Enw deuenwol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
AvicBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.6.5) (robot yn ychwanegu: km:Binomial nomenclature |
term arall |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Linæus.jpg|bawd|170px|Carolus Linnaeus, sefydlydd y drefn o defnyddio enwau deuenwol]] |
[[Delwedd:Linæus.jpg|bawd|170px|Carolus Linnaeus, sefydlydd y drefn o defnyddio enwau deuenwol]] |
||
'''Enw deuenwol''' mewn [[Bioleg]] yw'r dull safonol o enwi [[rhywogaeth]]. Mae'n cynnwys dau enw: enw'r [[genws]] ac enw arbennig i'r rhywogaeth ei hun; er enghraifft ''Homo sapiens''. |
'''Enw deuenwol''' neu '''enw binomaidd''' mewn [[Bioleg]] yw'r dull safonol o enwi [[rhywogaeth]]. Mae'n cynnwys dau enw: enw'r [[genws]] ac enw arbennig i'r rhywogaeth ei hun; er enghraifft ''Homo sapiens''. |
||
Yr arferion ynglŷn â'u defnyddio yw: |
Yr arferion ynglŷn â'u defnyddio yw: |
Fersiwn yn ôl 20:35, 6 Ebrill 2012
Enw deuenwol neu enw binomaidd mewn Bioleg yw'r dull safonol o enwi rhywogaeth. Mae'n cynnwys dau enw: enw'r genws ac enw arbennig i'r rhywogaeth ei hun; er enghraifft Homo sapiens.
Yr arferion ynglŷn â'u defnyddio yw:
- Fel rheol maent yn cael eu hysgrifennu mewn llythrennau italig.
- Defnyddir llythyren fawr ar gyfer enw'r genws a llythyren fach ar gyfer enw'r rhywogaeth (hyd yn oed os yw'r enw hwnnw yn dod o enw person neu le).
- Yn ffurfiol, mae'r enw deuenwol yn cael ei ddilyn gan gyfenw y person a ddisgrifiodd y rhywogaeth gyntaf
- Mewn papur gwyddonol, rhoir yr enw yn llawn y tro cyntaf; wedi hynny gellir talfyrru enw'r genws; er enghraifft Aderyn y To Passer domesticus yn troi'n P. domesticus
Dechreuwyd y system gan Carolus Linnaeus (1707 - 1778), a geisiodd roi enw deuenwol i bob rhywogaeth oedd yn wybyddus iddo. O ganlyniad, enw Linnaeus sydd ynghlwm wrth y nifer fwyaf o enwau deuenwol, ac fe'i talfyrrir i L.
Daw'r enwau o'r Lladin neu o ieithoedd eraill, ond beth bynnag eu tarddiad maent yn cael eu trin fel pe baent yn Lladin o ran gramadeg.