Oceania: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TjBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: bjn:Oseania
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: stq:Ozeanien
Llinell 393: Llinell 393:
[[sr:Океанија]]
[[sr:Океанија]]
[[srn:Oseyaniya]]
[[srn:Oseyaniya]]
[[stq:Ozeanien]]
[[su:Oséania]]
[[su:Oséania]]
[[sv:Oceanien]]
[[sv:Oceanien]]

Fersiwn yn ôl 12:08, 6 Mai 2012

Map o'r byd yn dangos Oceania
Delwedd loeren gyfansawdd o Oceania

Mae Oceania (/ˌəʊʃiˈeɪniə/) – weithiau Ynysoedd y Determinoleg – yn rhanbarth daearyddol, ac yn aml daearwleidyddol, sydd yn cynnwys nifer o diroedd – ynysoedd gan mwyaf ond fel arfer yn cynnwys Awstralia – yn y Cefnfor Tawel a chyffiniau. Mae hefyd yn cael ei hystyried yn gyfandir, ond mae hyn yn bwnc dadleuol. Mae diffiniad ystent union Oceania yn amrywio, gyda dehongliadau yn cynnwys Awstralia, Seland Newydd, Gini Newydd, ac ynysoedd gwahanol yn Ynysfor Malei. Oceania yw'r cyfandir lleiaf yn nhermau arwynebedd a'r lleiaf ond un yn nhermau poblogaeth, yn dilyn yr Antarctig.

Trosolwg

Map daearwleidyddol o Oceania

Mae defnydd pennaf y term Oceania yn disgrifio rhanbarth macroddaearyddol sydd rhwng Asia a'r Amerig, gyda chyfandir Awstralia fel y brif ehangdir ac yn cynnwys rhyw 25 000 o ynysoedd yn y Cefnfor Tawel. Defnyddir yr enw "Oceania" yn hytrach nag Awstralia oherwydd, yn annhebyg i ddosbarthiadau cyfandirol eraill, y cefnfor a'r moroedd cyfagos yn hytrach na'r cyfandir sydd yn cysylltu'r tiroedd at ei gilydd.

Geirdarddiad

Daw Oceania o'r gair Groegaidd Okeanis (Ωκεανίς), merch nymff y duw Okeanos (Ωκεανός), y Titan cyntaf-anedig. Daeth y term i'r Gymraeg trwy'r Saesneg: daw'r gair Saesneg am "gefnfor" – ocean – o "Okeanos".

Terminoleg

Mae Oceania yn aml yn cael ei chymysgu â thermau arall am ranbarthau yn y Cefnfor Tawel. Defnyddir y term Awstralasia i gyfeirio at Awstralia, Seland Newydd, Gini Newydd, a nifer o'r ynysoedd llai sydd yn yr ardal, y rhan fwyaf ohonynt yn nwyrain Indonesia. Mae'r term yn cynnwys prif ynysoedd Oceania, ond nid yw'n cynnwys yr ynysoedd a chylchynysoedd bychain yn y Cefnfor Tawel. Mae "Awstralasia" yn aml yn cael ei ddefnyddio yn y Gymraeg i ddisgrifio Oceania, gan nad yw "Oceania" yn ymddangos fel gair Cymraeg. Mae "Ynysoedd y De" i'w gweld ar draws y we fel term Cymraeg am Oceania, ond gan nad yw hyn wedi'i sefydlu fel gair safonol, defnyddir "Oceania" trwy'r erthygl hon.

Rhanbarthau, gwledydd a thiriogaethau

Bathwyd y gair Oceania gan y fforiwr Ffrengig Dumont d'Urville yn 1831. Mae'n arfer cyffredinol i rannu Oceania yn Micronesia, Melanesia, Polynesia, ac Awstralasia. Ond fel unrhyw rhanbarth, mae dehongliadau yn amrywio; fwyfwy, rhannwyd Oceania gan ddaearyddwyr a gwyddonwyr i Oceania Agos ac Oceania Bell.

