Bantu (pobl): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: mzn:بانتو |
B r2.7.1) (robot yn newid: la:Bantu |
||
Llinell 32: | Llinell 32: | ||
[[kk:Бантулар]] |
[[kk:Бантулар]] |
||
[[ko:반투족]] |
[[ko:반투족]] |
||
[[la: |
[[la:Bantu]] |
||
[[lbe:Банту халкьру]] |
[[lbe:Банту халкьру]] |
||
[[lt:Bantai]] |
[[lt:Bantai]] |
Fersiwn yn ôl 00:01, 4 Ebrill 2012
Defnyddir y term Bantu am uwch-grŵp ethnig yng nghanolbarth, dwyrain a de Affrica sy'n siarad un o'r ieithoedd Bantu. Mae'n cynnwys dros 400 o grwpiau ethnig, gan gynnwys y Zulu, y Kikuyu, y Kongo, y Tutsi, yr Hutu, y Tswana, y Swazi, a'r Swahili.
Ystyr y gair "Bantu" neu air tebyg mewn llawer o'r ieithoedd Bantu yw "pobl" neu "y bobl". Y farn gyffredinol ar hyn o bryd yw bod y Bantu wedi tarddu o ardal ger ffîn dde-orllewinol Nigeria a Cameroon tua 5,000 o flynyddoedd yn ôl (3000 CC). Dros gyfnod o ganrifoedd, bu lledaeniad graddol tua'r dwyrain a thua'r de. Roeddyny y bobl amaethyddol, ac yn raddol disodlwyd yr helwyr-gasglwyr oedd yn byw yn Affrica i'r de o'r cyhydedd.
Yn y 14eg a'r 15fed ganrif, datblygodd gwladwriaethau Bantu pwerus yn rhan ddeheuol Affrica, yn arbennig yn ardal afon Zambezi, lle adeiladwyd Zimbabwe Fawr gan y brenhinoedd Monomatapa.