Anarchiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TjBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: ky:Анархизм
Diobaithyn (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 17: Llinell 17:


===Cysylltiadau â Chymru===
===Cysylltiadau â Chymru===
Yng Nghymru, yn enwedig y De diwydiannol, bu gysylltiadau hanesyddol ag anarchiaeth gymdeithasol. Cymro Cymraeg (oedd yn frwdfrydig am yr iaith) yn dod o [[Castell Nedd|Gastell Nedd]] o'r enw Sam Mainwaring a greodd y term ''anarcho-syndicalism'', ffurf o anarchiaeth gymdeithasol a roddir pwyslais ar undebau llafur<ref>[http://libcom.org/history/mainwaring-sam-1841-1907 libcom.com, ''Mainwaring, Sam 1841-1907'']</ref>. Mae'r traddodiad yma o anarchiaeth i'w weld yng Nghymru mewn mudiadau gweithwyr megis yr un tu ôl y pamffled ''The Miner's Next Step''. Priododd yr Americanes [[Emma Goldman]], anarchydd a ffeminydd enwog a gafodd ei chyhuddo am lofruddiaeth yr Arlywydd McKinley, glöwr o Gaerfyrddin o'r enw James Colton<ref>[http://libcom.org/history/emma-goldman-%E2%80%93-queen-anarchy-carmarthenshire-connection libcom.com, ''Emma Goldman – The Queen of Anarchy: The Carmarthenshire Connection'']</ref>. O [[Abertawe]] daw'r anarchydd Ian Bone a sefydlodd y cylchgrawn gwleidyddol ''Class War''.
Yng Nghymru, yn enwedig y De diwydiannol, bu gysylltiadau hanesyddol ag anarchiaeth gymdeithasol. Cymro Cymraeg (oedd yn frwdfrydig am yr iaith) yn dod o [[Castell Nedd|Gastell Nedd]] o'r enw Sam Mainwaring a greodd y term ''anarcho-syndicalism'', ffurf o anarchiaeth gymdeithasol a roddir pwyslais ar undebau llafur<ref>[http://libcom.org/history/mainwaring-sam-1841-1907 libcom.org, ''Mainwaring, Sam 1841-1907'']</ref>. Mae'r traddodiad yma o anarchiaeth i'w weld yng Nghymru mewn mudiadau gweithwyr megis yr un tu ôl y pamffled ''The Miner's Next Step''. Priododd yr Americanes [[Emma Goldman]], anarchydd a ffeminydd enwog a gafodd ei chyhuddo am lofruddiaeth yr Arlywydd McKinley, glöwr o Gaerfyrddin o'r enw James Colton<ref>[http://libcom.org/history/emma-goldman-%E2%80%93-queen-anarchy-carmarthenshire-connection libcom.org, ''Emma Goldman – The Queen of Anarchy: The Carmarthenshire Connection'']</ref>. O [[Abertawe]] daw'r anarchydd Ian Bone a sefydlodd y cylchgrawn gwleidyddol ''Class War''.


==Gweler hefyd==
==Gweler hefyd==

Fersiwn yn ôl 17:06, 14 Mai 2012

Ideolegau Gwleidyddol
Anarchiaeth
Ceidwadaeth
Cenedlaetholdeb
Comiwnyddiaeth
Cymunedoliaeth
Democratiaeth Gristnogol
Democratiaeth gymdeithasol
Ffasgiaeth
Ffeministiaeth
Gwleidyddiaeth werdd
Islamiaeth
Natsïaeth
Rhyddewyllysiaeth
Rhyddfrydiaeth
Sosialaeth

Ideoleg wleidyddol a mudiad cymdeithasol sydd o blaid diddymu unrhyw fath o wladwriaeth a'i disodli gyda chyfundrefn wirfoddol yw anarchiaeth (o'r geiriau Groeg αν 'heb' + αρχειν 'rheoli' + ισμός ,o'r gwraidd -ιζειν : 'heb archoniaid', 'heb reolwyr'). Mae gan anarchiaeth amryw eang o ffurfiau, o anarchwyr egöistig sydd yn gwrthwynebu pob system moesol i anarchwyr gyfalafol a chredai mewn masnach rhydd heb unrhyw ymyrraeth o'r stad hyd at anarchwyr cymdeithasol; sosialwyr yn gwrth i'r wladwriaeth a chyfalafiaeth.

