Crug crwn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: no:Rundhaug (gravhaug) |
carnedd gron yn wahanol |
||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
[[Delwedd:Copa Foel Gyw Mehefin 2010.jpg|bawd|Crug ar gopa [[Moel Gyw]] ([[Bryniau Clwyd]].]] |
[[Delwedd:Copa Foel Gyw Mehefin 2010.jpg|bawd|Crug ar gopa [[Moel Gyw]] ([[Bryniau Clwyd]].]] |
||
Pentwr o bridd wedi'i osod gan bobl [[Oes yr Efydd]] fel rhan o'u seremoniau neu i gladdu'r meirw ydy '''crug crwn''' (enw gwrywaidd; Saesneg: ''round barrow''). "Bryncyn" neu "bentwr" ydy prif ystyron y gair [[Cymraeg]] 'crug', sy'n elfen bur gyffredin mewn enwau lleoedd yng Nghymru. ''Cruc'' ydy'r gair yn yr [[Cernyweg|Hen Gernyweg]] a'r [[Llydaweg|Hen Lydaweg]] a ''cruach'' yn yr [[Hen Wyddeleg]]. Mae'r gair i'w gael o fewn rhai ffurfiau [[Lladin]] ar hen enwau lleoedd [[Brythoneg]] megis ''Pennocrucium'', sef Penkridge heddiw ac fe'i benthycir yn y Saesneg fel "''crick''" fel yn y gair "''Crick''-howell". Y lluosog ydy: '''crugiau crwn''' neu '''crugiau crynion'''. |

Mae'r [[carnedd gron|garnedd gron]] yn wahanol i grug crwn. Cerrig yn unig yw carnedd - treuliwyd y pridd gan amser. |
|||
Pan fo siambr neu gell o fewn y crug i ddal y corff yna gelwir y crug yn [[siambr gladdu]]. Pan fo'r glaw a'r gwynt wedi'i herydu yna caiff ei disgrifio fel [[carnedd]]. Yng [[Pedair Cainc y Mabinogi|Nghainc Gyntaf y Mabinogi]] (testun ''[[Llyfr Gwyn Rhydderch]]'', 14eg ganrif) ceir hanes [[Pwyll]] yn gweld [[Rhiannon]]: "Ac yna... yn eistedd ar ben crug, y wreic teccaf or a welsei eiroet." <ref>''[[Geiriadur Prifysgol Cymru]]'', Cyfrol 1, tudalen 613.</ref> |

Fersiwn yn ôl 14:37, 5 Ebrill 2012
- Gweler hefyd: rhestr o grugiau crynion yng Nghymru
Pentwr o bridd wedi'i osod gan bobl Oes yr Efydd fel rhan o'u seremoniau neu i gladdu'r meirw ydy crug crwn (enw gwrywaidd; Saesneg: round barrow). "Bryncyn" neu "bentwr" ydy prif ystyron y gair Cymraeg 'crug', sy'n elfen bur gyffredin mewn enwau lleoedd yng Nghymru. Cruc ydy'r gair yn yr Hen Gernyweg a'r Hen Lydaweg a cruach yn yr Hen Wyddeleg. Mae'r gair i'w gael o fewn rhai ffurfiau Lladin ar hen enwau lleoedd Brythoneg megis Pennocrucium, sef Penkridge heddiw ac fe'i benthycir yn y Saesneg fel "crick" fel yn y gair "Crick-howell". Y lluosog ydy: crugiau crwn neu crugiau crynion.
Mae'r garnedd gron yn wahanol i grug crwn. Cerrig yn unig yw carnedd - treuliwyd y pridd gan amser.
Pan fo siambr neu gell o fewn y crug i ddal y corff yna gelwir y crug yn siambr gladdu. Pan fo'r glaw a'r gwynt wedi'i herydu yna caiff ei disgrifio fel carnedd. Yng Nghainc Gyntaf y Mabinogi (testun Llyfr Gwyn Rhydderch, 14eg ganrif) ceir hanes Pwyll yn gweld Rhiannon: "Ac yna... yn eistedd ar ben crug, y wreic teccaf or a welsei eiroet." [1]
Fe gychwynwyd eu codi tua 3000 C.C. a pharhaodd yr arfer hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (tua 600 C.C.). Codwyd y rhan fwyaf, fodd bynnag yn y cyfnod 2400 - 1500 C.C.[2]
Y crugiau crynion mwyaf
O ran diamedr
- Crug y Bryncws, Llandudoch, Sir Benfro: 50 metr wrth 3.4 metr
- Maes Mochnant Isaf, Powys: 40 metr mewn diamedr.
- Crug Hafod y Bwlch, Wrecsam: 40 metr mewn diamedr a 2.8m o uchder.
- Crug Cefn Coch, Llanfair Dyffryn Clwyd: diamedr o 40m a dwy ffos yn ei amgylchynnu.
- Crugiau Castellmartin, Sir Benfro: 38 metr wrth 2.1m.
O ran uchder
- Crugiau Tremeirchion, Sir Ddinbych: mae un o'r ddau grug sydd ar Foel Efa yn 13 metr o uchder.[3]
- Crug Maes Maelor, Llandegla, Sir Ddinbych: 4.5m o uchder[4]
- Crug Llanharan, Rhondda Cynon Taf: 3.4m o uchder.
- Casgan Ditw, Bwlchgwyn, Sir Ddinbych: 3.0m o uchder.
Gweler hefyd
Mathau gwahanol o olion claddu:
Cyfeiriadau
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru, Cyfrol 1, tudalen 613.
- ↑ English Heritage
- ↑ Gwefan Coflein
- ↑ Gwefan Coflein
Dolennau allanol
- Crug crwn Fan Foel, Gwefan Cyngor Archaeoleg Brydeinig (Cymru)