steinmännchen]]
Llinell 36: Llinell 37:
[[pms:Omèt]]
[[pms:Omèt]]
[[pt:Moledros]]
[[pt:Moledros]]
[[ru:Тур (куча камней)]]
[[ru:Каирн]]
[[sl:Možic]]
[[sl:Možic]]
[[sv:Röse]]
[[sv:Röse]]

Fersiwn yn ôl 07:06, 18 Mai 2012

Bryn Cader Faner.
Carnedd o Oes yr Efydd ar gopa Drosgl yn y Carneddau.

Carnedd neu carn yw'r enw a roddir ar bentwr o gerrig wedi ei godi i nodi mangre arbennig. Fe'i ceir fel rheol ar yr ucheldiroedd, yn arbennig ar gopaon mynyddoedd.

Ceir nifer o wahanol fathau o garneddi. Mae cryn nifer o garneddi Cymru yn dyddio o Oes yr Efydd, a cheir claddedigaethau tu mewn iddynt. Ymhlith yr enghreifftiau gorau o'r math yma mae Bryn Cader Faner a'r tair carnedd fawr ar gopa Foel Drygarn. Ceir tystiolaeth i'r arfer o gladdu dan bentwr o gerrig yng Nghymru barhau i'r cyfnod Rhufeinig ac wedyn. Gall carnedd hefyd fod yn llawer mwy diweddar, wedi ei hadeiladu i nodi'r fan uchaf ar gopa mynydd neu fryn, neu i nodi llwybr. Y garnedd fwyaf yng Nghymru - a'r ail fwyaf ym Mhrydain - yw Y Gop yn Sir y Fflint.

Ceir "carnedd" neu "carn" fel elfen yn enw mynyddoedd, er enghraifft Carnedd Llywelyn a Carnedd Dafydd, a roddodd ei enw i fynyddoedd y Carneddau. Yr hen enw ar fynydd Elidir Fawr oedd "Carnedd Elidir".

Mathau o garneddi