Hoyw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn newid: fa:پسر بازی |
B r2.7.1) (robot yn tynnu: fa:پسر بازی |
||
Llinell 40: | Llinell 40: | ||
[[es:Gay]] |
[[es:Gay]] |
||
[[et:Gei]] |
[[et:Gei]] |
||
[[fa:پسر بازی]] |
|||
[[fr:Gay (homosexualité)]] |
[[fr:Gay (homosexualité)]] |
||
[[ga:Aerach]] |
[[ga:Aerach]] |
Fersiwn yn ôl 07:21, 10 Ebrill 2012
- Mae'r dudalen hon am y gair "hoyw". Am wybodaeth am y cyfeiriadedd rhywiol gweler cyfunrywioldeb.
Ansoddair Cymraeg yw hoyw sydd, yn draddodiadol, yn golygu sionc neu bywiog, ond sydd yn aml mewn defnydd cyfoes yn cael ei ddefnyddio fel y term anffurfiol am gyfunrywiol.
Yn wreiddiol mae'r gair yn golygu hapus, llon, sionc, bywiog neu diofal.[1] Mae gan hoyw yn ei ystyr traddodiadol nifer fawr o darddeiriau, yn cynnwys hoywad (addurniad neu daclusiad), hoywi (i wneud rhywbeth yn hoyw), hoywaidd (bron yn gyfystyr â hoyw), hoywder (y briodwedd o fod yn hoyw), a nifer o gyfansoddeiriau megis hoywdon, hoywfro a hoyw-wyrdd.[2]
Yn yr ugeinfed ganrif lledaenodd y defnydd o hoyw fel term i ddisgrifio cyfunrywioldeb. Datblygodd y synnwyr newydd hwn dan ddylanwad y gair Saesneg gay, sef, yn ei ystyr traddodiadol, y cyfieithiad agosaf at hoyw; oherwydd y newid yn ystyr y gair Saesneg, a oedd wedi cael ei gymhwyso at gyfunrywioldeb erbyn degawdau cynnar y ganrif, gweliwyd newid yn ystyr y gair Cymraeg hefyd. Heddiw mae hoyw wedi ei safoni fel y term Cymraeg anffurfiol i ddisgrifio cyfunrywioldeb,[3] gydag hoywon fel gair lluosog am gyfunrywiolion. Ond er bod hoyw yn cyfeirio at holl bobl gyfunrywiol mewn rhai cyd-destunau, mae'r term lesbiad yn rhyw-benodol (mae'n disgrifio menywod cyfunrywiol yn unig), felly weithiau defnyddir hoyw a hoywon i ddisgrifio dynion yn unig (gweler terminoleg cyfunrywioldeb). Gall hefyd disgrifio pethau sy'n gyffredin i bobl gyfunrywiol, e.e. hanes hoyw, cerddoriaeth hoyw. Weithiau defnyddir y gair hoyw i gyfeirio at berthnasoedd rhwng pobl o'r un ryw, er enghraifft priodas hoyw, er bod rhai cefnogwyr LHDT yn annog yn erbyn y defnydd hwn ar y sail ei fod yn eithrio pobl ddeurywiol a thrawsryweddol ac yn annog defnyddio cyfunryw yn lle.
Yn y Saesneg, defnydd dadleuol o'r term gay yw i ddisgrifio rhywbeth annymunol, e.e. that's so gay ("mae hwnna mor hoyw"). Nid yw'r cymhwysiad hwn fel term dirmygus wedi'i drosglwyddo i Gymraeg gyffredin.[4]
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru, tud. 1901.
- ↑ Fersiwn Cryno o Argraffiad Cyntaf Geiriadur Prifysgol Cymru. Prifysgol Aberystwyth. Adalwyd ar 20 Ebrill, 2008. Chwiliwch y ffeil am "hoyw".
- ↑ Gweler defnydd o'r gair hoyw gan y BBC ([1]), Cynulliad Cenedlaethol Cymru ([2]), Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru ([3]), a'r mudiad hawliau LHDT Stonewall ([4]).
- ↑ Er hyn, gweler defnydd ar un sgwrs ar maes-e o hoyw fel gair sarhaus. [5]