Helyntion Beca: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Diobaithyn (sgwrs | cyfraniadau)
Diobaithyn (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 18: Llinell 18:
* Y dirwasgiad amaeth a ddechreuodd yn 1836 (a ddaeth i ben tua'r un amser a orffennodd y terfysgoedd) a chyfres o gynaeafau wael.
* Y dirwasgiad amaeth a ddechreuodd yn 1836 (a ddaeth i ben tua'r un amser a orffennodd y terfysgoedd) a chyfres o gynaeafau wael.
* Baich y degwm, yr arian talwyd i'r Eglwys Anglicanaidd gan y ffermwyr. Achosodd anfodlonrwydd ychwanegol gan y ffaith mai anghydffurfwyr oedd rhan fwyaf o'r werin. Waethygwyd y baich gan Ddeddf Cymudiad y Degwm (1836) wnaeth seilio maint y degwm ar brisiau gnydau o'r 7 mlynedd cynt. O ganlyniad roedd rhaid i'r werin talu degwm uchel yn seiliedig ar y prisiau uchel cnydau yn y flynyddoedd cynt er bod y prisoedd wedi disgyn yn ddiweddarach.
* Baich y degwm, yr arian talwyd i'r Eglwys Anglicanaidd gan y ffermwyr. Achosodd anfodlonrwydd ychwanegol gan y ffaith mai anghydffurfwyr oedd rhan fwyaf o'r werin. Waethygwyd y baich gan Ddeddf Cymudiad y Degwm (1836) wnaeth seilio maint y degwm ar brisiau gnydau o'r 7 mlynedd cynt. O ganlyniad roedd rhaid i'r werin talu degwm uchel yn seiliedig ar y prisiau uchel cnydau yn y flynyddoedd cynt er bod y prisoedd wedi disgyn yn ddiweddarach.
* Y diffyg cymorth i'r tlawd yn dilyn Deddf Gwella Cyfraith y Tlodion (1834) wnaeth diddymu cymorth allanol a gorfodi i'r tlawd gweithio yn Tlotai. Ymosododd Merched 'Beca ar dloty Caerfyrddin yn 1843.[http://libcom.org/files/IMG%20Statehood%20&%20Anarchy%20-%20Marx.pdf ''The Workhouse'']
* Y diffyg cymorth i'r tlawd yn dilyn Deddf Gwella Cyfraith y Tlodion (1834) wnaeth diddymu cymorth allanol a gorfodi i'r tlawd gweithio yn Tlotai. Ymosododd Merched 'Beca ar dloty Caerfyrddin yn 1843.<ref>[http://libcom.org/files/IMG%20Statehood%20&%20Anarchy%20-%20Marx.pdf ''The Workhouse'']</ref>
* Yr atgasedd at y tirfeddianwyr a'r rent roeddent yn codi. Roedd nifer ohonynt yn landlordiaid absennol, a waethygwyd y gwrthdaro gan wahaniaethau mewn iaith (nid oedd y rhan fwyaf yn siarad iaith y werin, Cymraeg) a chrefydd (Anglicaniaid oedd y rhan fwyaf, i'w gymharu a'r werin Anghydffurfiol). Gweinyddwyd nifer o'r Gwmnïau Tyrpeg atgas gan yr un tirfeddianwyr, a hwy oedd yn Ynadon yn y Llysoedd. Roedd y gyfraith a'r achosion llys Saesneg ni ddeallwyd gan y werin uniaith Cymraeg yn achos arall am anfodlonrwydd. Bygythiwyd tirfeddianwyr ymysg parchedigion Anglicanaidd gan lythyron o ferched 'Beca.
* Yr atgasedd at y tirfeddianwyr a'r rent roeddent yn codi. Roedd nifer ohonynt yn landlordiaid absennol, a waethygwyd y gwrthdaro gan wahaniaethau mewn iaith (nid oedd y rhan fwyaf yn siarad iaith y werin, Cymraeg) a chrefydd (Anglicaniaid oedd y rhan fwyaf, i'w gymharu a'r werin Anghydffurfiol). Gweinyddwyd nifer o'r Gwmnïau Tyrpeg atgas gan yr un tirfeddianwyr, a hwy oedd yn Ynadon yn y Llysoedd. Roedd y gyfraith a'r achosion llys Saesneg ni ddeallwyd gan y werin uniaith Cymraeg yn achos arall am anfodlonrwydd. Bygythiwyd tirfeddianwyr ymysg parchedigion Anglicanaidd gan lythyron o ferched 'Beca.



