Al-Fâtiha: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Amirobot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ckb:سورەتی الفاتحة |
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.6.4) (robot yn newid: ckb:سوورەتی ئەلفاتیحە |
||
Llinell 24: | Llinell 24: | ||
[[bs:El-Fatiha]] |
[[bs:El-Fatiha]] |
||
[[ce:Сура Схьадоьллург]] |
[[ce:Сура Схьадоьллург]] |
||
[[ckb: |
[[ckb:سوورەتی ئەلفاتیحە]] |
||
[[da:Al-Fatiha]] |
[[da:Al-Fatiha]] |
||
[[de:Al-Fātiha]] |
[[de:Al-Fātiha]] |
Fersiwn yn ôl 14:35, 29 Mawrth 2012
Al-Fâtiha ("Yr hyn sy'n agor", "agoriad") yw sŵra agoriadol y Coran. Mae'n un o destunau sylfaenol Islam, a elwir mewn rhai o'r Hadithau yn "Fam y Llyfr" (Umm al-Kitab) a "Mam y Coran" (Umm al-Qur'an). Fe'i hadroddir gan bob Mwslim uniongred ar ddechrau ei weddïo defodol, bum gwaith y dydd. Ar ôl adrodd y Fâtiha mae'n arferol dweud âmin (Amen). Mae'n un o'r sŵras byrraf yn y Coran, ac iddi 7 pennill (âya) byr yn unig:
- Yn enw'r Duw Trugarhaol, Rhoddwr pob daioni.
- Moliant i Dduw, Arglwydd y Bydysawd,
- Rhoddwr pob daioni, y Trugarhaol,
- Brenin Dydd y Farn Olaf.
- Fe'th addolwn; atat Ti yn unig trown am gymorth.
- Arwain ni hyd Llwybr Cyfiawnder,
- Llwybr y rhai sydd wedi derbyn Dy ddaioni, y rhai nad ennynant Dy ddicter, y rhai nad ydynt ar gyfeiliorn.