Mae'r rhan fwyaf o Oceania yn cynnwys gwledydd ynysoedd bychain. Awstralia yw'r unig wlad gyfandirol; yn ôl rhai diffiniadau, mae gan Indonesia gororau tir â Phapwa Gini Newydd, Dwyrain Timor, a Maleisia.

Enw tiriogaeth,
gyda baner[1]
Arwynebedd
(km²)
Poblogaeth
(amcangyfrif 1 Gorffennaf 2002)
Dwysedd poblogaeth
(y km²)
Prifddinas
Awstralasia[2]
Awstralia Awstralia 7 686 850 19 546 792 2.5 Canberra
Ynys y Nadolig Ynys y Nadolig (Awstralia)[3] 135 474 3.5 The Settlement
Ynysoedd Cocos Ynysoedd Cocos (Awstralia)[3] 14 632 45.1 West Island
Seland Newydd Seland Newydd[4] 268 680 3 908 037 14.5 Wellington
Ynys Norfolk Ynys Norfolk (Awstralia) 35 1866 53.3 Kingston
Melanesia[5]
Ffiji Ffiji 18 270 856 346 46.9 Suva
Indonesia Indonesia[6] 499 852 4 211 532 8.4 Jakarta
Caledonia Newydd Caledonia Newydd (Ffrainc) 19 060 207 858 10.9 Nouméa
Papua Guinea Newydd Papwa Gini Newydd[7] 462 840 5 172 033 11.2 Port Moresby
Ynysoedd Selyf Ynysoedd Selyf 28 450 494 786 17.4 Honiara
Fanwatw Fanwatw 12 200 196 178 16.1 Port Vila
Micronesia
Taleithiau Ffederal Micronesia Taleithiau Ffederal Micronesia 702 135 869 193.5 Palikir
Gwâm Gwâm (UDA) 549 160 796 292.9 Hagåtña
Ciribati Kiribati 811 96 335 118.8 Bairiki
Ynysoedd Marshall Ynysoedd Marshall 181 73 630 406.8 Majuro
Nawrw Nawrw 21 12 329 587.1 Yaren
Ynysoedd Gogledd Mariana Ynysoedd Gogledd Mariana (UDA) 477 77 311 162.1 Saipan
Palaw Palaw 458 19 409 42.4 Melekeok[8]
Polynesia[9]
Samoa Americanaidd Samoa Americanaidd (UDA) 199 68 688 345.2 Fagatogo, Utulei[10]
Ynysoedd Cook Ynysoedd Cook (SN) 240 20 811 86.7 Avarua
Polynesia Ffrengig Polynesia Ffrengig (Ffrainc) 4 167 257 847 61.9 Papeete
Niue Niue (SN) 260 2134 8.2 Alofi
Ynysoedd Pitcairn Ynysoedd Pitcairn (DU) 5 47 1.0 Adamstown
Samoa Samoa 2 944 178 631 60.7 Apia
Tocelaw Tokelau (SN) 10 1431 143.1 [11]
Tonga Tonga 748 106 137 141.9 Nuku'alofa
Twfalw Twfalw 26 11 146 428.7 Vaiaku
Wallis a Futuna Wallis a Futuna (Ffrainc) 274 15 585 56.9 Mata-Utu
Cyfanswm 9 008 458 35 834 670 4.0

Nodiadau:

  1. Rhanbarthau a'r gwledydd ynddynt yn ôl dosbarthiad isranbarthau'r CU (map) ar wahân i nodiadau 2, 3 a 6. Yn dibynnu ar ddiffiniadau, gall rhai o'r tiriogaethau isod (nodiadau 3, 5-8) bod yn wledydd trawsgyfandirol, h.y. yn Oceania ac Asia, Oceania a Gogledd America, neu'r tri ohonynt.
  2. Mae defnydd y term yma yn amrywio. "Awstralia a Seland Newydd" yw dynodiad y CU ar gyfer y rhanbarth hwn.
  3. 3.0 3.1 Mae Ynys y Nadolig ac Ynysoedd Cocos yn daleithiau Awstralaidd pellennig yng Nghefnfor India, i dde orllewin Indonesia.
  4. Yn aml, ystyrir Seland Newydd fel rhan o Bolynesia yn hytrach nag Awstralasia.
  5. Ac eithrio Dwyrain Timor a rhannau o Indonesia, sydd yn ynysoedd yn Ne Ddwyrain Asia (isranbarth CU) a gynhwysir yn aml yn y rhanbarth hwn.
  6. Yn gyffredinol, ystyrir Indonesia fel rhan o Dde Ddwyrain Asia (isranbarth CU); yn aml, caiff ei gynnwys (yn hollol neu'n rhannol) yn Awstralasia neu Felanesia. Mae ffigurau'n cynnwys y rhan Indonesaidd o Gini Newydd (Irian Jaya) ac Ynysoedd Maluku.
  7. Yn aml, ystyrir Papwa Gini Newydd yn rhan o Awstralasia yn ogystal â Melanesia.
  8. Ar 7 Hydref 2006, symudodd swyddogion llywodraethol eu swyddfeydd o'r brifddinas flaenorol Koror i Melekeok, 20 km i ogledd ddwyrain Koror, ar Ynys Babelthaup.
  9. Ac eithrio'r dalaith Americanaidd Hawaii, sydd wedi'i lleoli yn y Cefnfor Tawel, yn bell o ehangdir Gogledd America er cynhwysir yn aml yn y rhanbarth hwn.
  10. Canolfan ddeddfwriaethol a chyfreithiol Samoa Americanaidd yw Fagatogo; y ganolfan weithredol yw Utulei.
  11. Nid oes prifddinas gan Tokelau, un o diriogaethau Seland Newydd: mae gan bob cylchynys canolfan weinyddol ei hunan.

Manylion a dadleuon deongliadol

  • Weithiau ni chaiff Awstralia ei gynnwys yn Oceania, er fel arfer bydd term megis "Ynysoedd y Cefnfor Tawel" yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio Oceania heb Awstralia. Mae'r term "Awstralasia" bob amser yn cynnwys Awstralia, ac fel arfer yn cynnwys Seland Newydd, Papwa Gini Newydd, a rhannau o Oceania, ond mae'r term hwn weithiau'n ddadleuol tu fas i Awstralia, gan all ymddangos fel dynodi cyswllt ag Asia – cyfandir hollol wahanol – neu'n pwysleisio Awstralia gormod. Mae "austral" yn golygu "yn dod o, neu'n ymwneud â, y de", ac hwn yw geirdarddiad Awstralia ac Awstralasia.
  • Yn gyffredinol, caiff Hawaii ei gynnwys yn Oceania, er ei fod yn rhan o'r Unol Daleithiau. Er bod Ynysoedd Hawaii rhyw pellter o'r rhan fwyaf o ynysoedd Oceania, maent dal yn gorfforol ac yn ddiwylliannol yn agosach at weddill Oceania nag at Ogledd America – ac nad ydynt unrhyw pellach o weddill Oceania nad ydynt at diriogaethau Americanaidd yng Ngogledd y Cefnfor Tawel.
  • Mae'r ychydig o diriogaethau Americanaidd sydd yng Ngogledd y Cefnfor Tawel yn anghyfannedd ac eithrio personél gwasanaethu teithiol, a grwpir yn aml gyda thir mawr yr Unol Daleithiau yng Ngogledd America. Yn gyffredinol, ni ystyrir fel rhan o Oceania ac, yn annhebyg i Hawaii, maent yn agosach at Ogledd America – mae'r rhan fwyaf ohonynt yn agosach at Ogledd America nag ydynt at Hawaii.
  • Ynys Polynesiaidd yn nwyrain y Cefnfor Tawel yw Ynys y Pasg, rhan o diriogaeth Chile, a chynhwysir yn gyffredinol yn Oceania.
  • Mae Seland Newydd wedi'i lleoli o fewn y Triongl Polynesaidd ac yn yr ystyr yma yn rhan o Bolynesia – mae Maorïaid Seland Newydd yn un o brif diwylliannau Polynesia.
  • Ar adgeau anaml iawn gall ymestyn y term hyd yn oed yn bellach i gynnwys grwpiau ynysoedd eraill yn y Cefnfor Tawel megis Ynysoedd yr Aleut.

