Dominiciaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn newid: arz:دومينيكانيه
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn newid: zh:道明會
Llinell 72: Llinell 72:
[[uk:Домініканці (орден)]]
[[uk:Домініканці (орден)]]
[[vls:Dominicoann]]
[[vls:Dominicoann]]
[[zh:我会]]
[[zh:]]
[[zh-min-nan:Tō-bêng-hōe]]
[[zh-min-nan:Tō-bêng-hōe]]

Fersiwn yn ôl 12:17, 17 Mai 2012

Arfbais y Dominiciaid

Urdd mynachol yn perthyn i'r Eglwys Gatholig yw Urdd y Pregethwyr (Lladin: Ordo Praedicatorum sef "Urdd y Pregethwyr"), yn fwy adnabyddus fel y Dominiciaid neu Urdd y Dominiciaid. Sefydlwyd yr Urdd gan Sant Dominic yn nechrau'r 13eg ganrif.

Gelwir y Dominiciaid "y Brodyr Duon" weithiau, oherwydd eu bod yn gwisgo clogyn neu cappa du. Defnyddia aelodau'r urdd y llythrennau O.P. (Ordinis Praedicatorum) ar ôl eu henwau.

Cymru

Mae un o'r Brodyr Duon Cymreig yn gymeriad mewn cerdd gan Dafydd ap Gwilym. Mae'r Brodyr hyn yn atgas gan Ddafydd:

Duw a ŵyr, synnwyr a sôn,
Deall y brodyr duon!
Y rhain y sydd, ffydd ffalsddull,
Ar hyd yr hollfyd yn rhull,
Bŵl gwfaint, bobl ogyfoed,
Bob dau dan yr iau erioed.[1]

Mae'r mynach yn rhybuddio'r bardd i ddiwygio ei hun a pheidio a'i gerddi serch a hel merched neu wynebu poenau Uffern ond mae Dafydd yn ateb yn herfeiddiol mae rheitiach i ddyn lawenhau a charu na bod yn drist a chwerw.[2]

Cyfeiriadau

  1. Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (Caerdydd, ail argraffiad 1963), cerdd 138 'Rhybudd Brawd Du', llau. 3-8.
  2. Gwaith Dafydd ap Gwilym, cerdd 138 'Rhybudd Brawd Du', llau. 28-34.