Sgwrs Defnyddiwr:Arwel ap Dewi ap Siôn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
copio a phastio, yna llenwi rhai o'r manylion. Tystiolaeth fod y wybodaeth da ni'n ei roi - yn gywir!
wps
Llinell 24: Llinell 24:
*Asiantaeth yr Amgylchedd - gwefan bywyd gwyllt
*Asiantaeth yr Amgylchedd - gwefan bywyd gwyllt
fel cyfeiriad. Fedri di gopio a phastio mewn cromfachau refs e.e.:
fel cyfeiriad. Fedri di gopio a phastio mewn cromfachau refs e.e.:
{{Dyf gwe |url= |teitl= |awdur= |dyddiad= |gwaith= |cyhoeddwr= |dyddiadcyrchiad=29 Chwefror 2012 |iaith=}}</ref>
<nowiki><ref>{{Dyf gwe |url= |teitl= |awdur= |dyddiad= |gwaith= |cyhoeddwr= |dyddiadcyrchiad=29 Chwefror 2012 |iaith=}}</ref></nowiki>
Diolch! [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Llywelyn2000|sgwrs]]) 07:49, 7 Ebrill 2012 (UTC)
Diolch! [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Llywelyn2000|sgwrs]]) 07:49, 7 Ebrill 2012 (UTC)

Fersiwn yn ôl 07:51, 7 Ebrill 2012

Croeso cynnes i ti i Wicipedia - a llongyfs am sgwennu erthygl dda; dw i wedi newid un neu ddau o bethau bach, fel y gweli di yn fama Dal i fynd! Oes na chwaneg o draethau diddorol ym Môn? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:18, 6 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]

Dim yn siwr sut mae mynd o gwmpas ateb, felly wedi ceisio golygu y sgwrs... oes na ffordd haws i wneud hyn?
Diolch am wneud y mân newidiadau. Dal i ddysgu sut i ddefnyddio Wici! Oes mae sawl traeth diddorol ochrau yma i'r ynys, mi driai sgrifennu am rhai ohonnynt. Arwel ap Dewi ap Siôn
Paid a phoeni am gangymeriadau - dydyn nhw ddim yn bod! Mi ddaw rhywun heibio i'w cywiro. Daw rhywun am sgowt i gywiro fy iaith inna hefyd mewn chwap!!! Wedi i ti greu un neu ddau arall mi wna i ddechrau rhestr Rhestr Traethau Môn er mwyn eu casglu i gyd efo'i gilydd. Ymlaen, i'r gad!! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:40, 6 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
Wedi sgrifennu erthygl am draeth Lligwy... mae sawl stori a hanes am draethau'r ynys. --Arwel ap Dewi ap Siôn (sgwrs) 08:02, 6 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
Bril! Roll em up! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:05, 6 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
Mae Bae Lligwy a Bae Dulas yn ddau wahanol fae... mae Bae Dulas yn cynnwys: Traeth Dulas, Traeth yr Ora a Thraeth Bach. Nid Bae Lligwy yw hon, Traeth Lligwy yw traeth sy'n rhan o Fae Lligwy. Rwyf wedi edrych ar fap arolwg ordans yr ardal. Efallai syniad creu tudalen arall ar gyfer Bae Lligwy a chadw'r dudalen a greuais i yn Fae Dulas. Cofion, Arwel

Haia eto. Mae mewnforio holl Nodynnau o Wiki-en yn llafurus a boring; mi wnes ti'n wych efo Ty'n y Gongl; ond roedd Templates y Nodyn wedi'u mewnforio'n barod. Cadwa at lefydd a mi fyddi di'n iawn. Y rhan anoddaf un o Wici ydy'r Nodynnau yma. Llywelyn2000 (sgwrs) 18:00, 6 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]

Diolch. Mae Bae Lligwy a Bae Dulas yn ddau wahanol fae... mae Bae Dulas yn cynnwys: Traeth Dulas, Traeth yr Ora a Thraeth Bach. Nid Bae Lligwy yw hon. Traeth Lligwy yw traeth sy'n rhan o Fae Lligwy. Rwyf wedi edrych ar fap arolwg ordans yr ardal. Efallai syniad creu tudalen arall ar gyfer Bae Lligwy a chadw'r dudalen a greuais i yn Fae Dulas. Be ti feddwl?
Haia. Bydd angen newid y frawddeg gyntaf felly: i gyd-fynd efo'r teitl. Ar hyn o bryd mae nhw'n wahanol. Fe ddaw! Dyfal donc... Hwyl! Llywelyn2000 (sgwrs) 19:58, 6 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]

Whaw! Ti'n ddysgwr cyflym! Defnyddio'r Nodyn (Template) ydy'r peth anodda yn Wici! Ti wedi'i feistroli mewn diwrnod! Mae dy erthygl Rhedynen Fair yn wych: be fasa'n ei godi i dir uwch ydy rhoi cyfeiriadau (references) i'r wybodaeth. Mae hyn yn hawdd fel baw. drwy ddefnyddio'r cromfachau ref. Unrhyw broblem - hola fi neu rywun arall sut i'w wneud - ar fy nhudalen sgwrs. Awe! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:51, 7 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]

Diolch am addasu'r erthygl Popi Cymreig drwy roi cyfeiriadau; fedri di ychwanegu enw'r cyhoeddwr hefyd os gweli di'n dda, a'r dyddiad cyhoeddi. Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:41, 7 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]

Canclwm Japan: bydd angen y gyfeiriadaeth lawn yn fama, Arwel. Rwyt ti wedi rhoi:

  • Asiantaeth yr Amgylchedd - gwefan bywyd gwyllt

fel cyfeiriad. Fedri di gopio a phastio mewn cromfachau refs e.e.: <ref>{{Dyf gwe |url= |teitl= |awdur= |dyddiad= |gwaith= |cyhoeddwr= |dyddiadcyrchiad=29 Chwefror 2012 |iaith=}}</ref> Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:49, 7 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]