Diwan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: la:Diwan (ludus) |
|||
Llinell 31: | Llinell 31: | ||
[[fr:École Diwan]] |
[[fr:École Diwan]] |
||
[[gv:Diwan (scoill)]] |
[[gv:Diwan (scoill)]] |
||
[[la:Diwan (ludus)]] |
|||
[[pam:Diwan (pipagaralan)]] |
[[pam:Diwan (pipagaralan)]] |
||
[[pt:Diwan]] |
[[pt:Diwan]] |
Fersiwn yn ôl 20:55, 29 Ebrill 2012
Mudiad ysgolion Llydaweg yn Llydaw yw Diwan. Gweithreda y tu allan i gyfundrefn addysgol ganolog Ffrainc am fod Diwan yn dysgu'n gyfan gwbl trwy gyfrwng y Llydaweg.
Hanes
Crëwyd yr ysgol Diwan gyntaf yn Lambaol-Gwitalmeze (Ffrangeg Lampaul-Ploudalmézeau) ger Brest, yn 1977, o ganlyniad i'r galw am addysg trwy gyfrwng yr iaith. Mae'r ysgolion yn trochi'r plant yn yr iaith, yn debyg i ysgolion penodedig Cymraeg, ac roedd 2,200 o ddisgyblion yn mynd i ysgolion Diwan ar draws Llydaw yn 2005. Agorodd yr ysgol Diwan gyntaf ym Mharis ym mis Medi 2004. Erbyn Medi 2011 mae ffigyrau a gyhoeddwyd yn "le Telegramme-Finisterre" yn dangos bod 14.174 yn derbyn addysg dwyieithog Llydaweg-Ffrangeg; rhyw 3.528 ohonynt efo ysgolion Diwan; 5.995 efo Div Yezh (dan y llywodraeth); a 4.651 efo Dihun (ysgolion Catholig), mae hyn yn golygu cynnydd o 35% dros y tair blynedd diwethaf.
Yn erbyn Diwan
Mae rhai o bobl sy'n agos at lywodraeth Ffrainc yn siarad yn amal yn erbyn ysgolion Diwan, fel yr aelod seneddol sosialaidd (hen drotskydd) Jean-Luc Mélenchon neu'r awdures ffrangeg Françoise Morvan.
30 mlynedd o fodolaeth
Cafodd Diwan ei 30ain penblwydd yn 2008 yn Karaez, yn nghanol Llydaw.