Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
angen diweddaru |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{diweddaru}} |
|||
[[Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru|Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru]] yw '''Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011''' ([[Saesneg]]: ''Welsh Language (Wales) Measure 2011'') sy'n newid y fframwaith cyfreithiol ynghylch defnyddio'r [[Cymraeg|Gymraeg]] wrth ddarparu [[gwasanaethau cyhoeddus]] yng [[Cymru|Nghymru]]. Fe'i basiwyd gan y Cynulliad ar 7 Rhagfyr 2010<ref name="Cynulliad">{{dyf gwe |url=http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-third-assembly/bus-legislation-third-assembly/bus-leg-measures/business-legislation-measures-wl.htm |teitl=Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 |cyhoeddwr=[[Cynulliad Cenedlaethol Cymru]] |dyddiadcyrchiad=6 Awst |blwyddyncyrchiad=2011 }}</ref> a [[dod i rym|daeth i rym]] ar 9 Chwefror 2011 pan dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol gan [[Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig|y Frenhines]].<ref>{{dyf gwe |url=http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-third-assembly/bus-guide-docs-pub/bus-business-documents/bus-business-documents-doc-laid/cr-ld8414-e.pdf?langoption=3&ttl=CR-LD8414%20-%20Cymeradwyaeth%20Frenhinol%20i%20Fesur%20Cynulliad%3A%20Mesur%20y%20Gymraeg%20%28Cymru%29%202011 |teitl=Cymeradwyaeth Frenhinol i Fesur Cynulliad—Mesur Arfaethedig y Gymraeg (Cymru) 2011 |dyddiad=[[9 Chwefror]], [[2011]] |cyhoeddwr=[[Claire Clancy]], [[Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad]], [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru]] |dyddiadcyrchiad=6 Awst |blwyddyncyrchiad=2011 }}</ref> Mae'r mesur yn creu swydd Comisiynydd y Gymraeg, a benodir gan y [[Prif Weinidog Cymru|Prif Weinidog]], ac yn diddymu [[Bwrdd yr Iaith Gymraeg]]. |

Fersiwn yn ôl 04:45, 8 Ebrill 2012
Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. Gweler y dudalen sgwrs am ragor o wybodaeth. |
Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Saesneg: Welsh Language (Wales) Measure 2011) sy'n newid y fframwaith cyfreithiol ynghylch defnyddio'r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Fe'i basiwyd gan y Cynulliad ar 7 Rhagfyr 2010[1] a daeth i rym ar 9 Chwefror 2011 pan dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol gan y Frenhines.[2] Mae'r mesur yn creu swydd Comisiynydd y Gymraeg, a benodir gan y Prif Weinidog, ac yn diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Bydd gan y Comisiynydd y pŵer i gosbi cyrff cyhoeddus a rhai cwmnïau preifat, megis cwmnïau nwy, trydan, a ffôn, am dorri eu hymrwymiad i'r iaith.[3] Cyhoeddwyd ym mis Hydref 2011 mai Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, fydd y Comisiynydd Iaith newydd,[4] a bydd hi'n gadael ei swydd fel Cadeirydd y Bwrdd yn gynnar ym mis Chwefror 2012 er mwyn gallu paratoi ar gyfer y swydd newydd a ddechreua ym mis Ebrill 2012 yn swyddogol.[5]
Cyflwynwyd y mesur gan Alun Ffred Jones AC, y Gweinidog dros Dreftadaeth, ar 4 Mawrth 2010.[1]
Hanes
Ar ôl i'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru ffurfio llywodraeth glymblaid Cymru'n Un yng Ngorffennaf 2007 roedd addewid yn eu cytundeb i greu "deddf newydd i gadarnhau statws swyddogol ar gyfer y Gymraeg a'r Saesneg ac estyn hawliau i ddefnyddio gwasanaethau yn y Gymraeg". Yn Ionawr 2009 dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Paul Murphy y gallai'r broses ar gyfer cais gan Lywodraeth y Cynulliad am yr hawl i ddeddfu ynghylch yr iaith Gymraeg fod yn "stormus", yn debyg yn sgìl pryderon y gallai adrannau llywodraeth y Deyrnas Unedig gael eu dirwyo am beidio â defnyddio digon o Gymraeg ac amheuon nifer o Aelodau Seneddol Llafur am estyn cydraddoldeb ieithyddol y tu hwnt i'r sector cyhoeddus.[6]
Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Yr Iaith Gymraeg) 2009
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gosododd Alun Ffred Jones Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD) ar 2 Chwefror 2009 i "ehangu cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud cyfreithiau newydd i Gymru drwy Fesurau ynglŷn â'r iaith Gymraeg".[7] Sefydlwyd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 ar 4 Chwefror i ystyried y GCD.