Ecoddaearyddiaeth

Un o wyth ecoranbarth daearol yw Oceania, sef rhanbarthau ecolegol pennaf y blaned. Mae ecoranbarth Oceania yn cynnwys Micronesia i gyd, Ffiji, a Pholynesia i gyd ar wahân i Seland Newydd. Mae Seland Newydd, gyda Gini Newydd ac ynysoedd cyfagos, Awstralia, Ynysoedd Selyf, Fanwatw, a Chaledonia Newydd, yn gwneud ecoranbarth Awstralasia.

Economi

Mae'r mwyafrif eang o bobl yn y Cefnfor Tawel (nid yn cynnwys Awstralia a Seland Newydd) yn gweithio yn y diwydiant cynradd. Mae nifer o wledydd dal yn amaethyddol yn bennaf; er enghraifft, mae 80% o boblogaeth Fanwatw a 70% o boblogaeth Ffiji yn gweithio yn amaethyddiaeth. Prif gynnyrch y rhanbarth yw copra (neu gnau coco), a thyfir coedwydd, cig eidion, olew palmwydd, coco, siwgr a sinsir yn gyffredin ar draws drofannau'r Cefnfor Tawel. Caiff datgoedwigo coetir hynafol ei ecsbloetio ar ynysoedd mwy, yn cynnwys Ynysoedd Selyf a Phapwa Gini Newydd. Mae pysgota yn brif ddiwydiant mewn nifer o ynysoedd a chylchynysoedd llai y Cefnfor Tawel, er caiff nifer o ardaloedd pysgota eu hecsbloitio gan wledydd mwy, yn enwedig Siapan. Mwyngloddir adnoddau naturiol, megis plwm, sinc, nicel ac aur, yn Ynysoedd Selyf ac Awstralia, yng ngorllewin y rhanbarth.

Yn ddiweddar mae twristiaeth wedi bod yn ffynhonnell fawr o incwm am nifer o ynysoedd y Cefnfor Tawel (ar wahân i Awstralia a Seland Newydd, er fod ganddyn nhw busnes twristiaeth buddiol iawn); mae twristiaid yn dod o Awstralia, Seland Newydd, Siapan, y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau. Ar hyn o bryd mae Ffiji yn denu bron i hanner miliwn o dwristiaid y flwyddyn; mwy na chwarter ohonynt o Awstralia. Mae hyn yn cyfrannu $300 miliwn i economi Ffiji.

Yn ogystal â hyn, mae nifer o leoedd yn y Cefnfor Tawel dal yn dibynnu ar gymorth tramor ar gyfer datblygiad. Yn Ynysoedd Selyf talwyd 50% o wariadau'r llywodraeth gan roddwyr rhyngwladol; sef Awstralia, Seland Newydd, yr Undeb Ewropeaidd, Siapan a Gweriniaeth Tsieina (Taiwan).

Chwaraeon

Un o chwe chydffederasiwn pêl-droed o dan nawddogaeth FIFA yw Cydffederasiwn Pêl-droed Oceania (OFC). Yr OFC yw'r unig gydffedrasiwn heb hawl awtomatig i Rownd Derfynol Cwpan y Byd. Ar hyn o bryd, mae angen i enillwr yr OFC chwarae "play-off" yn erbyn ochr o Gydffederasiwn Pêl-droed De America.

Mae Oceania wedi cael ei chynrychioli mewn tair Rownd Derfynol yng Nghwpan y Byd – Awstralia yn 1974, Seland Newydd yn 1982 ac Awstralia yn 2006. Ond nid yw Awstralia yn aelod o'r OFC bellach, gan ymunodd â Chydffederasiwn Pêl-droed Asia yn 2006.

Gweler hefyd

Cysylltiadau allanol

Chwaraeon

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: