Cernyweg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: dsb:Kornišćina
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Does dim eisiau'r Saesneg, oes e?
Llinell 49: Llinell 49:
Mae'r dadlau sydd wedi bod rhwng cefnogwyr y ffurfiau gwahanol wedi'i ganoli yn helaeth ar y cwestiwn i ba raddau, wrth adfer iaith farw, y dylid glynu wrth orgraff y testunau ysgrifenedig sydd ar gael o'r cyfnod pan oedd yr iaith yn fyw, ac i ba raddau mae'n deg i sillafu geiriau er mwyn dangos eu seiniau tybiedig.
Mae'r dadlau sydd wedi bod rhwng cefnogwyr y ffurfiau gwahanol wedi'i ganoli yn helaeth ar y cwestiwn i ba raddau, wrth adfer iaith farw, y dylid glynu wrth orgraff y testunau ysgrifenedig sydd ar gael o'r cyfnod pan oedd yr iaith yn fyw, ac i ba raddau mae'n deg i sillafu geiriau er mwyn dangos eu seiniau tybiedig.


== Esiamplau ==
== Enghreifftiau ==
Mae'r rhestr yma yn cymharu Cernyweg (mewn "Furv Scrifys Savonek" ''ffurflen ysgrifenedig safonol'') gyda'r ddwy iaith [[Brythoneg|Frythoneg]] arall, Cymraeg a [[Llydaweg]], a Saesneg.
Mae'r rhestr yma yn cymharu Cernyweg (mewn "Furv Scrifys Savonek" ''ffurflen ysgrifenedig safonol'') gyda'r ddwy iaith [[Brythoneg|Frythoneg]] arall, Cymraeg a [[Llydaweg]].


{|class="wikitable" width="75%"
{|class="wikitable" width="75%"
Llinell 56: Llinell 56:
!Cymraeg
!Cymraeg
!Llydaweg
!Llydaweg
!Saesneg
|-
|-
| Kernowek||Cernyweg||Kerneveureg||Cornish
| Kernowek||Cernyweg||Kerneveureg
|-
|-
| gwenenen||gwenynen||gwenanenn||bee
| gwenenen||gwenynen||gwenanenn
|-
|-
| cador||cadair||kador||chair
| cador||cadair||kador
|-
|-
| keus||caws||keuz||cheese
| keus||caws||keuz
|-
|-
| yn-mes||i maes||er-maez||out
| yn-mes||mas, allan||er-maez
|-
|-
| codha||cwympo||kouezhañ||(to) fall
| codha||cwympo, syrthio||kouezhañ
|-
|-
| gavar||gafr||gavr||goat
| gavar||gafr||gavr
|-
|-
| chi||tŷ||ti||house
| chi||tŷ||ti
|-
|-
| gweus||gwefus||gweuz|| lip
| gweus||gwefus||gweuz
|-
|-
| aber||aber, genau||aber|| mouth (river)
| aber||aber||aber
|-
|-
| niver||rhif, nifer||niver||number
| niver||nifer, rhif||niver
|-
|-
| peren||gellygen||perenn|| pear
| peren||peren, gellygen||perenn
|-
|-
| scol||ysgol||skol||school
| scol||ysgol||skol
|-
|-
| megy||mygu|| mogediñ||(to) smoke
| megy||mygu|| mogediñ
|-
|-
| steren||seren||steredenn||star
| steren||seren||steredenn
|-
|-
| hedhyw||heddiw||hiziv|| today
| hedhyw||heddiw||hiziv
|-
|-
| whibana||chwibanu||c'hwibanat||(to) whistle
| whibana||chwibanu||c'hwibanat
|}
|}



Fersiwn yn ôl 15:32, 30 Ebrill 2012

Cernyweg
Kernewek, Kernowek
Siaredir yn Baner Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig
Rhanbarth Baner Cernyw Cernyw
Cyfanswm siaradwyr 2,000 rhugl[1]
Teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd
System ysgrifennu Yr wyddor Lladin
Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn Dim
Iaith leiafrifol gydnabyddedig yn Baner Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig
Rheoleiddir gan Partneriaeth yr Iaith Gernyweg (Cernyweg: Keskowethyans an Taves Kernewek)
Codau ieithoedd
ISO 639-1 kw
ISO 639-2 cor
ISO 639-3 cor
Wylfa Ieithoedd

Mae Cernyweg (Kernewek, Kernowek, neu Curnoack) yn iaith Geltaidd. Bu'r iaith farw ond mae wedi cael adfywiad dros y ganrif ddiwethaf ac mae tua mil o bobl yng Nghernyw yn siarad Cernyweg. Mae'n bosibl gwrando ar y newyddion yn Gernyweg ar BBC Radio Cornwall bob nos Sul. Mae'n hynod ddiddorol i siaradwyr Cymraeg wrando arno, gan ei bod ar adegau'n swnio fel Cymraeg.

