Siartiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
RedBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: he:התנועה הצ'רטיסטית |
Hebrew added |
||
Llinell 44: | Llinell 44: | ||
[[uk:Чартизм]] |
[[uk:Чартизм]] |
||
[[zh:宪章运动]] |
[[zh:宪章运动]] |
||
[[he:התנועה הצ'רטיסטית]] |
Fersiwn yn ôl 16:35, 11 Ebrill 2012
Mudiad a hawliai wellianau yn amodau byw a hawliau dinesig y gweithiwr cyffredin yn y 19eg ganrif oedd Siartiaeth neu Fudiad y Siartwyr. Roedd y mudiad yn weithgar yng Nghymru a Lloegr. Cafodd ei sefydlu gan Siarter y Bobl a gyhoeddwyd ym Mai 1838.
Cymru
Yng Nghymru, maes glo'r de oedd cadarnle'r Siartwyr. Yng Nghaerfyrddin, y Siartydd mwyaf amlwg oedd Hugh Williams, a oedd yn frawd yng nghyfraith i Richard Cobden, y gwleidydd radicalaidd. Yn Llanelli yr oedd David Rees golygydd Y Diwygiwr yn ffigwr amlwg. Ym Merthyr Tudful, roedd Morgan Williams; yr enwog Dr Willliam Price o Lantrisant; a John Frost yn Sir Fynwy. Dedfrydwyd Frost a'i ddilynwyr yn Neuadd y Sir, Trefynwy i'w crogi a'u chwarteru.