Dylunio: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: hy:Դիզայն
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2+) (robot yn newid: pl:Design
Llinell 127: Llinell 127:
[[nn:Formgjeving]]
[[nn:Formgjeving]]
[[no:Design]]
[[no:Design]]
[[pl:Dizajn]]
[[pl:Design]]
[[pt:Design]]
[[pt:Design]]
[[ru:Дизайн]]
[[ru:Дизайн]]

Fersiwn yn ôl 15:25, 9 Ebrill 2012

Caiff dylunio, ei ystyried fel arfer yn arlunio, peirianneg, pensaerniaeth, ac ym meysydd creadigol eraill. Yn y broses o ddylunio, mae dylunydd fel arfer yn ystyried agweddau estheteg, gweithrediad, a nifer o elfennau eraill sy'n gofyn am ymchwil, meddwl, modelu, addasu, ac ail-ddylunio helaeth.

Athroniaeth Dylunio

Gall astudio natur ac effaith dylunio fod yn ddi-ddal. Does dim iaith dylunio unedig na chorff unedig o ddylunwyr o bob disgyblaeth. Gall llwyddiant achosi disgwyliadau uwch fel ym mhob maes, ond yn nylunio yn arbennig does dim modd o fesur y llwyddiant.

Mae nifer fawr o athroniaethau sy'n tywys dylunio a gwerthoedd dylunio, gan fod agweddau gwahanol ar gyfer pob elfen o ddylunio, ac ar gyfer pob ffordd o feddwl a phob dylunydd unigol. [1] Defnyddir athroniaeth dylunio ar gyfer penderfynu targedau. Gall targed dylunio fod yn rhywbeth megis datrys problemau unigol pwysig yr elfen lleiaf, hyd at targedau dylanwadol, hynod o holistig a delfrydol. Defnyddir targedau fel arfer er mwyn tywys dylunio, er gall hyn gwrth-ddweud y targedau syml, ac arwain at gwestiynnu pwrpas y dylunio. Dros amser hir, fe all hyn wella safon y dylunio.

Y Broses o Ddylunio

Gall rhannau o'r broses o ddylunio gynnwys yr elfennau golynol:

  • Dylunio Cyn-cynhyrchu
    • Briff Dylunio - datganiad o dargedau'r dylunio
    • Analeiddio - Dadansoddi targedau'r dylunio presennol
    • Ymchwil - Ymchwilio'r atebion dylunio yn y maes ac mewn meysydd eraill â thargedau tebyg
    • Penodi - Penodi anghenion yr ateb dyluniadol
    • Datrys Problemau - Dyniadoli a dogfennu'r atebion dyluniadol
    • Cyflwyniad - Cyflwyno'r atebion dyluniadol
  • Dylunio yn ystod Cynhyrchu
    • Datblygu - parhâd a gwellhâd o'r ateb dyluniadol
    • Profi - Profi'r ateb dyluniadol
  • Dylunio ar ôl Cynhyrchu ac ymatebion ar gyfer dyluniadau'r dyfodol
  • Ail-ddylunio - Ail-adrodd unrhyw elfen o'r broses uchod, gyda chywiriadau, ar unrhyw adeg yn ystod, neu ar ôl cynhyrchu.


Diffinio Dylunio

Ystyrir ddylunio'n aml yn ffurf fwy llym o Arlunio, neu yn Arlunio gyda phwrpas penodedig. Gwelir y gwahaniaethu yn bennaf pan mai rhywyn heblaw'r arlunydd sy'n penderfynu'r pwrpas. Mewn Graffeg, gwelir y gwahaniaethu yn aml rhwng Celf gain a Chelf masnachol.

Ystyrir peiriannu'n aml yn ffurf fwy llym o ddylunio. Gellid dadlau fod peiriannu a dylunio yn rhan o'r un broses neu dim ond yn rhannu elfennau, gan ddibynnu ar ddisgyblaeth y dylunio. Mae'r ddau yn ffurf o ddatrys problemau, gyda'r diffiniad rhwng y ddau yn bodoli yn y defnydd o sylfaenau gwyddonol a mathemategol mewn peiriannu. Gall faint o wyddoniaeth a dylunio a ddefnyddir gwestiynnu os yw'r broses yn un o beirianneg neu wyddoniaeth; o fath cymdeithasol neu naturiol.

Mae'r berthynas rhwng dylunio a chynhyrchu yn un o gynllunio a gweithredu. Mewn damcan dylai'r cynllun ragweld a iawndalu unrhyw broblemau a godai yn ystod y broses. Mae dylunio yn cynnwys bod yn greadigol a datrys problemau, mae cynhyrchu ar y llaw arall, yn broses a gynllunwyd o flaen llaw. Mae peirianwyr a chynhyrchwyr fel arfer yn gweithio tuag at creu cynllun y dylunwyr, er mae disgwyl i ddyluwr gael syniad da o weithrediad y broses o beiriannu a chynhyrchu, iddynt allu dylunio yn fwy effeithlon.

Gweler Hefyd

Disgyblaethau Dylunio

Gall sawl o'r rest hefyd eu cysidro yn Ddylunio Masnachol.

Cymhwysiad

Cyfarthrebu

Corfforol

Cyfeirnodau

  1. Holm, Ivar (2006). Ideas and Beliefs in Architecture and Industrial design: How attitudes, orientations and underlying assumptions shape the built environment. Oslo School of Architecture and Design. ISBN 8254701741.

Dolenni Allanol

  • [1] Gwefan Gŵyl Ddylunio Caerdydd
  • [2] Cyfeiriadur Dylunio Cymru