Rio de Janeiro: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn newid: vep:Rio-de-Žaneiro
Llinell 31: Llinell 31:
Er gwaethaf ei phrydferthwch, ystyrir Rio fel un o ddinasoedd mwyaf treisgar y byd,<ref>[http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/americas/6214299.stm Rio hit by deadly gang violence]BBC NEWS. Americas. Adalwyd 26-04-2009</ref>sydd wedi ysbrydoli ffilmiau fel ''Bus 174'', ''City of God'' ac ''Elite Squad'' sydd oll wedi amlygu nifer o faterion cymdeithasol difrifol. Lleolir llawe o'r troseddau treisgar yn y [[favelas]] neu'r trefi shanti ond fe'u gwelir hefyd mewn cymdogaethau dosbarth canol ac uwch. Yn wahanol i nifer o ddinasoedd eraill, lleolir nifer o'r slymiau gyferbyn â rhai o ardaloedd mwyaf cefnog y ddinas.
Er gwaethaf ei phrydferthwch, ystyrir Rio fel un o ddinasoedd mwyaf treisgar y byd,<ref>[http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/americas/6214299.stm Rio hit by deadly gang violence]BBC NEWS. Americas. Adalwyd 26-04-2009</ref>sydd wedi ysbrydoli ffilmiau fel ''Bus 174'', ''City of God'' ac ''Elite Squad'' sydd oll wedi amlygu nifer o faterion cymdeithasol difrifol. Lleolir llawe o'r troseddau treisgar yn y [[favelas]] neu'r trefi shanti ond fe'u gwelir hefyd mewn cymdogaethau dosbarth canol ac uwch. Yn wahanol i nifer o ddinasoedd eraill, lleolir nifer o'r slymiau gyferbyn â rhai o ardaloedd mwyaf cefnog y ddinas.


Mae Rio yn gartref i Erin Glyn Roberts
== Adeiladau a chofadeiladau ==
* Arcos da Lapa
* Cerfddelw Crist Gwaredwr
* Museu Nacional de Belas Artes (amgueddfa)
* Stadiwm Engenhão


== Enwogion ==
== Enwogion ==

Fersiwn yn ôl 13:09, 19 Ebrill 2012

Rio de Janeiro
[[Delwedd:|250px|center]]
Lleoliad o fewn Talaith Rio de Janeiro
Gwlad Brasil
Ardal De ddwyrain
Llywodraeth
Awdurdod Rhanbarthol Bwrdeisdref São Sebastião do Rio de Janeiro
Maer Eduardo Paes
Daearyddiaeth
Arwynebedd 1,260 km²
Uchder O 0 i 1,021 medr m
Demograffeg
Poblogaeth Cyfrifiad 7.787.098 (Cyfrifiad 2008)
Dwysedd Poblogaeth 4,781 /km2
Metro 14,387,000
Gwybodaeth Bellach
Cylchfa Amser BST (UTC-3)
Haf BDT (UTC-2)
Cod Post 21
Gwefan http://www.rio.rj.gov.br/


Rio de Janeiro (sy'n meddwl "Afon Ionawr" ym Mhortiwgeg) yw ail ddinas fwyaf Brasil a De America, tu ôl São Paulo a Buenos Aires. Fe'i lleolir ar arfordir ddwyreiniol canolbarth Brasil sy'n enwog am ei thraethau godidog a Mynydd y Dorth Siwgr. Roedd y ddinas yn brifddinas ar Brasil am bron i ddwy ganrif, o 1763 tan 1822 yn ystod cyfnod trefedigaethol Portiwgal, ac o 1822 tan 1960 pan oedd yn wlad annibynnol. Rio de Janeiro oedd cyn-brifddinas yr Ymerodraeth Portiwgeaidd hefyd (1808 - 1821). Caiff y ddinas ei hadnabod yn aml fel Rio, ac mae ganddi'r ffugenw A Cidade Maravilhosa, neu "Y Ddinas Fendigedig".

Mae Rio de Janeiro yn enwog am ei lleoliad naturiol, dathliadau ei charnifal, samba a cherddoriaeth arall, a'r traethau twristaidd, fel Copacabana ac Ipanema. Yn ogystal â'r traethau, mae'r ddinas yn enwog am ei cherflun enfawr o Grist, sy'n cael ei adnabod fel Crist y Iachawdwr ('Cristo Redentor') sydd ar ben mynydd Corcovado. Mae'r ddinas yn enwog hefyd am Fynydd y Dorth Siwgr (Pão de Açúcar) gyda'r cherbydau gwifren; y Sambódromo, stand gorymdaith parhaol a ddefnyddir yn ystod Carnifal a Stadiwm Maracanã, sy'n un o stadiymau peldroed mwyaf y byd.

Golygfa dros Rio de Janeiro o Fynydd y Dorth Siwgr

Ceir y fforest fwyaf a'r ail fwyaf yn y byd yn y ddinas hefyd: mae Floresta da Tijuca, neu "Fforest Tijuca" a'r goedwig yn Parque Estadual da Pedra Branca, sydd bron yn gysylltiedig â'r parc arall. Mae Maes Awyr Rhyngwladol Galeão - Antônio Carlos Jobim yn cysylltu Rio de Janeiro gyda nifer o ddinasoedd eraill Brasil ac yn cynnig nifer o hediadau rhyngwladol eraill.

Er gwaethaf ei phrydferthwch, ystyrir Rio fel un o ddinasoedd mwyaf treisgar y byd,[1]sydd wedi ysbrydoli ffilmiau fel Bus 174, City of God ac Elite Squad sydd oll wedi amlygu nifer o faterion cymdeithasol difrifol. Lleolir llawe o'r troseddau treisgar yn y favelas neu'r trefi shanti ond fe'u gwelir hefyd mewn cymdogaethau dosbarth canol ac uwch. Yn wahanol i nifer o ddinasoedd eraill, lleolir nifer o'r slymiau gyferbyn â rhai o ardaloedd mwyaf cefnog y ddinas.

Mae Rio yn gartref i Erin Glyn Roberts

Enwogion

Cyfeiriadau

  1. Rio hit by deadly gang violenceBBC NEWS. Americas. Adalwyd 26-04-2009
Eginyn erthygl sydd uchod am Frasil. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol