Persli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: frr:Pitersile
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ku:Gêjnak
Llinell 67: Llinell 67:
[[kk:Ақжелкен]]
[[kk:Ақжелкен]]
[[ko:파슬리]]
[[ko:파슬리]]
[[ku:Gêjnak]]
[[la:Petroselinum]]
[[la:Petroselinum]]
[[lbe:Накьлил уртту]]
[[lbe:Накьлил уртту]]

Fersiwn yn ôl 09:19, 5 Ebrill 2012

Llun botanegol o'r planhigyn Persli

Perlysieuyn blodeuol, defnyddiol iawn yn y gegin yw'r Persli neu'r Perllys (Lladin: Petroselinum Crispum; Saesneg: Parsley) ac fe'i tyfir mewn gerddi i roi blas ar fwyd. Ond mae iddo ei beryglon hefyd. Mae ei flas yn eitha tebyg i flas llysiau'r bara (Sa: coriander), ond nad yw cweit mor gryf.

Gwahanol fathau

Ceir dau fath cyffredin: y ddeilen gyrliog a drafodir yn yr erthygl hon a'r ddeilen llyfn, fflat (Lladin: Petroselinum neapolitanum) sydd â blas cryfach oherwydd fod mwy o'r olew apiol ynddo.[1] Ond tyfu'r math cyrliog mae llawer o arddwyr, gan ei fod yn fwy anhebyg i'r cegid (Sa: hemlock).

Math arall sy'n gyffredin drwy Ewrop ac UDA yw'r 'Perllys gwreiddiog' sy'n cael ei dyfu'n unswydd am ei wreiddyn - sy'n edrych yn debyg iawn i panas.

Planhigyn cynorthwyol

(Saesneg: Companion plant). Mae'r perllys yn cael ei blannu'n aml, nid er mwyn ei fwyta, ond oherwydd ei fod yn atynnu gwenyn i'r ardd. Mae e felly'n cynorthwyo planhigion eraill. Er enghraifft, mae'n cael ei blannu ger planhigion tomato er mwyn dennu'r wenynen feirch, er mwyn iddi hithau ladd 'siani fachog y tomato' (Sa: tomato hornworms) sy'n gloddesta ar neithdar y planhigyn perllys. Yn ai, mae'r perllys yn creu arogl cryf iawn sy'n cuddio arogl y planhigyn tomato, ac felly mae hwnnw'n cael llonydd.

Rhinweddau meddygol

Dywedir fod y gwreiddiau'n cynnwys mwy o ddaioni na'r dail. Mae'r persli'n llawn o Fitamin C, Fitamin A a mwynau gwerthfawr sy'n lleddfu problemau yn yr arennau a'r bledren. Gellir gwasgu'r dail a'r gwreiddiau er mwyn defnyddio'r olew i ladd llau pen.[2][3]

Gofal: dylai merched beichiog beidio bwyta perllys rhag iddynt gael problemau gyda'r arennau.

Cyfeiriadau

  1. Gerddi Osage: persli
  2. Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.
  3. Gwefan Saesneg 'Gardens Ablaze'

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato