Attila: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: br:Attila
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: io:Attila
Llinell 59: Llinell 59:
[[hy:Աթթիլա]]
[[hy:Աթթիլա]]
[[id:Attila]]
[[id:Attila]]
[[io:Attila]]
[[is:Atli Húnakonungur]]
[[is:Atli Húnakonungur]]
[[it:Attila]]
[[it:Attila]]

Fersiwn yn ôl 05:14, 8 Ebrill 2012

Attila

Roedd Attila (c.406-453) yn frenin yr Hyniaid, a enillodd iddo'i hun y llysenw "Fflangell Duw".

Y cynghrair

Yn 434 daeth yn gyd-frenin, gyda'i frawd, ar ffederasiwn lac o nifer fawr o lwythi Hun o ganolbarth Asia a oedd ar wasgar rhwng Môr Caspia ac Afon Daniwb. Cyn bo hir roedd gan Attila Fandaliaid, Ostrogothiaid, Gepidiaid a Ffranciaid yn ymladd dan ei faner yn ogystal ac roedd yn rheoli tiriogaeth a ymestynnai o Afon Rhein yn yr Almaen i Scythia ar ffin orllewinol Tsieina.

Ymosod ar Ymerodraeth y dwyrain

Yn 447 arweiniodd gyfres o gyrchoedd dinistriol ar yr holl daleithiau Rhufeinig rhwng y Môr Du a'r Môr Canoldir. Gorchfygodd yr ymerodr Theodosius II mewn tair brwydr waedlyd a dim ond ei muriau trwchus ac anwybodaeth yr Hyniaid â'u cynghreiriad o dactegau gwarchae a achubodd Gaergystennin rhag syrthio. Goresgynwyd Thrace, Macedon a gwlad Groeg ei hun hefyd a chymhellwyd Theodosius i ildio tiriogaeth i'r de o Afon Daniwb ac i dalu teyrnged arian i Attila.

Gâl

Yn 451 ymosododd Attila ar Gâl, ond llwyddodd Aetius, y pennaeth Rhufeinig, a'i gynghreiriad Theodoric, brenin y Visigothiaid, i godi ei warchae ar ddinas Orléans a'i drechu'n llwyr wedyn mewn brwydr gostus ar wastadedd Catalaunia, ger Châlons-sur-Marne.

Y cyrch ar Rufain

Tynnodd Attila yn ôl i Hwngari, ond y flwyddyn ar ôl hynny gwnaeth cyrch i'r Eidal gan anrheithio Aquileia, Milan, Padua a dinasoedd Rhufeinig eraill. Dim ond ymyrraeth bersonol Pab Leo I, a roddodd swm anferth o arian i Attila, a achubodd ddinas Rhufain ei hun rhag cael ei dinistrio.

Bu farw Attila yn 453, yn fuan wedi ei briodas i dywysoges Fwrgwynaidd o'r enw Ildeco, a chyda'i farwolaeth bu trai ar ymerodraeth yr Hun.

Cymeriad chwedlonol

Mae Attila yn gymeriad yn y Nibelungenlied Almaeneg dan yr enw Etzel ac yn ymddangos fel Atli yn y Völsunga Saga Hen Islandeg.

Oherwydd iddo farw yn ei wely fel canlyniad i waedlif drom, fe ymddengys, ymledodd sïon fod ei wraig Ildeco wedi llofruddio Attila er mwyn dial arno.

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol