Sgwrs Defnyddiwr:Arwel ap Dewi ap Siôn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
angen ffynhonnell
Llinell 50: Llinell 50:
==Mytholeg Gymreig==
==Mytholeg Gymreig==
Bore da. Dw i wedi rhoi 'angen ffynhonnell' wrth dy ychwanegiad di. Mae angen gwneud hyn gyda PHOB ffaith da ni'n ei ychwanegu at Wici, os gweli di'n dda. [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Llywelyn2000|sgwrs]]) 04:16, 10 Ebrill 2012 (UTC)
Bore da. Dw i wedi rhoi 'angen ffynhonnell' wrth dy ychwanegiad di. Mae angen gwneud hyn gyda PHOB ffaith da ni'n ei ychwanegu at Wici, os gweli di'n dda. [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Llywelyn2000|sgwrs]]) 04:16, 10 Ebrill 2012 (UTC)

Does gennai'm ffynhonell, ond wedi darllen y gerdd yma mae'n amlwg for Cad Goddeu yn chwedl sy'n gysylltedig a'r Pedair Cainc. Wedi gwared a'r teitl, ac am wneud rhagor o ymchwilio i'r chwedl yma. [[Defnyddiwr:Arwel ap Dewi ap Siôn|Arwel]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Arwel ap Dewi ap Siôn|sgwrs]]) 17:32, 10 Ebrill 2012 (UTC)

Fersiwn yn ôl 17:32, 10 Ebrill 2012


Croeso cynnes i ti i Wicipedia - a llongyfs am sgwennu erthygl dda; dw i wedi newid un neu ddau o bethau bach, fel y gweli di yn fama Dal i fynd! Oes na chwaneg o draethau diddorol ym Môn? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:18, 6 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]

Dim yn siwr sut mae mynd o gwmpas ateb, felly wedi ceisio golygu y sgwrs... oes na ffordd haws i wneud hyn? Diolch am wneud y mân newidiadau. Dal i ddysgu sut i ddefnyddio Wici! Oes mae sawl traeth diddorol ochrau yma i'r ynys, mi driai sgrifennu am rhai ohonnynt. Arwel ap Dewi ap Siôn


Traethau Môn

Paid a phoeni am gangymeriadau - dydyn nhw ddim yn bod! Mi ddaw rhywun heibio i'w cywiro. Daw rhywun am sgowt i gywiro fy iaith inna hefyd mewn chwap!!! Wedi i ti greu un neu ddau arall mi wna i ddechrau rhestr Rhestr Traethau Môn er mwyn eu casglu i gyd efo'i gilydd. Ymlaen, i'r gad!! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:40, 6 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]

Wedi sgrifennu erthygl am draeth Lligwy... mae sawl stori a hanes am draethau'r ynys. --Arwel ap Dewi ap Siôn (sgwrs) 08:02, 6 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]

Bril! Roll em up! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:05, 6 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]

Mae Bae Lligwy a Bae Dulas yn ddau wahanol fae... mae Bae Dulas yn cynnwys: Traeth Dulas, Traeth yr Ora a Thraeth Bach. Nid Bae Lligwy yw hon, Traeth Lligwy yw traeth sy'n rhan o Fae Lligwy. Rwyf wedi edrych ar fap arolwg ordans yr ardal. Efallai syniad creu tudalen arall ar gyfer Bae Lligwy a chadw'r dudalen a greuais i yn Fae Dulas. Cofion, Arwel


Ty'n y Gongl

Haia eto. Mae mewnforio holl Nodynnau o Wiki-en yn llafurus a boring; mi wnes ti'n wych efo Ty'n y Gongl; ond roedd Templates y Nodyn wedi'u mewnforio'n barod. Cadwa at lefydd a mi fyddi di'n iawn. Y rhan anoddaf un o Wici ydy'r Nodynnau yma. Llywelyn2000 (sgwrs) 18:00, 6 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]

Diolch. Mae Bae Lligwy a Bae Dulas yn ddau wahanol fae... mae Bae Dulas yn cynnwys: Traeth Dulas, Traeth yr Ora a Thraeth Bach. Nid Bae Lligwy yw hon. Traeth Lligwy yw traeth sy'n rhan o Fae Lligwy. Rwyf wedi edrych ar fap arolwg ordans yr ardal. Efallai syniad creu tudalen arall ar gyfer Bae Lligwy a chadw'r dudalen a greuais i yn Fae Dulas. Be ti feddwl?

Haia. Bydd angen newid y frawddeg gyntaf felly: i gyd-fynd efo'r teitl. Ar hyn o bryd mae nhw'n wahanol. Fe ddaw! Dyfal donc... Hwyl! Llywelyn2000 (sgwrs) 19:58, 6 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]

Whaw! Ti'n ddysgwr cyflym! Defnyddio'r Nodyn (Template) ydy'r peth anodda yn Wici! Ti wedi'i feistroli mewn diwrnod! Mae dy erthygl Rhedynen Fair yn wych: be fasa'n ei godi i dir uwch ydy rhoi cyfeiriadau (references) i'r wybodaeth. Mae hyn yn hawdd fel baw. drwy ddefnyddio'r cromfachau ref. Unrhyw broblem - hola fi neu rywun arall sut i'w wneud - ar fy nhudalen sgwrs. Awe! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:51, 7 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]


Pabi Cymreig

Diolch am addasu'r erthygl Popi Cymreig drwy roi cyfeiriadau; fedri di ychwanegu enw'r cyhoeddwr hefyd os gweli di'n dda, a'r dyddiad cyhoeddi. Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:41, 7 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]


Canclwm Japan

Canclwm Japan: bydd angen y gyfeiriadaeth lawn yn fama, Arwel. Rwyt ti wedi rhoi:

  • Asiantaeth yr Amgylchedd - gwefan bywyd gwyllt

fel cyfeiriad. Fedri di gopio a phastio mewn cromfachau refs e.e.: <ref>{{Dyf gwe |url= |teitl= |awdur= |dyddiad= |gwaith= |cyhoeddwr= |dyddiadcyrchiad=29 Chwefror 2012 |iaith=}}</ref> Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:49, 7 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]


Siân Slei Bach

Erthyglau fel hyn sy'n gwneud Wici yn gartrefol, unigryw ac yn werth gweithio arni! Bendigedig! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:10, 9 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]

Diolch; mae ambell erthygl arall hefyd angen y wybodaeth yma e.e. Canclwm Japan.

Mytholeg Gymreig

Bore da. Dw i wedi rhoi 'angen ffynhonnell' wrth dy ychwanegiad di. Mae angen gwneud hyn gyda PHOB ffaith da ni'n ei ychwanegu at Wici, os gweli di'n dda. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:16, 10 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]

Does gennai'm ffynhonell, ond wedi darllen y gerdd yma mae'n amlwg for Cad Goddeu yn chwedl sy'n gysylltedig a'r Pedair Cainc. Wedi gwared a'r teitl, ac am wneud rhagor o ymchwilio i'r chwedl yma. Arwel (sgwrs) 17:32, 10 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]