Katherine Philipps: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Alexbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: nl:Katherine Philips
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: it:Katherine Philips
Llinell 29: Llinell 29:
[[en:Katherine Philips]]
[[en:Katherine Philips]]
[[fr:Katherine Philips]]
[[fr:Katherine Philips]]
[[it:Katherine Philips]]
[[nl:Katherine Philips]]
[[nl:Katherine Philips]]

Fersiwn yn ôl 18:37, 22 Ebrill 2012

Orinda (Katherine Philipps)

Bardd, dramodydd ac awdures oedd Katherine Philipps (neu Philips), neu Orinda (née Katherine Fowler, 1 Ionawr, 1631 - 22 Mehefin, 1664). Roedd hi'n boblogaidd iawn yn ei dydd ac yn cael ei hadnabod fel "Y Ddigymar Orinda" ("The Matchless Orinda").

Cafodd ei geni yn Llundain, ond treuliai cyfnodau hir yn ardal Aberteifi gyda'i gŵr James Philipps (priodasant yn 1647 pan oedd hi'n un ar bymtheg oed). Ffurfiodd gylch llenyddol i ferched bonheddig yn yr ardal.

Mae nifer o'i cherddi'n adlewyrchu ei chariad at Gymru a'r iaith Gymraeg. Cyfansoddodd gerdd ar thema wladgarol i Henry Vaughan (1621 - 1695), y bardd a meddyg o Ddyffryn Wysg.

Cyhoeddwyd casgliad o'i holl gerddi dan y teitl Poems by the incomparable Mrs K(atherine) P(hilipps) yn 1664.

Mae'r nofel Orinda gan R. T. Jenkins yn seiliedig ar y cyfnod a dreuliodd Katherine Philipps yn Aberteifi.

Llyfryddiaeth

Gwaith Orinda

Yr unig olygiad diweddar hwylus yw,

  • Saintsbury (gol.), Minor Poets of the Caroline Period, cyf. 3 (1905)

Astudiaethau a llyfrau eraill

  • Edmund Gosse, 'The Matchless Orinda', yn Seventeenth Century Studies (1883).
  • R. T. Jenkins, Orinda (1943). Nofel fer seiliedig ar ei hanes.