Oberon (lloeren): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Vagobot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: ky:Оберон (планета жандоочусу) |
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: af:Oberon (maan) |
||
Llinell 22: | Llinell 22: | ||
{{Link FA|fr}} |
{{Link FA|fr}} |
||
[[af:Oberon (maan)]] |
|||
[[als:Oberon (Mond)]] |
[[als:Oberon (Mond)]] |
||
[[ar:أوبيرون (قمر)]] |
[[ar:أوبيرون (قمر)]] |
Fersiwn yn ôl 15:34, 27 Mawrth 2012
Oberon yw'r fwyaf allanol o loerennau mawr Wranws:
- Cylchdro: 583,420 km oddi wrth Wranws
- Tryfesur: 1523 km
- Cynhwysedd: 3.03e21 kg
Brenin y Tylwyth Teg yw Oberon yn y ddrama Midsummer Night's Dream gan William Shakespeare.
Cafodd y lloeren ei darganfod gan William Herschel ym 1787.
Mae Oberon ac Umbriel yn ymddangos yn debyg i'w gilydd er bod Oberon 35% yn fwy. Fel lloerennau eraill Wranws, mae Oberon wedi ei chyfansoddi o 40-50% iâ dŵr a 50-60% deunydd creigiog. Mae arwyneb Umbriel yn llawn o graterau ac yn ôl pob tebyg mae wedi bod yn sefydlog ers iddi ffurfio. Mae gan Oberon fwy o graterau -a rhai mwy eu maint- nag Ariel a Thitania. Mae gan rhai ohonynt belydrau o ejecta (deunydd sy'n cael ei allfwrw pan fo gwrthrych yn taro'r arwyneb), yn debyg i'r rhai a welir ar Galisto.
Mae gwaelodion rhai o'r craterau'n dywyll, efallai wedi eu cuddio gan ddeunydd tywyll (o bosib dŵr budr) sydd wedi goferu i mewn i'r crater.
Gwelir anafau ar draws hemisffer deheuol Oberon. Mae hynny'n awgrymu gweithgarwch geolegol yn gynnar yn hanes Oberon.