Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B Yn dileu "Logo_Eisteddfod_2011.gif". Cafodd ei dileu oddi ar Gomin gan Mmxx achos: No permission since 27 August 2011. |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
|maintdelwedd=300px |
|maintdelwedd=300px |
||
|enw= Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011 |
|enw= Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011 |
||
|lleoliad=[[Wrecsam]] |
|lleoliad= Fferm Bers Isaf, [[Y Bers]], [[Wrecsam]] |
||
|cynhaliwyd= 30 Gorffennaf - 6 Awst 2011 |
|cynhaliwyd= 30 Gorffennaf - 6 Awst 2011 |
||
|gwefan=[http://www.eisteddfod.org.uk/cymraeg/content.php?nID= |
|gwefan=[http://www.eisteddfod.org.uk/cymraeg/content.php?nID=599 www.eisteddfod.org.uk] |
||
|archdderwydd=[[T. James Jones]] |
|archdderwydd=[[T. James Jones]] |
||
}} |
}} |
Fersiwn yn ôl 07:43, 2 Mai 2012
Lleoliad | Fferm Bers Isaf, Y Bers, Wrecsam |
---|---|
Cynhaliwyd | 30 Gorffennaf - 6 Awst 2011 |
Archdderwydd | T. James Jones |
Gwefan | www.eisteddfod.org.uk |
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011 ar dir Fferm Bers Isaf, yn y Bers ger Wrecsam rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst 2011.
Maes B
Campws Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam, oedd lleoliad Maes B. Y perfformwyr oedd Dau Cefn, Yucatan, Land of Bingo, Breichiau Hir, Y Niwl, Meic Stevens, Lleuwen a Gildas, Elin Fflur, Al Lewis Band, Yr Angen, Yr Ods, Y Bandana, Y Trydan, Plant Duw, Jen Jeniro, Sensegur, Acid Casuals a’u set DJ, Plyci, Crash.Disco!, Cloud4Mations, DJs Electroneg 1000, Cowbois Rhos Botwnnog, Gai Toms, Catrin Herbert, Sibrydion, Masters in France, Violas, Colorama, Huw M a Trwbador.[1]
Prif gystadlaethau
Y Coroni
Enillydd y goron oedd Geraint Lloyd Owen o Bontnewydd, Caernarfon. Daeth 36 ymgais i fewn ond ni ellid ystyried un ohonynt oherwydd ei fod wedi cynganeddu a doedd y dasg ddim yn caniatáu hyn. Roeddent i lunio dilyniant o gerddi di-gynghanedd heb fod dros 250 llinell ar y testun 'Gwythiennau'. Y tri beirniad oedd Gwyn Thomas, Alan Llwyd a Nesta Wyn Jones. Roedd Nesta Wyn Jones o blaid coroni Delysg ac roedd Alan Llwyd a Gwyn Thomas wedi rhoi'r un tri ar y brig, tri a oedd yn haeddu'r wobr, O'r Tir Du, Promethews a Fena Cafa.
Y Cadeirio
Enillwyd y gadair gan Rhys Iorwerth sydd yn dod o Gaerdydd erbyn hyn ond yn hanu o Gaernarfon. Mewn cystadleuaeth gref iawn, dyma'r tro cyntaf iddo gystadlu am y gadair.
Y tri beirniad oedd Emyr Lewis, Donald Evans a Gruffydd Aled williams.
Rhoddwyd y gadair gan Gwmni Seren Arian a'r wobr ariannol o £750 gan gwmni Buddsoddiadau Pritchard Cymru.
Y Fedal Ryddiaith
Enillydd y Fedal Ryddiaith oedd Manon Rhys o Gaerdydd. Y tri beirniaid oedd: Grahame Davies, Hazel Walford Davies a Branwen Jarvis.
Tlws y Cerddor
Meirion Wynn Jones enillodd y tlws eleni.[2]
Gwobr Goffa Daniel Owen
Daniel Davies oedd enillydd y wobr, gyda chwech o lenorion yn cystadlu. Ysgrifennu nofel o dros 50,000 o eiriau, gyda llinyn stori cryf yn nadreddu drwyddi oedd y gamp. Roedd y wobr yn £5,000. Tair Rheol Anrhefn, oedd teitl y nofel, sef pedwaredd nofel Daniel Davies.
Cyngherddau
Y Tri Tenor Cymreig (Rhys Meirion, Aled Hall ac Alun Rhys-Jenkins) oedd yn perfformio yn y Cyngerdd Agoriadol. Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf yn yr Eisteddfod hefyd. Ymhlith artistiaid eraill yr Ŵyl yr oedd Caryl Parry Jones, Huw Chiswell, Elin Fflur ac Al Lewis Band.