Gwenhwyfar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: cs:Guinevere
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: ro:Guinevere
Llinell 35: Llinell 35:
[[pl:Ginewra]]
[[pl:Ginewra]]
[[pt:Genebra (rainha)]]
[[pt:Genebra (rainha)]]
[[ro:Guinevere]]
[[ru:Гвиневра]]
[[ru:Гвиневра]]
[[sv:Guenever]]
[[sv:Guenever]]

Fersiwn yn ôl 08:12, 14 Ebrill 2012

Gwenhwyfar; llun gan John Collier gyda'r teitl Queen Guinevre's Maying

Gwenhwyfar (Lladin: Guinhumara, Ffrangeg: Guenièvre, Saesneg: Guinevere) oedd gwraig y brenin Arthur. Disgrifir hi mewn rhai ffynonellau Cymraeg fel merch i Ogfran Gawr, ac mae traddodiad fod iddi chwaer o'r enw Gwenhwyfach.

Ymddengys mewn nifer o testunau Cymreig, er enghraifft, crybwyllir hi yn chwedl Culhwch ac Olwen, er nad oes ganddi ran fawr yn y stori. Ceir cyfres o hen englynion gyda'r teitl Ymddiddan Arthur a Gwenhwyfar, sydd efallai wedi goroesi o chwedl goll gynnar amdani. Ym Muchedd Gildas o waith Caradog o Lancarfan, dywedir i Melwas, brenin Aestiva Regio (Gwlad yr Haf), ei chipio a'i chadw'n garcharor. Ymddengys y chwedl yma yng ngwaith Chrétien de Troyes hefyd. Mae fersiwn Sieffre o Fynwy o'r digwyddiad yn ei Historia Regum Britanniae ychydig yn wahanol; dywed iddi odinebu gyda Medrod, nai Arthur, a gorffen ei hoes fel lleian yng Nghaerllion ar Wysg. Ceir nifer o gyfeiriadau ati yn y Tair Rhamant.

Yn y fersiynau diweddarch o chwedlau Arthur, mae Gwenhwyfar yn cynnal carwriaeth a Lawnsalot, ac mae hyn yn y pen draw yn arwain at Frwydr Camlan a dinistr y deyrnas. Mae traddodiad arall fod y cweryl rhwng Arthur a Medrawd wedi dechrau fel ffrae rhwng Gwenhwyfar a'i chwaer Gwenhwyfach (amrywiad: Gwenhwyach).

Mae un o Drioedd Ynys Prydain (53) yn cofnodi Gwenhwyfach yn taro Gwenhwyfar fel un o'r 'Tair Gwith (Niweidiol) Balfawd ('cernod')' am iddo arwain at Frwydr Camlan.