Proses
Ar 4 Mawrth 2010 datganodd yr Arglwydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad, bod darpariaethau'r mesur arfaethedig o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.[8]
Ymateb
"R'yn ni am i’r iaith gael ei thrin fel cydraddoldebau eraill lle mae unigolion yn cael hawliau sylfaenol. Ac r'yn ni eisiau i'r Mesur ffitio i mewn gyda chyfundrefn hawliau ryngwladol. Mae pobol yn delio gyda materion fel hyn ar draws y byd."
Croesawyd cyhoeddiad y mesur arfaethedig fel "diwrnod hanesyddol" gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, er disgrifiodd y mudiad hepgor sôn am hawliau o'r mesur "fel adeiladu tŷ ar dywod".[10] Ar 10 Mawrth anfonodd Cymdeithas lythyr at Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, yn gwneud cwyn swyddogol am y mesur arfaethedig, gan gyhuddo bod Llywodraeth y Cynulliad wedi camarwain y cyhoedd trwy honni bydd y mesur yn sicrhau statws swyddogol i'r Gymraeg.[11]
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Adalwyd ar 6 Awst, 2011.
- ↑ Cymeradwyaeth Frenhinol i Fesur Cynulliad—Mesur Arfaethedig y Gymraeg (Cymru) 2011. Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru (9 Chwefror, 2011). Adalwyd ar 6 Awst, 2011.
- ↑ Y llywodraeth yn cyhoeddi mesur iaith newydd. BBC (4 Mawrth 2010). Adalwyd ar 5 Mawrth 2010.
- ↑ (Cymraeg) Newyddion - Meri Huws yw'r Comisiynydd Iaith newydd. BBC (5 Hydref 2011). Adalwyd ar 21 Rhagfyr 2011.
- ↑ Comisiynydd y Gymraeg yn dechrau ar ei gwaith ym mis Chwefror. BBC (1 Rhagfyr 2011). Adalwyd ar 21 Rhagfyr 2011.
- ↑ Iaith: 'Cyfnod stormus i ddod'. BBC (15 Ionawr 2009). Adalwyd ar 7 Mawrth 2010.
- ↑ Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Yr Iaith Gymraeg) 2009. Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Adalwyd ar 12 Mawrth 2010.
- ↑ Datganiad y Llywydd am Gymhwysedd Deddfwriaethol—Mesur Arfaethedig y Gymraeg (Cymru). Yr Arglwydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru (4 Mawrth 2010). Adalwyd ar 7 Mawrth 2010.
- ↑ Ymateb - ‘Tŷ ar y tywod’ yw’r Mesur Iaith. Golwg360 (4 Mawrth 2010). Adalwyd ar 7 Mawrth 2010.
- ↑ Ein ymateb i'r Mesur Iaith Gymraeg. Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (4 Mawrth 2010). Adalwyd ar 7 Mawrth 2010.
- ↑ Cwyn Cymdeithas at y Prif Weinidog am y mesur iaith. BBC (10 Mawrth 2010). Adalwyd ar 13 Mawrth 2010.
Dolenni allanol
- Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 – manylion a hanes y mesur ar wefan y Cynulliad
- Y gorchymyn
- Testun y mesur
- Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (fersiwn HTML)
- Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (fersiwn PDF)
- Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011/Welsh Language (Wales) Measure 2011 (fersiwn PDF dwyieithog)