Afon Yenisei: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: az:Yenisey vadisi |
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (robot yn newid: vi:Enisei |
||
Llinell 68: | Llinell 68: | ||
[[tr:Yenisey Irmağı]] |
[[tr:Yenisey Irmağı]] |
||
[[uk:Єнісей (річка)]] |
[[uk:Єнісей (річка)]] |
||
[[vi: |
[[vi:Enisei]] |
||
[[zh:葉尼塞河]] |
[[zh:葉尼塞河]] |
Fersiwn yn ôl 00:04, 2 Ebrill 2012
Afon fawr yng nghanolbarth Rwsia yw Afon Yenisei (Rwseg: Енисе́й). Dyma'r afon fwyaf i lifo i'r Cefnfor Arctig, sydd hefyd, gyda hyd o 5,539 km (3,445 milltir), y bumed afon yn y byd o ran ei maint. Gan darddu ym Mongolia, mae'n llifo ar gwrs i gyfeiriad y gogledd i lifo i mewn i Gwlff Yenisei ar y Môr Kara. Yn Siberia mae nifer fawr o afonydd llai yn aberu ynddi, yn cynnwys Afon Angara, sy'n tarddu yn Llyn Baikal, ac Afon Tunguska Isaf.
Yn ei rhannau uchaf mae'n llifo trwy ardaloedd anghysbell lle nad oes llawer o bobl yn byw. Yn ei chwrs canol ceir cyfres o argaeau trydan dŵr sy'n ffynhonnell ynni bwysig yng nghanolbarth Rwsia. Cafodd rhai o'r argaeau hyn eu codi gan lafur penyd o'r gulags ac mae llygredd yn broblem heddiw. Mae'n llifo yn ei blaen i'r gogledd trwy ardal o dirwedd taiga eang, gan dderbyn nifer fawr o afonydd a ffrydiau, i gyrraedd Môr Kara mewn ardal o dirwedd tundra lle mae'n rhewi am hanner y flwyddyn.