Fersiwn yn ôl 21:12, 4 Mai 2012

Digriflun o'r London Illustrated News yn dangos Merched Beca yn ymosod ar dollborth

Gwrthryfel gwerinol yn erbyn y tollau drud a godwyd am deithio ar hyd y ffyrdd tyrpeg oedd Helyntion Beca (hefyd Becca), a barodd o 1839 hyd 1844. Trawodd Beca gyntaf yn Efail-wen ar yr 13 Mai 1839, gan falu'r dollborth yno. Fe wnaethpwyd yr un peth eto ar y 6 Mehefin yn yr un flwyddyn ac eto ar yr 17 Gorffennaf. Llosgwyd y tolldy. Ni ddarganfuwyd pwy oedd y troeseddwyr, gan fod y rhai a gymerodd ran yn y weithred wedi duo eu gwynebau a gwisgo dillad menywod. Gwelwyd dryllio dros gant o dollbyrth rhwng Ionawr 1843 a gwanwyn 1844 ledled de-orllewin Cymru. Roedd yr helynt ar ei waethaf yn Sir Gaerfyrddin.

Roedd y dynion yn gwisgo dillad merched ac yn peintio’u gwynebau’n ddu i ymosod ar y tollbyrth, fel na fyddai neb yn eu hadnabod. 'Merched Rebecca' neu 'Ferched Beca' oedd yr enw arnyn nhw ar lafar. Dywed rhai iddynt gael eu heni ar ôl benyw o'r enw Rebecca, neu Beca Fawr, a oedd wedi benthyg ei dillad iddyn nhw. Y farn gyffredinol, fodd bynnag, yw fod yr enw Rebecca yn gyfeiriad at adnod yn Llyfr Genesis, Pennod 24, adnod 60, lle sonir am fam a brawd Rebecca yn gadael iddi fynd gydag Eliezer, gwas Abraham, i briodi Isaac:

Ac a fendithiasant Rebbecah, ac a ddywedasant wrthi, Ein chwaer wyt, bydd di fil fyrddiwn; ac etifedded dy had borth ei gaseion.

Yn aml, roedd ganddi "ddwy chwaer" o'i phopty yn cyd-arwain ac a elwid yn Siarlot a Neli.[1]

Achosion

Un o achosion amlwg yr helynt oedd y tollbyrth eu hun, a weinyddwyd gan y Cwmnïau Tyrpeg newydd. Roedd rhaid talu tollau i deithio ar hyd y prif-ffyrdd hyn. Roedd ddeuddeg Cwmni yn sir Gaerfyrddin, pedwar yn Sir Benfro, dau yn Sir Aberteifi, dau yn Sir Faesyfed, un yn Sir Frycheiniog a deuddeg ym Morgannwg. Roedd nifer uchel y Cwmnïau Tyrpeg yn yr ardal yn golygu bod rhaid i deithwyr talu tollau sawl gwaith (am bob cwmni) i'w gymharu â Lloegr lle nad oedd y fath gor-gystadlu. Roedd rhaid i'r ffermwyr talu tollau wrth yrru'u gwartheg a theithio yn ôl ac ymlaen i'r marchnad, ac wrth ôl calch fel gwrtaith am y pridd.

Nid yr unig rheswm dros yr helyntion oedd y tollbyrth. Roedd tuedd gan werin De-Orllewin Cymru i weinyddu cyfraith eu hun trwy'r traddodiad o'r Ceffyl Pren. Dyma arfer o siomi yn gyhoeddus aelod o'r gymuned sydd wedi achosi cerydd i'w gymdogion neu gydweithio a'r awdurdodau. Byddai dorf gyda'i wynebau'n ddu (fel wnaeth Merched 'Beca) yn cario ffigur ceffyl at ddrws y berson, neu ffigur yn ei ddynwared (a weithiau llosgwyd), neu hyd yn oed y berson ei hun, gan ei fychanu. Yn ol yr hanesydd David Williams, "ymestyniad o arfer y Ceffyl Pren" oedd terfysgoedd 'Beca [2].

