Kanji: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
FoxBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: km:កាន់ជិ |
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (robot yn newid: az:Kandzi |
||
Llinell 15: | Llinell 15: | ||
[[ar:كانجي]] |
[[ar:كانجي]] |
||
[[ast:Kanji]] |
[[ast:Kanji]] |
||
[[az: |
[[az:Kandzi]] |
||
[[bat-smg:Kandžė]] |
[[bat-smg:Kandžė]] |
||
[[bg:Канджи]] |
[[bg:Канджи]] |
Fersiwn yn ôl 07:17, 4 Ebrill 2012
Kanji (Japaneg: 漢字) yw'r enw a roddir ar arwyddluniau Tsieinëeg a gaiff eu defnyddio yn system ysgrifennu Japaneg, ynghŷd â'r hiragana a'r katakana, y system rifol Indo-Arabaidd, ac yn llai aml, yr wyddor Ladin (rōmaji). Ystyr y gair kanji yw "Arwyddluniau Han" (arwyddluniau Tsieinëeg). Daeth kanji i Japan yn wreiddiol o Tsieina. Mae tua 2,000 i 3,000 o kanji yn cael defnydd cyson yn Japan heddiw, er fod tua 50,000 i 100,000 ohonynt mewn geiriaduron cynhwysfawr.
Oherwydd i'r arwyddluniau hyn gael eu datblygu o fewn Japaneg, gall un kanji gael ei ddefnyddio i ysgrifennu un neu ragor o wahanol eiriau. I'r darllennydd, mae gan kanji nifer o "ddarlleniadau" gwahanol. Mae penderfynu pa un i'w ddefnyddio yn dibynnu ar y cyd-destun, ystyr, defnydd mewn cyfansoddeiriau, neu hyd yn oed ei leoliad mewn brawddeg. Mae gan rai kanji cyffredin ddeg neu ragor o ddarlleniadau gwahanol. Yn aml, gellir categoreiddio darlleniadau i ddau grŵp: yr on'yomi (darlleniad Sino-Japaneg) neu'r kun'yomi (darlleniad Japaneg).