Cristnogaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: ki:Chrisitanity
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ak:Krɔsɛm
Llinell 35: Llinell 35:
{{Cyswllt erthygl ddethol|mk}}
{{Cyswllt erthygl ddethol|mk}}
{{Cyswllt erthygl ddethol|vi}}
{{Cyswllt erthygl ddethol|vi}}

[[lez:Хашпара дин]]


[[ace:Kristen]]
[[ace:Kristen]]
[[af:Christendom]]
[[af:Christendom]]
[[ak:Krɔsɛm]]
[[als:Christentum]]
[[als:Christentum]]
[[am:ክርስትና]]
[[am:ክርስትና]]
Llinell 132: Llinell 135:
[[lb:Chrëschtentum]]
[[lb:Chrëschtentum]]
[[lbe:Ххачпарас дин]]
[[lbe:Ххачпарас дин]]
[[lez:Хашпара дин]]
[[li:Christendóm]]
[[li:Christendóm]]
[[lij:Crestianeximo]]
[[lij:Crestianeximo]]

Fersiwn yn ôl 01:11, 22 Ebrill 2012

Pregeth ar y Mynydd gan Carl Heinrich Bloch, arlunydd Daneg, tua 1890.

Mae Cristnogaeth neu Cristionogaeth yn grefydd undduwiaeth sy'n seiliedig ar ddysgeidiaeth a ffydd bersonnol yn Iesu Grist. Gosodir prif egwyddorion Cristnogaeth yn y Beibl, casgliad o lyfrau a llythyrau a ysgrifennwyd yn yr iaith Aramaeg, Hebraeg a Roeg yn wreiddiol. Mae'r enw Crist yn dod o'r gair Groeg Χριστός (Christos) sy'n golygu "yr Eneiniog".

Gorchymyn cyntaf Iesu Grist oedd "caru Duw", a'r ail orchymyn oedd "caru dy gymydog" (Marc XII:30,31 a Luc X:27). Mae haeloni (anhunanoldeb), trugaredd a chyfiawnder yn ganolog i Gristnogaeth ond y cysyniad creiddiol yn y ffydd Gristnogol ydy Gras Duw. Hanfod Cristnogaeth ydy fod pob peth yn bosib trwy ras Duw ac fod y ddynoliaeth yn medru dod i berthynas a Duw ac etifeddu bywyd tragwyddol yn y Nefoedd trwy ffydd sy'n bosib trwy ras Duw ac nid trwy weithredoedd dynion. Canolbwynt y ffydd Gristnogol oedd gwaith Iesu Grist, rhan o'r Duwdod Cristnogol, a'r y Groes yn cymodi dyn a Duw. Gwel Cristnogion y weithred yma fel yr ymddangosiad amlycaf o ras eu Duw ac i'r Cristion "Crist ac yntau wedi ei groeshoelio" yw canolbwynt a man cychwyn eu ffydd.

Mae'n ymddangos nawr fod yr Iesu wedi ei eni tua 4 CC ym Methlehem. Does dim llawer o wybodaeth am ei fywyd cynnar nes iddo gyrraedd 30 oed pan benododd ddeuddeg o ddisgyblion (yr Apostolion). Cafodd Iesu ei groeshoeli tua 29 OC, neu yn ôl amseryddiaeth yr Eglwys Gatholig 7 Ebrill 30.

Cristnogaeth yng Nghymru

Ni ellir bod yn sicr pryd yn union y cafwyd y Cristnogion cyntaf yng Nghymru, ond mae'n bosibl bod rhai i'w cael yno yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Daeth cenhadon i Gymru o Gâl tua'r bumed ganrif i bregethu o gwmpas y wlad ac i addysgu a sefydlu eglwysi. Erbyn yr wythfed ganrif credir fod Cymru gyfan wedi derbyn y ffydd Gristnogol.

Gwahanol Draddodiadau Cristnogol

Mae hi'n debyg fod gan y Gristnogaeth tua 1,719 miliwn o ddilynwyr o gwmpas y byd. Y prif draddodiadau Eglwysig yw:

Dolen allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol ak:Krɔsɛm