Twrci: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 9: | Llinell 9: | ||
arwyddair_cenedlaethol = ''Yurtta Sulh, Cihanda Sulh''<br />[[Twrceg]]: "''Heddwch cartref, heddwch yn y byd''") | |
arwyddair_cenedlaethol = ''Yurtta Sulh, Cihanda Sulh''<br />[[Twrceg]]: "''Heddwch cartref, heddwch yn y byd''") | |
||
anthem_genedlaethol = [[İstiklâl Marşı]] | |
anthem_genedlaethol = [[İstiklâl Marşı]] | |
||
delwedd_map = |
delwedd_map = Turkey in its region.svg | |
||
prifddinas = [[Ankara]] | |
prifddinas = [[Ankara]] | |
||
dinas_fwyaf = [[Istanbul]] | |
dinas_fwyaf = [[Istanbul]] | |
Fersiwn yn ôl 13:40, 11 Mai 2012
- Pwnc yr erthygl hon yw'r wlad ar lan ddwyreiniol y Môr Canoldir. Gweler Twrci (aderyn) am wybodaeth ar yr aderyn.
| |||||
Arwyddair: Yurtta Sulh, Cihanda Sulh Twrceg: "Heddwch cartref, heddwch yn y byd") | |||||
Anthem: İstiklâl Marşı | |||||
Prifddinas | Ankara | ||||
Dinas fwyaf | Istanbul | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Twrceg | ||||
Llywodraeth | Gweriniaeth | ||||
• Arlywydd • Prif Weinidog |
Abdullah Gül Recep Tayyip Erdoğan | ||||
Olyniaeth • Rhyfel Annibyniaeth • Sefydlu'r Senedd |
i Ymerodraeth yr Otomaniaid 19 Mai 1919 23 Ebrill 1920 | ||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
873,562 km² (37fed) 1.3 | ||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2005 - Cyfrifiad 2000 - Dwysedd |
72,600,000 (17fed) 71,803,927 93/km² (102fed) | ||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2006 $1.412.03 biliwn (10fed) $18,385 (35fed) | ||||
Indecs Datblygiad Dynol (2006) | 0.857 (32fed) – canolig | ||||
Arian cyfred | Lira Twrcaidd Newydd (€) 1 (EUR )
| ||||
Cylchfa amser - Haf |
EET (UTC+2) EEST (UTC+3) | ||||
Côd ISO y wlad | .tr | ||||
Côd ffôn | +90
| ||||
1 cyn i 2005: Lira Twrcaidd |
Gweriniaeth yn Ewrop ac Asia yw Gweriniaeth Twrci neu Twrci (Twrceg: Türkiye Cumhuriyeti, Cwrdeg: Komara Tirkiyê). Cyn 1922 yr oedd y wlad yn gartref i Ymerodraeth yr Otomaniaid. Mae Twrci wedi'i lleoli rhwng y Môr Du a Môr y Canoldir. Y gwledydd cyfagos yw Georgia, Armenia, Azerbaijan ac Iran i'r dwyrain, Irac a Syria i'r de a Gwlad Groeg a Bwlgaria i'r gorllewin. Ankara yw prifddinas y wlad.
Daearyddiaeth
- Prif: Daearyddiaeth Twrci
Mae Twrci yn ymestyn ar draws dau gyfandir. Yn Asia y mae'r darn mwyaf, Anatolia, syn ffurfio tua 97% o arwynebedd y wlad (tua 760.000 km²). Y 3% arall yw'r rhan sydd yn Ewrop, dwyrain Thracia (23.623 km²).
Mynyddoedd uchaf Twrci
- Mynydd Ararat (Büyük Ağrı Dağı) – 5.137 m
- Buzul Dağı – 4.135 m
- Süphan Dağı – 4.058 m
- Ararat Lleiaf (Küçük Ağrı Dağı) – 3.896 m
- Kaçkar Dağı – 3.932 m
- Erciyes Dağı – 3.891 m
Afonydd pwysicaf
Llynnoedd
- Van Gölü 3.713 km²
- Tuz Gölü 1.500 km² (Salzsee)
- Beyşehir Gölü 656 km²
- Eğridir Gölü 468 km²
- Akşehir Gölü 353 km²
- İznik Gölü 298 km²
Ynysoedd
- Gökçeada 279 km²
- Marmara Adası 117 km²
- Bozcaada 36 km²
- Uzunada 25 km²
- Alibey 23 km²
Hanes
- Prif erthygl: Hanes Twrci
Mae gan Dwrci hanes hir a chyfoethog iawn. Mae'r wlad a elwir Twrci heddiw wedi gweld sawl cenedl ac ymerodraeth yn ei meddianu neu yn ei phreswylio.
Yn y mileniau cyn Crist bu'n gartref i ymerodraeth yr Hitiaid. Ceir tystiolaeth bod rhai o lwythi'r Celtiaid wedi treulio amser yn Asia Leiaf hefyd. Yna daeth y Groegiaid i wladychu ardaloedd eang ar arfordiroedd y Môr Canoldir, Môr Aegea a'r Môr Du. O blith y dinasoedd enwog a sefydlwyd ganddynt gellid enwi Caergystennin, Caerdroia, Effesus, Pergamon a Halicarnassus.
Rheolwyd y wlad gan yr Ymerodraeth Bersiaidd am gyfnod yn ystod y rhyfela a gwrthdaro rhwng Persia a gwladwriaethau annibynnol Gwlad Groeg, dan arweinyddiaeth Athen. Gwelwyd Alecsander Mawr yn teithio trwyddi ar ei ffordd i gwncwerio Babilon, Tyrus, y Lefant ac Asia. O'r ail ganrif CC ymlaen daeth yn raddol i feddiant y Rhufeiniaid a chreuwyd talaith Asia ganddynt ac ychwanegwyd at gyfoeth ac ysblander yr hen ddinasoedd Groegaidd.
Am fil o flynyddoedd bron bu'r Ymerodraeth Fysantaidd yn dwyn mantell Rhufain yn Asia Leiaf a'r Dwyrain Canol ond ildio tir fu ei hanes; yn gyntaf rhag Persia, wedyn yr Arabiaid Mwslemaidd ac yn olaf y Tyrciaid eu hunain. Yn y diwedd dim ond Caergystennin ei hun oedd yn aros, er gwaethaf (neu efallai oherwydd) sawl Croesgad aneffeithiol o Ewrop.
Cwympodd Caergystennin yn y flwyddyn 1453; trobwynt mawr yn hanes y Gorllewin a'r Dwyrain fel ei gilydd. O hynny ymlaen am dros bedair canrif roedd Constantinople yn brifddinas Ymerodraeth yr Otomaniaid a ymestynnai o'r ffin ag Iran yn y dwyrain i ganolbarth Ewrop a pyrth Budapest a Vienna yn y gorllewin, ac o lannau'r Môr Du yn y gogledd i arfordir Gogledd Affrica.
Yn sgîl y Rhyfel Byd Cyntaf, pan ochrodd Twrci â'r Almaen, cafwyd chwyldro yn Nhwrci a sefydlwyd gweriniaeth seciwlar gan Ataturk, "Tad y Twrci fodern". Symleiddiwyd yr iaith a throes y wlad ei golygon tua'r gorllewin. Erbyn heddiw mae Twrci yn aelod o NATO ac yn gobeithio ymuno a'r Undeb Ewropeaidd fel aelod llawn ohoni.
Iaith a diwylliant
Twrceg yw prif iaith y wlad a siaredir gan bawb, ond yn y dwyrain ceir nifer o siaradwyr Cwrdeg a rhyw faint o siaradwyr Arabeg yn y de-ddwyrain yn ogystal.
Mae mwyafrif y trigolion yn Fwslemiaid
Daeth Sant Siôr, nawddsant Lloegr, o ardal sydd yn ran o Dwrci erbyn hyn.
Economi
Gallery
-
Mustafa Kemal Atatürk
Dolenni allanol
Sefydliadau cyhoeddus
- Gwasg a Gwybodaeth
- Sefydliad Ystadegau Twrci
- Banc Canolog Twrci
- Trysorlys Twrci
- Gwasanaethau Diogelwch
- Swyddfa Cynllunio'r Wladwriaeth
- Cyngor Ymchwil Dechnolegol a Gwyddonol Twrci
Proffeiliau
Gweler hefyd
|
|
Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol ak:Turki