Cymathiad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (robot yn newid: cs:Spodoba znělosti |
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (robot yn newid: cs:Hlásková spodoba |
||
Llinell 13: | Llinell 13: | ||
[[br:Heñveladur (yezhoniezh)]] |
[[br:Heñveladur (yezhoniezh)]] |
||
[[ca:Assimilació]] |
[[ca:Assimilació]] |
||
[[cs: |
[[cs:Hlásková spodoba]] |
||
[[da:Assimilation (fonetik)]] |
[[da:Assimilation (fonetik)]] |
||
[[de:Assimilation (Phonologie)]] |
[[de:Assimilation (Phonologie)]] |
Fersiwn yn ôl 10:37, 31 Mawrth 2012
Math o gyfnewid seinegol lle mae sain yn newid i fod yn debycach i sain arall yn ei gyd-destun yw cymathiad.
Gelwir cymathiad lle mae sain yn dylanwadu ar sain ddilynol yn gymathiad blaen. Enghraifft o gymathiad blaen yn y Gymraeg yw simme a glywir ar lafar yn y gorllewin am simne. Yma mae'r m wedi troi'r n sy'n ei dilyn yn m hefyd.
Gelwir cymathiad lle mae sain yn dylanwadu ar sain flaenorol yn gymathiad ôl. Enghraifft o gymathiad ôl yn y Gymraeg yw tac-cu, a glywir yn aml am tad-cu yn y de. Yma mae'r c yn y cu wedi troi'r d ar ddiwedd tad yn c; mae hwn yn gymathiad llwyr. Mae campunt, a glywir yn gyffredin ar lafar am canpunt, yn enghraifft o gymathiad ôl rhannol. Yma mae'r p yn punt wedi dylanwadu ar y llythyren n flaenorol a'i thynnu yn nes at ei sain ei hun, drwy ei throi yn m. Enghraifft o gymathiad ôl sy'n effeithio ar lafariaid yw bwgwth am bygwth.