Bihar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: mn:Бихар
B r2.7.1) (robot yn tynnu: as:বিহাৰ
Llinell 16: Llinell 16:
[[ang:Bihar]]
[[ang:Bihar]]
[[ar:بيهار]]
[[ar:بيهار]]
[[as:বিহাৰ]]
[[az:Bihar]]
[[az:Bihar]]
[[be:Біхар]]
[[be:Біхар]]

Fersiwn yn ôl 06:36, 6 Ebrill 2012

Lleoliad Bihar yn India

Mae Bihar (Hindi: बिहार, Urdu: بہار) yn dalaith yn nwyrain India. Y brifddinas yw Patna. Mae'r dalaith yn ffinio â Nepal yn y gogledd, â thalaith Uttar Pradesh yn y gorllewin, Jharkhand yn y de a Gorllewin Bengal yn y dwyrain. Hindi yw iaith swyddogol y dalaith, gydag Wrdw fel ail iaith swyddogol.

Ymhlith y mannau pwysig yn y dalaith mae Bodh Gaya, lle daeth y Buddha yn oleuedig. Yn Bihar y dechreuodd Mahatma Gandhi ei ymgyrch dros ryddid wedi iddo ddychwelyd o Dde Affrica.

Mae tir Bihar yn wastad a ffrwythlon, gyda nifer o afonydd, yn cynnwys Afon Ganga, yn llifo trwy'r dalaith. Er hynny, mae'n un o daleithiau lleiaf datblygiedig India, gyda 42.6% yn byw oddi tan lefel tlodi, o'i gymharu a 26.1% yn India yn gyffredinol. Adlewyrchir hyn yn y ffaith fod Bihar yn dioddef lefel uchel o ddacoitaeth (banditri Indiaidd) gyda lladron pen ffordd yn ymosod ar fysus a hyd yn oed ar drenau o bryd i'w gilydd.



Taleithiau a thiriogaethau India
Taleithiau Andhra PradeshArunachal PradeshAssamBiharChhattisgarhGoaGorllewin BengalGujaratHaryanaHimachal PradeshJharkhandKarnatakaKeralaMadhya PradeshMaharashtraManipurMeghalayaMizoramNagalandOrissaPunjabRajasthanSikkimTamil NaduTelanganaTripuraUttarakhandUttar Pradesh
Tiriogaethau Ynysoedd Andaman a NicobarChandigarhDadra a Nagar HaveliDaman a DiuDelhiJammu a KashmirLakshadweepPuducherry