Sensoriaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: la:Censura |
B robot yn ychwanegu: hu:Cenzúra |
||
Llinell 35: | Llinell 35: | ||
[[he:צנזורה]] |
[[he:צנזורה]] |
||
[[hr:Cenzura]] |
[[hr:Cenzura]] |
||
[[hu:Cenzúra]] |
|||
[[id:Penyensoran]] |
[[id:Penyensoran]] |
||
[[io:Censuro]] |
[[io:Censuro]] |
Fersiwn yn ôl 19:08, 6 Ebrill 2012
Ystyr sensoriaeth ydy pan fo'r rhyddid i gael llefaru neu gyfathrebu gwybodaeth benodol yn cael ei rwystro neu'i orthrymu. Gan amlaf, ystyrir y wybodaeth hon yn sensitif, anghyfleus, yn beryglus neu'r wrthwynebus o safbwynt y llywodraeth, cyfryngau neu gorff rheolaethol arall.
Rhesymeg dros sensoriaeth
Amrywia'r rhesymau am sensoriaeth yn dibynnu ar y math o wybodaeth a gaiff ei sensro:
- Sensoriaeth foesol ydy cael gwared ar ddeunydd a ystyrir yn anweddus neu o foesoldeb amwys. Er enghraifft, yn aml sensorir pornograffi am y rheswm hwn.
- Sensoriaeth filwrol yw'r broses o gadw gwybodaeth filwrol a dulliau milwrol yn gyfrinachol ac allan o law'r gelyn. Defnyddir hyn i wrthsefyll sbio, sef y broses o ddarganfod gwybodaeth filwrol. Yn aml, bydd lluoedd arfog yn ceisio gorthrymu gwybodaeth sydd yn anghyfleus yn wleidyddol er nad oes gan y wybodaeth unrhyw werth milwrol go iawn.
- Sensoriaeth wleidyddol ydy pan nad yw llywodraeth yn rhannu gwybodaeth gyda dinasyddion y wlad. Gwneir hyn er mwyn medru rheoli'r boblogaeth ac er mwyn atal rhwystro'r rhyddid i lefaru a allai achosi gwrthryfel.
- Sensoriaeth grefyddol yw pan fo rhywbeth a ystyrir yn ddadleuol gan rhyw ffydd benodol yn cael ei ddileu. Yn aml bydd hyn yn digwydd pan fo crefydd mawr yn gorfodi cyfyngiadau ar grefyddau llai.
- Sensoriaeth gorfforaethol yw'r broses pan fo golygyddion yn y cyfryngau corfforaethol yn amharu ar y broses o gyhoeddi gwybodaeth a fyddai'n darlunio eu busnes neu eu partneriaid busnes hwy mewn modd negyddol.