Rio Grande: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SassoBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn newid: eu:Río Grande
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.6.4) (robot yn newid: th:รีโอแกรนด์
Llinell 59: Llinell 59:
[[sw:Mto Grande]]
[[sw:Mto Grande]]
[[ta:ரியோ கிராண்டே]]
[[ta:ரியோ கிராண்டே]]
[[th:แม่น้ำรีโอแกรนด์]]
[[th:รีโอแกรนด์]]
[[tr:Rio Grande]]
[[tr:Rio Grande]]
[[uk:Ріо-Гранде]]
[[uk:Ріо-Гранде]]

Fersiwn yn ôl 07:24, 10 Ebrill 2012

Dalgylch y Rio Grande

Afon yn Unol Daleithiau America a Mecsico yw'r Rio Grande, a adnabyddir ym Mecsico fel y Río Bravo del Norte neu Río Bravo. Hu yw'r bedwaredd hwyaf ymhlith afonydd yr Unol Daleithiau.

Ceir tarddle'r afon yn Fforest Genedlaethol y Rio Grande yn nhalaith Colorado. Mae'n llifo tua'r de trwy dalaith New Mexico. Wedi croesi i dalaith Texas ger El Paso, mae'n llifo tua'r de-ddwyrain gan ffurfio'r ffîn rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico yr holl ffordd i'w haber yng Ngwlff Mecsico. Ymhlith yr afonydd sy'n llifo i mewn iddi mae'r Río Conchos ac afon Pecos.

Y prif groesfannau dros yr afon rhwng y ddwy wlad yw Ciudad Juárez ac El Paso; Presidio, Texas, ac Ojinaga, Chihuahua; Laredo, Texas, a Nuevo Laredo, Tamaulipas; McAllen-Hidalgo, Texas, a Reynosa, Tamaulipas; a Brownsville, Texas, a Matamoros, Tamaulipas.

Y Rio Grande rhwng Matamoros (de) a Brownsville (chwith)