Lucius Tarquinius Superbus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: eu:Tarkino Harroa |
RedBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: simple:Lucius Tarquinius Superbus |
||
Llinell 38: | Llinell 38: | ||
[[ru:Тарквиний Гордый]] |
[[ru:Тарквиний Гордый]] |
||
[[sh:Lucije Tarkvinije Oholi]] |
[[sh:Lucije Tarkvinije Oholi]] |
||
[[simple:Lucius Tarquinius Superbus]] |
|||
[[sk:Tarquinius Superbus]] |
[[sk:Tarquinius Superbus]] |
||
[[sl:Tarkvinij Ošabni]] |
[[sl:Tarkvinij Ošabni]] |
Fersiwn yn ôl 16:03, 9 Ebrill 2012
Lucius Tarquinius Superbus (teyrnasodd c. 534 CC - 509 CC, bu farw 496 CC) oedd brenin olaf Rhufain yn ôl yr hanes traddodiadol. Ef oedd yr olaf o'r tri brenin Etrwscaidd a deyrnasodd ar Rufain.
Roedd yn fab i bumed brenin Rhufain, Tarquinius Priscus. Wedi marwolaeth ei dad, cymerwyd yr orsedd gan Servius Tullius, a roddodd ei ddwy ferch mewn priodas i Lucius a'i frawd Arruns. Roedd y ferch hynaf, Tullia, yn briod ag Arruns, ond roedd hi'n anfodlon ar ei ddiffyg uchelgais ef, a dechreuodd berthynas a Lucius. Llofruddiasant Arruns a gwraig Lucius, ac yna Servius Tullius, a daeth Lucius yn frenin.
Ystyrid ei deyrnasiad yn ormesol, a daeth ei fab, Sextus, yn fwy amhoblogaidd fyth. Dechreuodd y digwyddiadau a arweiniodd at ddiwedd y frenhiniaeth pan reibiodd Sextus Lucretia, gwraig Collatinus. Dywedodd Lucretia wrth ei gŵr beth oedd wedi digwydd, yna lladdodd ei hun. Ymunodd Collatinus ag eraill, yn arbennig Lucius Junius Brutus, i yrru Lucius a Sextus o Rufain, a sefydlu Gweriniaeth Rhufain.