Mae'n bosib dysgu'r iaith drwy'r Rhyngrwyd, drwy ddefnyddio Kernewek Dre Lyther lle ceir nifer o wersi ar ffurf Adobe Acrobat.

Hanes

Mae'r Gernyweg yn hanu o iaith Brythoniaid de-orllewin Prydain, a gafodd eu gwahanu o Frythoniaid y Gorllewin (y Cymry) wedi brwydr Deorham, ym 577. Aeth tiriogaeth y Brythoniaid yn y de-orllewin yn llai ac yn llai nes oddeutu 810, pan goncrwyd Dyfnaint gan y Sacsoniaid gan adael Cernyw yn unig yn nwylo'r Brythoniaid. Concrodd Athelstan, brenin y Sacsoniaid, Gernyw tua 920, ond ni wladychwyd y wlad gan Saeson fel y digwyddodd yn y rhan fwyaf o Loegr, ac Athelstan a wnaeth Afon Tamar yn ffin rhwng y Saeson yn Nyfnaint a'r Brythoniaid yng Nghernyw. Er hyn, parhaodd yr iaith i fyw hyd o leiaf y ddeunawfed ganrif, gan gyrraedd uchafbwynt o oddeutu 38,000 o siaradwyr (amcangyfrif Ken George) yn y drydedd ganrif ar ddeg.

Symudiad terfyn ieithyddol Cernyweg 1300-1750
Symudiad terfyn ieithyddol Cernyweg 1300-1750

Astudiwyd Cernyweg Modern Cynnar yn y 1700au gan yr ieithydd o Gymro, Edward Lhuyd. Erbyn hyn, roedd yr iaith yn diflannu'n gyflym. Mae chwedl yn dweud mai'r person olaf i siarad yr iaith fel mamiaith oedd Dolly Pentreath, a fu farw ym 1777. Ond mae tystiolaeth bod rhai siaradwyr brodorol wedi parhau tan y 19eg ganrif. Er iddi ddweud, yn ôl y chwedl, "My ny vydn kewsel Sowsnek!" - dwi ddim isio siarad Saesneg! - roedd hi yn gallu ychydig o Saesneg o leiaf. Mae'n bosibl mai'r person olaf i siarad Cernyweg yn unig oedd Chesten Marchant, a fu farw ym 1676. Canrif yn ddiweddarach (1776), ysgrifennodd William Bodinar lythyr byr dwyieithog i'r hynafiaethydd Daines Barrington, y darn olaf o Gernyweg draddodiadol rugl a wyddys, yn ôl pob tebyg. Dyma ei ddiweddglo, Na ges moye vel pager po pemp en dreau nye, ell clapia Cornoack leben -- poble coath, pager egance blouth; Cornoack ewe oll naceaves gen poble younk (Does dim mwy na phedwar neu bump yn ein tre ni, sy'n gallu sgwrsio Cernyweg ar hyn o bryd -- hen bobl, pedwar ugain blwydd; Cernyweg yw angofiedig yn hollol wrth y bobl ieuanc).

Adfywiad

Delwedd:Kernow a'gas dynnergh 20050527.jpg
Arwydd dwyieithog yn y Gernyweg a'r Saesneg.

Ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, gwelwyd adfywiad yn yr iaith. Erbyn y dauddegau, sefydlwyd Gorsedh Kernow - Gorsedd Cernyw, i sicrhau fod yr iaith yn parhau, yn debyg i fudiad yr Eisteddfod yng Nghymru. Ym 1967, sefydlwyd Kesva an Taves Kernewek - Bwrdd yr Iaith Gernyweg (mudiad gwirfoddol). Pwrpas y bwrdd oedd cynorthwyo pobl Cernyw, ac eraill, i ddysgu a siarad y iaith. Ym 1979 sefydlwyd Kowethas an Yeth Kernewek (Cymdeithas yr Iaith Gernyweg) i gynrychioli y rhai sy'n siarad a dysgu yr iaith, i gyd a'i hybu mewn sefyllfaoedd pob dydd. Mae'r Gowethas yn gymdeithas agor i bawb o blaid y Gernyweg, a'i haelodau yn ffurfio etholaeth am y Gesva (Bwrdd yr Iaith).

Mae'r cofnod cynharaf yn y Gernyweg sydd wedi goroesi i'w ganfod mewn llawysgrif Lladin a luniwyd yn y 9fed ganrif,[2] ond ni ddatblygodd orgraff safonol yn y Gernyweg fel ag a ddigwyddodd yn y Gymraeg. Erbyn hyn mae pedair ffordd o ysgrifennu Cernyweg.

Mae'r rhan fwyaf o siaradwyr yn defnyddio 'Kernewek Kemmyn', sydd wedi'i seilio ar lenyddiaeth Cernyweg Canol gydag orgraff i gynrychioli'r seiniau tybiedig.

Kernewek Unyes (Cernyweg Unedig), y ffurf a ddyfeisiwyd gan Robert Morton Nance yn bennaf, gydag orgraff Cernyweg Canol wedi'i safoni, oedd y ffurf a ddefnyddiwyd dros y rhan fwyaf o'r ugeinfed ganrif. Hyrwyddwyd y ffurf hon gan Agan Tavas.

Ym 1986 datblygodd Ken George, awdur Gerlyver Kernewek-Sawsnek Kernewek Kemmyn (yn llythrennol Cernyweg Cyffredin). Fe fabwysiadwyd y system gan Fwrdd yr Iaith Gernyweg, ac mae hyd at 80% o ddysgwyr a siaradwyr Cernyweg yn ei ddefnyddio.

Yn y 90au datblygwyd ffurf adolygedig o Kernewek Unyes, UCR ('Unified Cornish Revised'), gan Nicholas Williams, wedi'i seilio ar destunau o gyfnod ychydig yn ddiweddarach yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Cyhoeddwyd geiriadur mewn UCR yn 2000.

Ac yn olaf, gwell gan rai siaradwyr ddefnyddio Cernyweg Diweddar, sef iaith yr 17eg a'r 18fed ganrifoedd. Dyma'r ffurf a adferwyd yn yr 80au o dan yr enw Curnoack Nowedga (Cernyweg Modern) gan Richard Gendall ac eraill. Mae orgraff Cernyweg Diweddar yn edrych yn aml yn debycach i orgraff y Saesneg.

Mae'r Testament Newydd wedi'i gyfieithu i Kernewek Kemmyn, ac i UCR.

Mae'r dadlau sydd wedi bod rhwng cefnogwyr y ffurfiau gwahanol wedi'i ganoli yn helaeth ar y cwestiwn i ba raddau, wrth adfer iaith farw, y dylid glynu wrth orgraff y testunau ysgrifenedig sydd ar gael o'r cyfnod pan oedd yr iaith yn fyw, ac i ba raddau mae'n deg i sillafu geiriau er mwyn dangos eu seiniau tybiedig.

Enghreifftiau

Mae'r rhestr yma yn cymharu Cernyweg (mewn "Furv Scrifys Savonek" ffurflen ysgrifenedig safonol) gyda'r ddwy iaith Frythoneg arall, Cymraeg a Llydaweg.

Cernyweg Cymraeg Llydaweg
Kernowek Cernyweg Kerneveureg
gwenenen gwenynen gwenanenn
cador cadair kador
keus caws keuz
yn-mes mas, allan er-maez
codha cwympo, syrthio kouezhañ
gavar gafr gavr
chi ti
gweus gwefus gweuz
aber aber aber
niver nifer, rhif niver
peren peren, gellygen perenn
scol ysgol skol
megy mygu mogediñ
steren seren steredenn
hedhyw heddiw hiziv
whibana chwibanu c'hwibanat

Beth yw'r gair am....

Bore da - Myttin da

P'nawn da - Dohajedh da

Noswaith dda - Gorthuher da

Nos da - Nos da

Sut yda chi? - Fatla genes?

Iawn diolch - En poynt da, meur ras

Diolch - Meur ras dhis

Os gwelwch yn dda - Mar pleg

Iawn boi? - Hou sos?

Pwy dych chi? - Piw os ta?

Allan ydw i - Allan ov vy

Sut wyt ti? - Fatla genes?

Rydw i'n dda iawn, diolch, a ti? - Yn poynt da ov vy meur ras, ha tejy?

Nodiadau

  1. 'South West:TeachingEnglish:British Council:BBC , BBC/Gwefan y Cyngor Prydeinig, BBC. Cyrchwyd ar 9 Chwefror 2010.
  2. Copi o De Consolatione Philosophiae gan Boethius yw'r llawysgrif. Mae'r nodyn Cernyweg ud rochashaas i'w weld uwchben y Lladin y mae'n ei gyfieithu. Gweler: Sims-Williams, P. 'A New Brittonic Gloss on Boethius: ud rocashaas', Cambrian Medieval Celtic Studies 50 (Winter 2005), 77-86.

Cysylltiadau allanol

v · t · e Ieithoedd Celtaidd/Celteg
Brythoneg - (Celteg P)Goedeleg - (Celteg Q)
Cernyweg ·Cymraeg ·Llydaweg |Gaeleg ·Gwyddeleg ·Manaweg
Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd

Cyswllt

Wikipedia
Wikipedia
Argraffiad Cernyweg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd