Swdan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
HiW-Bot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2) (robot yn tynnu: map-bms:Sudan |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
|arwyddair_cenedlaethol= Al-Nasr Lana |
|arwyddair_cenedlaethol= Al-Nasr Lana |
||
|anthem_genedlaethol= [[Nahnu Jund Allah Jund Al-watan]] |
|anthem_genedlaethol= [[Nahnu Jund Allah Jund Al-watan]] |
||
|delwedd_map= |
|delwedd_map= Sudan in its region (claimed).svg |
||
|prifddinas= [[Khartoum]] (Al Khartūm) |
|prifddinas= [[Khartoum]] (Al Khartūm) |
||
|dinas_fwyaf= [[Omdurman]] (Umm Durmān) |
|dinas_fwyaf= [[Omdurman]] (Umm Durmān) |
Fersiwn yn ôl 14:49, 11 Ebrill 2012
- Am y rhanbarth, gweler Sudan (rhanbarth).
| |||||
Arwyddair: Al-Nasr Lana | |||||
Anthem: Nahnu Jund Allah Jund Al-watan | |||||
Prifddinas | Khartoum (Al Khartūm) | ||||
Dinas fwyaf | Omdurman (Umm Durmān) | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Arabeg, Saesneg | ||||
Llywodraeth | Unbennaeth | ||||
- Arlywydd | Omar al-Bashir | ||||
Annibyniaeth - Dyddiad |
o'r Aifft a'r DU 1 Ionawr 1956 | ||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
1,886,086 km² (16fed) 6%1 | ||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2011 - Cyfrifiad 2006 - Dwysedd |
45,047,5021 (29ain) 30,894,000 16.4/km² (194ain) | ||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $84.75 biliwn1 (62ain) $2,396 (134ain) | ||||
Indecs Datblygiad Dynol (2003) | 0.512 (141fed) – canolig1 | ||||
Arian cyfred | Dinar Sudan (SDD )
| ||||
Cylchfa amser - Haf |
EAT (UTC+3) EAT (UTC+3) | ||||
Côd ISO y wlad | .sd | ||||
Côd ffôn | +249
| ||||
1gan gynnwys De Sudan |
Gwlad fawr yng ngogledd-ddwyrain Affrica yw Gweriniaeth Sudan neu Sudan (hefyd Swdan neu Siwdan). Mae'n ffinio â'r Aifft i'r gogledd, Eritrea ac Ethiopia i'r dwyrain, De Sudan i'r de, Gweriniaeth Canolbarth Affrica a Tchad i'r gorllewin a Libya i'r gogledd-orllewin. Mae'r Môr Coch yn gorwedd i'r gogledd-ddwyrain ac mae Afon Nîl yn llifo trwy'r wlad.
Hanes
Hanes cynnar Sudan
Hyd at ddechrau'r 5ed ganrif, bron iawn, cefnogai'r Ymerodraeth Rufeinig dylwyth y Nobatae, a ddefnyddiai deyrnas Meroë fel amddiffynfa rhwng yr Aifft a thylwyth y Blemmyae. Tua'r flwyddyn 350 OC, daeth annibyniaeth Meroë i ben, pan ddinistriwyd y ddinas gan fyddin o Abyssinia.
Teyrnasoedd Cristnogol
Erbyn y 6ed ganrif, ymddangosodd tair gwladwriaeth newydd: Nobatia yn y gogledd, Muqurra yn y canolbarth, ac Alawa (oedd a'i phrifddinas ger safle Khartoum heddiw). Tua 540, anfonodd Theodora, ymerodres Bysantiwm, genhadwyr i hybu'r Efengyl Gristnogol yn Nobatia. Derbyniodd brenhinoedd Nubia awdurdod patriarchaid eglwys Goptig yr Aifft.
Dyfod Islam
Wedi sawl ymgais aflwyddianus ar wladychiad milwrol, arwyddodd lluoedd Arabaidd o'r Aifft gyfres o gytundebau (AlBaqt) gyda'r Nubiaid. Bu'r cytundebau yn sail i berthynas yr Arabiaid a'r Nubiaid am gyfnod o dros 600 mlynedd. Lledaenodd Islam trwy'r ardal yn raddol iawn, trwy briodi a masnachu gyda mewnfudwyr a masnachwyr Arabaidd. Ym 1315, esgynodd tywysog o Fwslim o dras Nubiaidd i orsedd Dunqulah.
Ymddyngasodd dau grŵp Arabeg eu hiaith, y Jaali a'r Juhayna. Yn gorfforol, roeddynt yn ddi-dor gyda'r boblogaeth gyn-Islamaidd. Mae elfennau Arabaidd a Nubiaidd i ddiwylliant gogledd Sudan sydd ohonni.
Teyrnas Sinnar
Yn y 17eg ganrif, ymddangosodd pobl y Funj yn neheubarth Nubia, gan gymryd lle adfeilion teyrnas Gristnogol, gan sefydlu As-Saltana az-Zarqa.
Rheolaeth o'r Aifft - 1821-1885
Yn 1820, daeth gogledd Sudan dan reolaeth Muhammad Ali, rhaglaw yr Ymerodraeth Ottomanaidd yn yr Aifft. Gydag annogaeth o Brydain, ceisiodd Ismail Pasha, estyn y ddylanwad Eifftaidd tua'r de yn y blynyddoedd 1863-1879.
Gwrthryfel Mahdaidd
Ysgogwyd Muhammad ibn Abdalla i arwain wrthryfel oherwydd cam-lywodraeth Eifftaidd a dymuniad i burháu Islam yn Sudan. Ym 1885, lladdwyd y Cadfridog prydeinig Charles George Gordon, gadawodd yr Eifftiaid, a sefydlwyd wladwriaeth grefyddol Mahdaidd newydd.
|