Gwyddno Garanhir: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: gl:Gwyddno Garanhir
Llinell 20: Llinell 20:
[[en:Gwyddno Garanhir]]
[[en:Gwyddno Garanhir]]
[[fr:Gwyddno Garanhir]]
[[fr:Gwyddno Garanhir]]
[[gl:Gwyddno Garanhir]]
[[it:Gwyddno Garanhir]]
[[it:Gwyddno Garanhir]]
[[ru:Гвиддно Журавлиные ноги]]
[[ru:Гвиддно Журавлиные ноги]]

Fersiwn yn ôl 23:31, 7 Ebrill 2012

Cymeriad chwedlonol Cymreig oedd Gwyddno Garanhir (neu Gwyddneu). Mae'n ymddangos gyntaf yn nhraddodiadau yr Hen Ogledd, ac mae Bonedd Gwŷr y Gogledd yn ei ddisgrifio fel un o ddisgynyddion y brenin Dyfnwal Hen.

Ymddengys mewn chwedloniaeth fel arglwydd Cantre'r Gwaelod, a leolid yn draddodiadol ym Bae Ceredigion, gyferbyn i Aberystwyth ac Aberdyfi. Cedwid y môr allan gan lifddorau, ond un diwrnod roedd y gwyliwr, Seithenyn, yn feddw, a boddwyd Cantre'r Gwaelod gan y môr. Mae'r gerdd Seithennin Saf Allan yn Llyfr Du Caerfyrddin yn cyfeirio at foddi "Maes Gwyddneu" (Maes Gwyddno).

Mae cyfeiriad at Gwyddno yn chwedl Culhwch ac Olwen, ac mae ei fab, Elffin ap Gwyddno, yn gymeriad amlwg yn y chwedl Hanes Taliesin fel noddwr Taliesin Ben Beirdd.

Cyfeiriadau

  • Ford, Patrick K. (gol.), Ystoria Taliesin (Gwasg Prifysgol Cymru, 1992). Testun Hanes Taliesin yn llaw Elis Gruffydd.
  • North, Frederick John, Sunken cities: Some legends of the coast and lakes of Wales (Caerdydd, 1957)
  • Williams, Taliesin (gol.), The Iolo Manuscripts (1848)