Roedd achosion eraill yr helyntion yn gynnwys:

  • Tlodi gyffredinol De-Orllewin Cymru a'i dir anffrwythlon.
  • Twf y boblogaeth yn rhoi pwysau ar y bobl wrth i ffermydd mynd yn llai (problem a waethygwyd gan system etifeddiaeth Cymru sydd yn rhannu tir rhwng pob perthynas gwrywaidd).
  • Y dirwasgiad amaeth a ddechreuodd yn 1836 (a ddaeth i ben tua'r un amser a orffennodd y terfysgoedd) a chyfres o gynaeafau wael.
  • Baich y degwm, yr arian talwyd i'r Eglwys Anglicanaidd gan y ffermwyr. Achosodd anfodlonrwydd ychwanegol gan y ffaith mai anghydffurfwyr oedd rhan fwyaf o'r werin. Waethygwyd y baich gan Ddeddf Cymudiad y Degwm (1836) wnaeth seilio maint y degwm ar brisiau gnydau o'r 7 mlynedd cynt. O ganlyniad roedd rhaid i'r werin talu degwm uchel yn seiliedig ar y prisiau uchel cnydau yn y flynyddoedd cynt er bod y prisoedd wedi disgyn yn ddiweddarach.
  • Y diffyg cymorth i'r tlawd yn dilyn Deddf Gwella Cyfraith y Tlodion (1834) wnaeth diddymu cymorth allanol a gorfodi i'r tlawd gweithio yn Tlotai. Ymosododd Merched 'Beca ar dloty Caerfyrddin yn 1843.[3]
  • Yr atgasedd at y tirfeddianwyr a'r rent roeddent yn codi. Roedd nifer ohonynt yn landlordiaid absennol, a waethygwyd y gwrthdaro gan wahaniaethau mewn iaith (nid oedd y rhan fwyaf yn siarad iaith y werin, Cymraeg) a chrefydd (Anglicaniaid oedd y rhan fwyaf, i'w gymharu a'r werin Anghydffurfiol). Gweinyddwyd nifer o'r Gwmnïau Tyrpeg atgas gan yr un tirfeddianwyr, a hwy oedd yn Ynadon yn y Llysoedd. Roedd y gyfraith a'r achosion llys Saesneg ni ddeallwyd gan y werin uniaith Cymraeg yn achos arall am anfodlonrwydd. Bygythiwyd tirfeddianwyr ymysg parchedigion Anglicanaidd gan lythyron o ferched 'Beca.

Pwy oedd Rebeca?

Sonnir am Twm Carnabwth (Thomas Rees) fel un o'u harweinwyr. Roedd yn gymeriad cyfeillgar, lliwgar, ac yn ŵr crefyddol iawn. Roedd yn adroddwr pwnc gwych ond hefyd roedd yn enwog fel paffiwr (bocsiwr) mewn ffeiriau yn Sir Benfro, Aberteifi a Chaerfyddin. Cafodd Twm ei gladdu yng Nghapel y Bedyddwyr, Mynachlog Ddu.

Fodd bynnag, mae'n ddigon posib mai trefnwyr yr ymgyrch oedd dau ddyn arbennig: y Bargyfreithiwr Lloyd Hall a'r cyfreithiwr Hugh Williams.[4]

Cyfeiriadau

  1. 'Helynt y Beca' gan V. Eirwen Davies, tud42; Gwasg Prifysgol Cymru 1961.
  2. 'The Rebecca Riots' gan D Williams, tud56; Gwasg Prifysgol Cymru 1955.
  3. The Workhouse
  4. 'Helynt y Beca' gan V. Eirwen Davies, tud42; Gwasg Prifysgol Cymru 1961.

Llyfryddiaeth

  • David Williams, The Rebecca Riots, Gwasg Prifysgol Caerdydd, ISBN 0-7083-0933-X Trosiad gan Beryl Thomas, Helyntion Beca (1974)
  • Pat Molloy And they blessed Rebecca, Gwasg Gomer, ISBN 0-86383-031-5
  • Catrin Stevens, Terfysg Beca (Gwasg Gomer, 2007)


Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.