Anarchiaeth Unigolyddol

Rhoddir anarchiaeth unigolyddol pwyslais ar ewyllys yr unigolyn yn erbyn rheolaeth allanol megis y wladwriaeth, crefydd, ideoleg, moeseg ac ati gan eraill. Mae gan yr athroniaeth sawl amrywiant, rhai yn gwrthwynebiaeth i'w gilydd. Y ffurf mwyaf eithafol o anarchiaeth unigolyddol yw egoistiaeth, math o nihiliaeth a wrthwyneba pob math o foeseg. Gwelir yr hyn sydd gan ddyn y grym i'w wneud fel yr hyn sydd yn cyfiawn, ac y dylai unigolion gweithio am les ei hun yn unig. Enghreifftiau o'r fath anarchwyr yw'r Marquis de Sade (o le ddaw'r air "Saddism" yn Saesneg, a golygir cael pleser trwy rhoi poen i eraill) a Max Stirner. Math arall o anarchiaeth unigolyddol yw anarchiaeth gyfalafol a gredir yng nghymdeithas heb lywodraeth, masnach cwbl rhydd a pharch naturiol at hawliau eiddo. Er ei syniadau eithafol, nid yw anarchiaeth unigolyddol yn cefnogol o chwyldro fel modd o gyrraedd ei amcanion - gwelir chwyldro fel gweithred gyfunol sydd yn ffordd o greu ymosodiadau newydd ar ewyllys yr unigolyn. Yn hytrach, trwy lwybrau esblygol mae anarchwyr unigolyddol yn gweld cyrhaeddiad ei syniadau. I rai anarchwyr egoistiaeth osgoi ac anwybyddu y wladwriaeth a chyfyngiadau ar ewyllys yr unigolyn yw'r unig amcan.

Anarchiaeth Gymdeithasol

Ideoleg a chwympiff dan gategori mwy eang sosialaeth rhyddfrydol yw anarchiaeth gymdeithasol neu anarchiaeth sosialaidd. Geilw am gymdeithas lle bu'r ffurf gynhyrchu yn nwylo'r gweithwyr ac eiddo mewn perchnogaeth gymunedol, gydag unigolion yn cydweithio mewn grwpiau gwirfoddol, democrataidd heb hierarchaeth. Gwelir rhai anarchwyr y grwpiau gwirfoddol yma yn cydweithio gydag eraill ar haenau uwch mewn modd ffederal (eto gwirfoddol), er mwyn wneud penderfyniadau uwch. Bu'n gwrthwynebu'r wladwriaeth yn ogystal i gyfalafiaeth - gwelir y ddau yn ynghlwm, y wladwriaeth yn amddiffyn hawliau eiddo ac felly cyfalafiaeth. Yn ôl anarchwyr gymdeithasol felly mae anarchiaeth gyfalafol yn fath o hunan gwrthgyferbyniad, cymdeithas amhosib. Bwysig nodi nid yw anarchiaeth gymdeithasol yn dechnegol yn gwrthwynebu llywodraeth - sef ymgorfforiad o ewyllys gwleidyddol, ond y wladwriaeth - sefydliad canolig o lywodraeth anwirfoddol gyda monopoli dros y defnydd o drais. Llywodraeth gyda chaniatâd mae anarchiaeth cymdeithasol yn cefnogi. Serch hyn, yn iaith pob dydd lle ddefnyddir y geiriau llywodraeth a gwladwriaeth yn ymgyfnewidiol mae'n deg i ddweud bod anarchwyr cymdeithasol yn gwrthwynebu'r llywodraeth.

Cymdeithas gomiwnyddol yw un anarchiaeth gymdeithasol felly. Ond er ei bod hefyd yn ideoleg chwyldroadol, yn wahanol i Farcsiaeth traddodiadol nid yw'n galw am gyfnod o wladwriaeth sosialaeth cyn cyrraedd comiwnyddiaeth. I anarchwyr cymdeithasol mae gwladwriaeth sosialaidd, neu wladwriaeth ddemocrataidd yn amhosib, gan ni ellid ymgorffori'r bobl (y dosbarth gweithiol) o fewn gwladwriaeth oherwydd ei natur ganolig a gorfodol. Rhaid chwalu'r wladwriaeth er mwyn chwalu cyfalafiaeth, nid defnyddio'r wladwriaeth yn erbyn cyfalafiaeth. Dywedodd yr anarchydd Mikhail Bakunin ar y gwrthgyferbyniad elfennol gwelodd ym Marcsiaeth, "er mwyn rhyddhau'r bobl rhaid gyntaf eu caethiwo"[1].

Mae'r modd o gyrraedd y gymdeithas yn holl bwysig i anarchiaeth gan ei fod yn adlewyrchu egwyddorion yr ideoleg. Gwrthwyneba anarchiaeth gymdeithasol pleidiau gwleidyddol oherwydd eu natur gyfunol, hierarchaidd, yn enwedig felly'r blaid ganolig, blaengad Marcsiaeth-Leninaeth. Credir y dylai'r gweithwyr ei hun ymgymryd 'oll yn y chwyldro yn erbyn cyfalafiaeth - ac maent yn dal yr egwyddor yma yn gyson ar bob enghraifft o ormes, hynny bod rhaid i ddioddefwyr yr ormes eu hun dinistrio'r ormes. Os na, fe droiff ryddhawyr yn ormeswyr eu hun. Rhan hanfodol o arfer anarchwyr felly yw codi ymwybyddiaeth ymysg y boblogaeth o'u hachos a gweithredu trwy grwpiau gwirfoddol (yn aml dros dro) a weithiwyd mewn modd consensws, yn debyg i'r ffordd a rhagwelwyd cymdeithasau yn gweithredu mewn cymdeithas anarchol.

Oherwydd natur ddatganoledig a deinamig yr ideoleg, nid oes un ysgrifennwr gellid seilio syniadau anarchiaeth gymdeithasol arno. Pierre-Joseph Proudoun oedd un o'r ysgrifenwyr cyntaf, Ffrancwr cwestiynodd hawliau eiddo a ddywedodd yn enwog mai "lladrata yw eiddo" a wnaeth dylanwadu'n gryf ar sosialaeth. Yn y 19eg ganrif hefyd ceir y Slafiad Mikhail Bakunin a wnaeth dadlau'n danbaid efo Karl Marx gan achosi rhwygiad anarchiaeth o'r International cyntaf. Yn ystod cyfnod Vladimir Lenin a'r Bolsiefigiaid yn Rwsia fe ysgrifennodd Peter Kropotkin, wnaeth dadlau yn groes i ddehongliadau o ddetholiadau naturiol y pryd yn ei lyfr Mutual Aid bod cydweithredu (yn hytrach na chystadlu) yn naturiol. Fe hefyd cefnogodd anarchiaeth o safbwynt amaethyddol, yn groes i cysyniadau diwydiannol sy'n prif ffrwd yn ideolegau comiwnyddol. Yn ddiweddarach, enghraifft o ysgrifennwr anarchiaeth gymdeithasol fodern yw Noam Chomsky, ieithydd arbenigol a feirniadai bolisïau tramor yr Unol Daleithiau.

Anarchwyr eraill enwog yw'r awdur Rwsiaidd Leo Tolstoy (anarchydd Cristnogol) a'r awdur a bardd Saesnig Oscar Wilde.

Cysylltiadau â Chymru

Yng Nghymru, yn enwedig y De diwydiannol, bu gysylltiadau hanesyddol ag anarchiaeth gymdeithasol. Cymro Cymraeg (oedd yn frwdfrydig am yr iaith) yn dod o Gastell Nedd o'r enw Sam Mainwaring a greodd y term anarcho-syndicalism, ffurf o anarchiaeth gymdeithasol a roddir pwyslais ar undebau llafur[2]. Mae'r traddodiad yma o anarchiaeth i'w weld yng Nghymru mewn mudiadau gweithwyr megis yr un tu ôl y pamffled The Miner's Next Step. Priododd yr Americanes Emma Goldman, anarchydd a ffeminydd enwog a gafodd ei chyhuddo am lofruddiaeth yr Arlywydd McKinley, glöwr o Gaerfyrddin o'r enw James Colton[3]. O Abertawe daw'r anarchydd Ian Bone a sefydlodd y cylchgrawn gwleidyddol Class War.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau