Panda Mawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: lez:Еке панда
Robbot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn newid: ja:ジャイアントパンダ
Llinell 67: Llinell 67:
[[is:Pandabjörn]]
[[is:Pandabjörn]]
[[it:Ailuropoda melanoleuca]]
[[it:Ailuropoda melanoleuca]]
[[ja:パンダ]]
[[ja:ジャイアントパンダ]]
[[jbo:cionmau la barda]]
[[jbo:cionmau la barda]]
[[jv:Panda]]
[[jv:Panda]]

Fersiwn yn ôl 11:05, 7 Mai 2012

Panda Mawr
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Carnivora
Teulu: Ursidae
Genws: Ailuropoda
Rhywogaeth: A. melanoleuca
Enw deuenwol
Ailuropoda melanoleuca
David, 1869

Mamal, herbiforaidd yn bennaf, sydd wedi arbenigo i fwyta bambŵ ac sydd i'w cael ym mynyddoedd Asia yw'r Panda Mawr neu'r Panda Anferth (Lladin: Ailuropoda melanoleuca. Caeir dau is-rywogaeth, Ailuropoda melanoleuca melanoleuca ac Ailuropoda melanoleuca qinlingensis.

Daw'r enw "panda" o'r Nepaleg poonya, "Bwytawr bambŵ". Yr enw Tsineëg yw 大熊猫 (da xiong mao). Fe'i ceir yn y coedwigoedd bambŵ ar lethrau uchel mynyddoedd rhan orllewinol Gweriniaeth Pobl Tsieina, yn arbennig yn nhalaethiau Sichuan a Yunnan. Maent yn anifeiliaid o faint sylweddol, yn amrywio o 80 kg hyd 100 kg.

Er eu bod yn perthyn i'r Carnovora, maent yn fwytawyr planhigion, yn bennaf bambŵ. Nid ydynt yn medru treulio'r bambŵ yn effeithiol iawn, felly rhaid iddynt fwyta rhwng 9 a 14 kg y dydd, sy'n golygu eu bod yn treulio 10 - 12 awr y dydd yn bwyta.

Daeth y Panda Mawr yn symbol o rywogaethau mewn perygl. Y prif berygl i'r rhywogaeth yw colli'r fforestydd bambŵ y maent yn dibynnu arnynt.